Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Ôl-ddyledion rhent - beth all y barnwr ei benderfynu

Gall barnwr wneud penderfyniadau gwahanol, a elwir yn orchmynion, ynglŷn â beth fydd yn digwydd ar ôl gwrandawiad meddiannu ynghylch ôl-ddyledion rhent. Yma, cewch wybod beth mae’r penderfyniadau hyn yn ei olygu a sut y cewch wybod pa orchymyn sydd wedi cael ei roi.

Gorchmynion y gall barnwr eu gwneud

Ceir pedwar gwahanol fath o orchymyn y gall barnwr eu gwneud. Caiff y rhain eu hesbonio isod.

1: Gorchymyn meddiannu

Mae gorchymyn meddiannu yn golygu nad oes gennych chi’r hawl i aros yn y tŷ rydych yn ei rentu ar ôl y dyddiad a roddir yn y gorchymyn. Bydd y dyddiad un ai 14 diwrnod neu 28 diwrnod ar ôl eich gwrandawiad llys. Weithiau, gelwir y gorchymyn hwn yn orchymyn meddiannu ‘llawn’.

Os bydd y barnwr yn gwneud gorchymyn meddiannu, cewch wybod yn y gwrandawiad. Byddwch hefyd yn cael copi o’r gorchymyn drwy'r post. Bydd y gorchymyn yn dweud bod rhaid i chi adael eich cartref (a elwir hefyd yn ‘rhoi meddiant’) erbyn y dyddiad a roddir yn y gorchymyn.

Rhybudd o droi allan

Os nad ydych chi’n gadael eich cartref erbyn y dyddiad a roddir, gall eich landlord ofyn i’r llys eich troi chi allan. Gall wneud hyn drwy ofyn i’r llys am ‘warant meddiannu’. Os bydd y llys yn rhoi gwarant, bydd rhybudd o droi allan yn cael ei anfon atoch. Bydd hyn yn cynnwys y dyddiad y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth i’w wneud os cewch chi orchymyn meddiannu.

2: Gorchymyn meddiannu ataliedig

Mae gorchymyn meddiannu ataliedig yn golygu y gallwch aros yn eich cartref os gwnewch chi’r taliadau a bennir yn y gorchymyn. Fel arfer, mae angen i chi dalu eich rhent yn ogystal â swm i leihau eich ôl-ddyledion.

Os nad ydych chi’n gwneud y taliadau, gall eich landlord ofyn i’r llys eich troi chi allan. Byddwch yn gwybod bod y barnwr wedi gwneud gorchymyn meddiannu ataliedig oherwydd:

  • gofynnir i chi gytuno i wneud taliadau rheolaidd yn eich gwrandawiad
  • bydd y llys yn anfon copi o’r gorchymyn i chi a fydd yn cynnwys y geiriau ‘Gorchymyn meddiannu (Ataliedig)’

3: Gorchymyn ariannol

Mae gorchymyn ariannol yn golygu bod rhaid i chi dalu'r swm sydd wedi ei bennu yn y gorchymyn i'r landlord. Os nad ydych chi’n gwneud y taliadau angenrheidiol, gall y llys weithredu i adennill yr arian, gan gynnwys:

  • didynnu arian o’ch cyflog neu o’ch cyfrif banc
  • anfon beili i gymryd pethau sy’n berchen i chi oddi arnoch

Ni all gorchymyn ariannol gael ei ddefnyddio gan landlord i droi tenant allan. Fodd bynnag, os bydd gennych ôl-ddyledion rhent ar ôl i orchymyn ariannol gael ei wneud, gall eich landlord fynd at y llys eto. O ganlyniad, gall y barnwr benderfynu rhoi gorchymyn meddiannu i’r landlord ar ddyddiad diweddarach.

4: Gorchmynion meddiannu gyda dyfarniad ariannol

Gall barnwr ychwanegu dyfarniad ariannol i unrhyw un o’r gorchmynion meddiannu. Golyga hyn bod swm penodol o arian yn ddyledus gennych, sydd fel arfer yn cynnwys:

  • eich ôl-ddyledion rhent
  • ffioedd y llys
  • costau cyfreithiol eich landlord

Ni fydd y dyfarniad ariannol yn berthnasol os byddwch chi’n talu eich ôl-ddyledion yn ogystal â’r swm sydd wedi’i bennu mewn gorchymyn meddiannu ataliedig.

Fodd bynnag, bydd y dyfarniad ariannol yn berthnasol os na fyddwch yn talu’r swm sydd wedi’i bennu yn y gorchymyn meddiannu ataliedig sy’n gysylltiedig â’r dyfarniad. Os na fyddwch yn talu, mae’n bosib i’r landlord ofyn i’r llys roi’r cyfarwyddiadau sydd yn y gorchymyn a’r dyfarniad ar waith.

Beth ddylech chi ei wneud os cewch chi orchymyn

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth i’w wneud ynghylch gorchmynion meddiannu a rhybuddion o droi allan

Allweddumynediad llywodraeth y DU