Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gwyliwch fideo lle mae'r Barnwr Rhanbarth Stephen Gold yn rhoi gair i gall i chi am beth i’w wneud os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch taliadau rhent ac yn wynebu cael eich troi allan o’ch cartref gan eich landlord.
I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.
Yma, cewch wybod sut i osgoi colli eich cartref fel canlyniad i ôl-ddyledion rhent drwy reoli eich dyledion a siarad â’ch landlord.
Beth ddylwn i ei wneud?
Y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold: Y ffordd hawsaf i golli eich cartref yw rhoi’r gorau i dalu’ch rhent. Mae bron yn bendant y bydd angen gorchymyn llys ar eich landlord er mwyn eich troi chi allan. Ar gyfer y gorchymyn hwnnw, bydd rhaid cynnal achos llys. Cewch bapurau llys ynghylch yr achos ac fe gewch chi’r cyfle i esbonio eich ochr chi o’r stori.
Yn aml, bydd gan y barnwr yn y llys y pŵer i ganiatáu i chi aros yn eich cartref cyn belled â’ch bod yn gwneud taliadau penodol. Ond weithiau, yr unig beth y bydd amheuaeth yn ei gylch yw pryd y bydd yn rhaid i chi fynd, nid os fydd angen i chi wneud hynny.
Felly, mae’n synhwyrol gosod blaenoriaeth uchel ar dalu rhent. Os ydych chi’n cael budd-dal tai, cydweithredwch pan ddaw’r amser i’w adnewyddu. Os nad ydych yn ei gael ond yn credu y dylech chi ei gael, gwnewch gais amdano a rhowch yr holl waith papur angenrheidiol i’r bobl budd-dal tai.
Mae hefyd yn synhwyrol i esbonio unrhyw broblemau sydd gennych chi i’ch landlord os ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu cysylltu â nhw’n uniongyrchol. Y naill ffordd neu'r llall, gallwch geisio cyngor gan eich canolfan CAB leol (Cyngor Ar Bopeth), Shelter neu'r Linell Ddyled Genedlaethol. Gallwch ddod o hyd i’w rhifau ffôn yn y ‘Yellow Pages’ a beth bynnag, mae’n bosib bod eich landlord wedi rhoi eu manylion nhw i chi’n barod. Bydd y cyngor hwn yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim.
Beth os yw fy landlord yn mynd â mi i’r llys?
Y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold: Os a phryd y dechreua landlord achos llys, fe gewch ffurflen hawlio sy’n datgan beth mae eich landlord yn ei honni ac am beth mae’n gofyn. Bydd hefyd yn rhoi manylion pryd fydd y gwrandawiad yn digwydd ac ym mha lys sirol. Peidiwch ag anwybyddu’r ffurflen hawlio. Eto, gallwch geisio cyngor diduedd, yn rhad ac am ddim. Bydd manylion lle gallwch geisio cyngor yn dod gyda’r ffurflen hawlio, a bydd y manylion hefyd ar gael gan y llys sirol.
Gyda’r ffurflen hawlio bydd ffurflen amddiffyn. Atebwch gwestiynau’r ffurflen amddiffyn. Ymhlith pethau eraill, bydd y ffurflen amddiffyn yn holi a oes arnoch eisiau i'r llys ystyried gadael i chi dalu'r ôl-ddyledion mewn rhandaliadau a faint allwch chi fforddio ei dalu ar ben y rhent presennol.
Gan gymryd yn ganiataol bod arnoch eisiau aros yn eich cartref, ffolineb llwyr fyddai i chi beidio â mynd i’r gwrandawiad. Hyd yn oed os oes rhaid i chi gymryd amser o’r gwaith i fod yn y llys, neu fod mynd yn anghyfleus, byddwch yno. Mae gormod i’w golli drwy beidio â mynd a gobeithio fod beth bynnag sydd yn eich ffurflen amddiffyn neu mewn llythyr rydych chi wedi ei ysgrifennu i’r llys yn ddigon da heb i chi fod yno hefyd. Dylech chi ystyried peidio â mynd, dim ond os ydych chi wedi dod i gytundeb gyda’r landlord ynghylch popeth a’ch bod chi wedi cadarnhau’r cytundeb yn ysgrifenedig i’r llys.
Alla'i gael cyngor?
Y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold: Yn y llys, mae’n bosib y bydd desg gymorth yno gyda thwrnai neu CAB neu weithiwr arall a all eich cynghori. Ewch atynt. Nid yw’n berthnasol a ydych chi wedi ceisio cael cyngor yn flaenorol ai peidio – wnawn nhw ddim brathu, maent yno i helpu. Gallant eich cynghori ar ddiwrnod y gwrandawiad, ac mae’n bosib y gallant fynd gyda chi i’r gwrandawiad a siarad â’r barnwr ar eich rhan. Mae’r cymorth hwn hefyd yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim. Os dymunwch ddod ag oedolyn sy'n aelod o'ch teulu neu'n ffrind i fod yn gefn i chi, bydd y barnwr fel arfer yn caniatáu iddynt ddod i’r gwrandawiad efo chi.
Beth all y barnwr ei wneud?
Y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold: Y pwynt cyntaf y bydd yn rhaid i’r barnwr ei ystyried yw a ydych chi wedi torri eich tenantiaeth yn y modd y mae’r landlord yn ei honni.
Yna, gan dybio eich bod wedi gwneud hyn, a fu i’r landlord ddilyn y gweithdrefnau cywir cyn i’r achos gael ei ddwyn i’r llys, gan gynnwys anfon neu roi rhybudd i chi ei fod yn ceisio meddiant neu rybudd ymadael. Hefyd, bod y protocol rydym ni wedi edrych arno wedi cael ei ddilyn, lle bo'n briodol. Os yw’r barnwr yn fodloni â hynny i gyd - ac yn ogystal, bod landlord preifat wedi cydymffurfio â’r gyfraith newydd ynglŷn â gwarchod blaendaliadau tenantiaid mewn gosodiadau ar ôl 5 Ebrill 2007, beth ddylid ei wneud? A ddylech chi gael eich gorchymyn i adael, i roi meddiant? Os dylech, yna pryd? Neu, a ddylid gwneud gorchymyn eich bod chi’n gadael ar ddyddiad yn y dyfodol a fyddai ond yn cael ei bennu os na fyddech chi’n gallu cadw at y gofyn i chi dalu’r rhent presennol yn ogystal â swm penodol o’r ôl-ddyledion mewn rhandaliadau? Gelwir hynny yn orchymyn gohiriedig. Neu a ddylid gwneud gorchymyn ataliedig sy’n pennu’r dyddiad y mae’n rhaid i chi adael, ond yn ei rewi cyn belled â’ch bod yn cadw at y gofyn fel hyn. Ceir gwahaniaethau ymarferol pwysig rhwng gorchymyn gohiriedig a gorchymyn ataliedig.
Bydd y math o orchymyn y gall barnwr ei wneud yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych chi a'r seiliau y mae’r landlord wedi dibynnu arnynt ar gyfer meddiannu. Gall hyn fod yn gymhleth felly mae’n bosib y byddwch am gael y cyngor arbenigol hwnnw.
Dyma rai enghreifftiau. Os ydych chi’n rhentu gan awdurdod lleol, mae’n debygol y bydd rhaid i’r barnwr fodloni ei bod yn rhesymol gwneud y gorchymyn meddiannu yn eich erbyn y mae’ch landlord yn holi amdano. Felly, mae’n bosib y gall y barnwr gael ei berswadio i ganiatáu i chi aros er bod ar eich landlord eisiau eich troi chi allan.
Ar y llaw arall, os oes gennych chi landlord preifat a bod o leiaf dau fis o rent yn ddyledus gennych pan gawsoch chi’r rhybudd ei fod yn ceisio meddiant a bod dau fis o rent yn dal yn ddyledus gennych ar ddiwrnod y gwrandawiad, yna, cyn belled â bod y landlord wedi dilyn y gweithdrefnau cywir, yn gyffredinol, mae’n rhaid i orchymyn meddiannu gael ei gwneud. Fel arfer, yn y sefyllfa hon, byddwch yn cael eich gorchymyn i adael o fewn pythefnos. Os byddai hyn yn achosi caledi eithriadol, yna gallai’r barnwr ganiatáu mwy o amser ond fyth mwy na chwe wythnos o'r dyddiad y gwna ei orchymyn.
Yma, cewch wybod sut i osgoi colli eich cartref fel canlyniad i ôl-ddyledion rhent drwy reoli eich dyledion a siarad â’ch landlord.