Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Ôl-ddyledion rhent – beth sy’n digwydd ar ôl gwrandawiad a beth ddylech ei wneud

Os yw barnwr yn gwneud gorchymyn meddiannu ar eich cartref oherwydd ôl-ddyledion rhent, neu os cewch chi rybudd eich bod yn cael eich troi allan o'ch cartref, gweithredwch ar unwaith. Gallwch geisio cyngor ynglŷn â beth y gallwch ei wneud er mwyn aros yn eich cartref.

Peidiwch ag anwybyddu llythyrau gan y llys

Os yw eich landlord yn mynd â chi i’r llys, peidiwch ag anwybyddu llythyrau gan y llys. Bydd y llythyrau yn cynnwys gwybodaeth bwysig ac mae’n bosib y bydd angen i chi weithredu ar unwaith i geisio cadw eich cartref.

Gorchymyn meddiannu - beth i'w wneud os cewch chi un ohonynt

Os yw barnwr yn rhoi gorchymyn meddiannu i chi (a elwir weithiau yn orchymyn meddiannu ‘llawn’) mewn gwrandawiad llys, mae angen i chi geisio cyngor am ddyledion a chymorth cyfreithiol ar unwaith. Gallwch chi ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol oddi ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.

Rhybudd o droi allan – beth fydd yn digwydd a beth i’w wneud os cewch chi un ohonynt

Os nad ydych chi’n gadael eich cartref erbyn y dyddiad a roddir mewn gorchymyn meddiannu llawn, gall eich landlord ofyn i’r llys am ‘warant meddiannu’. Os bydd y llys yn rhoi gwarant, bydd rhybudd o droi allan yn cael ei anfon atoch a fydd yn cynnwys y dyddiad y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref. Os nad ydych chi’n mynd, gall beili eich troi chi allan. Bydd y gost o wneud hyn yn cael ei ychwanegu at yr arian sy’n ddyledus gennych eisoes.

Ceisio cyngor ariannol a chyfreithiol

Mae'n hanfodol i chi geisio cyngor cyfreithiol ac ariannol ar unwaith i geisio atal neu ohirio cael eich troi allan. Gall twrnai neu gynghorydd eich helpu gyda’ch opsiynau, gan gynnwys gofyn i farnwr ohirio eich troi allan neu adael i chi aros yn eich cartref. Gallwch chi ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol oddi ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.

Cysylltu â'ch cyngor lleol

Os ydych chi’n bryderus ynghylch cael eich troi allan, cysylltwch â’ch cyngor lleol. Dylent geisio eich helpu os ydych yn ddigartref.

Gofyn i’r barnwr atal eich troi allan

Gallwch ofyn i farnwr ‘atal y warant meddiannu’. Golyga hyn y bydd yn gohirio eich troi allan neu yn caniatáu i chi aros yn eich cartref os ydych chi’n medru gwneud taliadau eto. Cynhelir gwrandawiad newydd ond ni fydd y barnwr yn cytuno yn awtomatig i atal y warant meddiannu – mae’n dibynnu ar beth fydd yn digwydd yn y llys.

Os ydych chi am atal gwarant, ceisiwch gyngor ar unwaith drwy ddilyn y dolenni isod.

Gwneud cais i atal a mynd i’r llys

Os oes arnoch eisiau gwneud cais i atal, dylech chi gwblhau ffurflen gais ar unwaith ac un ai ei hanfon neu ei danfon i'r llys. Dilynwch y ddolen isod er mwyn llwytho ffurflen gais oddi ar y we.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r llys fod arnoch angen gwrandawiad ar fyr rybudd (cyn dyddiad eich troi allan). Bydd rhaid i chi dalu ffi i’r llys pan fyddwch chi’n gwneud cais i ohirio'r warant. Os ydych chi’n cael budd-daliadau neu os ydych chi ar incwm isel, mae’n bosib na fydd rhaid i chi dalu’r ffi (gelwir hyn hefyd yn ‘ddileu ffioedd’).

Bydd y gwrandawiad llys newydd fel eich gwrandawiad meddiannu gwreiddiol.

Gorchymyn ataliedig neu orchymyn amser – beth i’w wneud os cewch chi un ohonynt

Os cewch chi orchymyn ataliedig neu orchymyn amser, dylech wneud y taliadau sydd wedi eu pennu yn y gorchymyn neu bydd yn bosib i chi golli eich cartref.

Gofyn i’r llys newid eich taliadau

Os yw eich amgylchiadau’n newid mewn ffordd nad oedd posib gwybod amdani o flaen llaw, gallwch chi ofyn i farnwr mewn gwrandawiad newid faint rydych chi’n ei dalu. Dilynwch y dolenni isod er mwyn cael cyngor cyfreithiol a llwythwch ffurflen gais oddi ar y we am wrandawiad i newid faint rydych yn ei dalu.

Bydd rhaid i chi dalu ffi i’r llys i gael gwrandawiad newydd. Os ydych chi’n cael budd-daliadau neu os ydych chi ar incwm isel, mae’n bosib na fydd rhaid i chi dalu’r ffi (a elwir hefyd yn ‘ddileu ffioedd’). Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am ddileu ffioedd.

Apelio yn erbyn penderfyniad eich gwrandawiad meddiannu

Weithiau, gallwch apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan y barnwr yn eich gwrandawiad meddiannu gwreiddiol os ydych chi’n credu y bu i gamgymeriad gael ei wneud. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i apelio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU