Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Tenantiaid a lletywyr ag ôl-ddyledion - beth sy’n digwydd

Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent, mae’n bosib i’ch landlord gymryd camau yn eich erbyn. Yma, cewch wybod beth allai ddigwydd os ydych chi’n lletywr neu’n denant mewn tŷ preifat, tŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai (a elwir hefyd yn dai cymdeithasol).

Lletywyr ag ôl-ddyledion rhent - cael eich troi allan heb wrandawiad llys

Lletywr yw rhywun sy’n rhentu ystafell yng nghartref landlord ac sy’n rhannu ystafelloedd gyda’r landlord yn yr un tŷ. Os nad ydych chi’n sicr a ydych chi’n lletywr, defnyddiwch y gwiriwr tenantiaeth isod.

Os ydych chi’n lletywr, nid oes rhaid i’ch landlord anfon llythyr atoch yn dweud wrthych am adael - gall, yn syml, ddweud wrthych am fynd. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’ch landlord roi digon o rybudd i chi (a elwir hefyd yn ‘gyfnod rhesymol o amser’) cyn i chi orfod gadael.

Ar ôl hyn, gall y landlord newid y cloeon ar ystafelloedd rydych wedi’u rhentu, hyd yn oed os ydych chi wedi gadael eich eiddo yno. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r landlord wneud trefniadau i roi eich eiddo yn ôl i chi.

Os nad ydych chi wedi cael digon o amser - beth i’w wneud

Os ydych chi’n lletywr ac yn credu nad ydych chi wedi cael digon o rybudd cyn i chi orfod gadael, cysylltwch â swyddog tai eich cyngor lleol. Mae’n bosib i’ch cyngor weithredu os yw landlord wedi eich troi allan yn anghyfreithlon. Os cymerir camau cyfreithiol, bydd barnwr yn penderfynu os oedd yr amser a roddwyd yn ‘rhesymol’. Dilynwch y dolenni isod i gael manylion cyswllt eich cyngor lleol, a chewch wybod beth a wnânt, o bosib, os oes gennych chi broblemau gyda’ch landlord.

Landlordiaid tai cymdeithasol - camau ychwanegol cyn cymryd camau cyfreithiol

Os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor neu mewn tŷ cymdeithas dai, mae’n rhaid i’ch landlord ddilyn camau ychwanegol cyn mynd â chi i’r llys ynghylch ôl-ddyledion rhent. Mae'n rhaid i’ch landlord wneud y canlynol:

  • ceisio siarad â chi ynglŷn â’r ôl-ddyledion cyn gynted â phosib
  • rhoi gwybodaeth fanwl i chi ynglŷn â’r ôl-ddyledion
  • cynnig cymorth, os oes arnoch ei angen, i hawlio budd-dal tai
  • cytuno i oedi cychwyn achos llys os gwnewch chi gynnig rhesymol i dalu eich ôl-ddyledion rhent

Mae’r camau hyn yn cael eu hadnabod fel y 'protocol cyn-gweithredu'. Drwy ddilyn y ddolen isod, cewch wybod popeth y mae angen i chi ei wybod am y protocol, gan gynnwys posibiliadau eraill yn hytrach nag achos llys.

Tenantiaid tai preifat a thai cymdeithasol - rhybudd gan eich landlord

Os ydych chi’n denant mewn tŷ preifat neu mewn tŷ cymdeithasol, a bod gennych chi ôl-ddyledion rhent, mae’n rhaid i’ch landlord ysgrifennu atoch i ddweud wrthych chi am adael. Dylai landlord anfon neu ddanfon ‘rhybudd ymadael’ neu ‘Rybudd Ceisio Meddiant’ os ydyw am i chi adael.

Os cewch chi rybudd ymadael, dylech geisio cyngor cyfreithiol a chyngor am ddyled cyn gynted â phosib. Gallwch ddod o hyd i dwrnai neu gynghorydd cyfreithiol o Gyngor Cyfreithiol Cymunedol.

Gweler ‘Ôl-ddyledion rhent - cymorth a chyngor’ i gael manylion cyswllt mudiadau sy’n darparu cyngor am ddyled.

Amser a roddir cyn i chi orfod gadael

Caiff yr amser a gewch cyn i chi orfod gadael ei bennu yn y rhybudd a bydd yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych.

Dal ati i siarad â’ch landlord

Daliwch ati i siarad â’ch landlord er mwyn ceisio dod i gytundeb, hyd yn oed os ydyw wedi anfon rhybudd ymadael atoch. Os dewch i gytundeb ac os gwnewch daliadau, ni fyddwch yn colli eich cartref.

Gwneud cynlluniau i fyw yn rhywle arall

Ar yr un pryd, gwnewch gynlluniau fel bod gennych chi rywle arall i fyw os collwch eich cartref. Dylech wneud y canlynol:

  • cysylltu â’ch cyngor lleol sydd â chyfrifoldeb i geisio’ch helpu os ydych chi’n ddigartref
  • siarad â chynghorydd
  • edrych am lety arall y medrwch ei fforddio

Tenantiaid preifat - eich cytundeb tenantiaeth a chamau cyfreithiol

Nid oes rhaid i landlordiaid preifat ddilyn camau penodol cyn dechrau camau cyfreithiol. Fodd bynnag, mae’n bosib bod eich tenantiaeth yn cynnwys amodau y mae angen i'r landlord eu dilyn cyn mynd â chi i’r llys.

Er enghraifft, mae gan rai cytundebau tenantiaeth amod bod rhaid i’r landlord gynnig rhywle arall i chi fyw os ydyw’n gofyn i chi adael eich cartref presennol. Edrychwch yn eich cytundeb tenantiaeth, neu ewch i geisio cyngor drwy ddilyn y ddolen isod, os nad ydych chi’n sicr.

Tenantiaid preifat - cael eich troi allan heb wrandawiad llys

Os oes gennych chi ‘denantiaeth byrddaliad sicr’ neu ‘denantiaeth gyfnodol statudol’, gallwch chi gael eich troi allan heb wrandawiad llys.

Os yw eich landlord yn rhoi rhybudd ymadael i chi, gallai wneud cais am beth a elwir yn ‘broses llwybr carlam’ ar gyfer troi allan. Os penderfyna’r llys y rhoddir y math cywir o rybudd ymadael i chi, mae’n rhaid rhoi gorchymyn meddiannu a fydd yn dweud wrthych am adael eich cartref.

Fideo: Ôl-ddyledion rhent - awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

Black Image

Gwyliwch fideo sy’n esbonio beth i’w wneud os ydych chi’n denant i gyngor neu i gymdeithas dai a bod gennych chi ôl-ddyledion rhent.

Paratoi ar gyfer mynd i’r llys ynghylch ôl-ddyledion rhent

Os yw eich landlord yn mynd â chi i’r llys ynghylch ôl-ddyledion rhent, sicrhewch eich bod wedi paratoi a’ch bod yn mynd i’r gwrandawiad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU