Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn credu y bu i farnwr wneud camgymeriadau yn y gwrandawiad meddiannu gwreiddiol, mae’n bosib y gallwch chi apelio. Yma, cewch wybod sut i wneud cais am apêl a beth y mae’n bosib i’r barnwr benderfynu arno yn y gwrandawiad.
Mae apelio yn golygu gofyn am ailedrych ar benderfyniad y barnwr yn y gwrandawiad gwreiddiol. Mae apelio yn wahanol i ofyn i farnwr ohirio eich troi allan neu ofyn iddo newid y taliadau rydych chi’n eu gwneud er mwyn cael aros yn eich cartref.
Gallwch ond apelio os gallwch chi ddangos bod y barnwr wedi gwneud camgymeriadau ynglŷn â’r gyfraith neu ynglŷn â ffeithiau eich achos wrth wneud penderfyniad. Gelwir rhoi rhesymau ar gyfer cael apêl weithiau yn 'sail ar gyfer apêl’.
Bydd y barnwr a fydd yn penderfynu ar yr apêl yn hŷn, neu o ‘lefel uwch’, na’r barnwr a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.
Os oes arnoch eisiau apelio yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol dylech geisio cyngor cyfreithiol. Gallwch chi ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol oddi ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.
Mae’n bosib i chi ofyn i'r barnwr os cewch chi apelio (a elwir hefyd yn ‘ganiatâd’ neu’n ‘hawl’ i apelio) ar ddiwedd eich gwrandawiad meddiannu gwreiddiol. Os cewch chi ganiatâd i apelio, bydd angen i chi wneud cais yn fuan iawn ar ôl eich gwrandawiad meddiannu gwreiddiol.
Wedi i chi gael caniatâd i apelio, bydd rhaid i chi wneud cais am wrandawiad apêl. Bydd rhaid i chi dalu ffi i’r llys er mwyn cael gwrandawiad apêl. Os ydych chi’n cael budd-daliadau neu os ydych chi ar incwm isel, mae’n bosib na fydd rhaid i chi dalu’r ffi (gelwir hyn hefyd yn ‘ddileu ffioedd’). Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am ddileu ffioedd.
Gallwch ofyn i farnwr lefel uwch am ganiatâd i apelio:
Bydd y barnwr lefel uwch yn penderfynu a fydd yn rhoi caniatâd i chi apelio ai peidio drwy edrych ar bapurau’r llys ar gyfer eich achos neu drwy gynnal gwrandawiad newydd.
Os cewch chi ganiatâd i apelio, bydd gwrandawiad apêl yn cael ei gynnal gyda barnwr lefel uwch yn gwneud penderfyniad. Yn y gwrandawiad, gall y barnwr benderfynu ar nifer o bethau, gan gynnwys:
Gall y barnwr hefyd benderfynu ar bwy ddylai dalu costau’r gwrandawiad apêl (y costau cyfreithiol megis cyflogi twrnai a ffioedd y llys). Er enghraifft, mae’n bosib y bydd y barnwr yn penderfynu mai’r unigolyn sy'n colli a ddylai dalu costau’r ochr arall.