Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Digartrefedd

Mae cyfreithiau i'ch helpu, pa un a ydych yn cael eich troi allan yn annheg gan eich landlord, neu os nad ydych chi na'ch plant yn ddiogel lle rydych yn byw. Dewch i wybod sut y gallwch gael cymorth a chefnogaeth os ydych yn ddigartref neu os ydych yn wynebu'r perygl o golli'ch cartref.

Rhesymau dros fod yn ddigartref

Dydy bod yn ddigartref ddim yn golygu byw ar y stryd yn unig. Rydych yn cael eich ystyried yn ddigartref dan y gyfraith hefyd, ac â hawl i gael help i ddod o hyd i le i fyw (neu i aros yn eich cartref) am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • os oes gennych le i fyw, ond yn methu ag aros yno oherwydd eich bod yn poeni am eich diogelwch personol oherwydd y bygythiad o drais, camdriniaeth neu harasio; does dim rhaid i'r bygythiad ddod o du rhywun sy'n byw yn eich cartref, gall gynnwys cymydog neu gyn bartner
  • os oes gennych le i fyw, ond ddim yn gallu aros yno oherwydd bod eich cartref mewn cyflwr gwael iawn ac yn berygl i iechyd
  • os nad oes gennych chi le i fyw ynddo gyda'ch teulu
  • os ydych wedi cael eich cloi allan o'ch cartref a ddim yn cael mynd yn ôl

Cael eich troi allan gan eich landlord

Os ydych yn wynebu bod yn ddigartref oherwydd bod eich landlord am ichi adael eich tw neu fflat a chithau ddim eisiau gadael, rhaid i'ch landlord gael gorchymyn meddiannu gan lys. Mae'r gyfraith yn eich amddiffyn rhag harasio a chael eich troi allan yn anghyfreithlon.

Llety clwm

Os darperir eich cartref fel rhan o'ch swydd, fe'i gelwir yn llety clwm. Os gallech ddod yn ddigartref oherwydd fod eich swydd ar fin dod i ben, gallwch gael cyngor gan fudiadau cyngor tai. Gallech hefyd gysylltu â'ch cyngor lleol, gan y bydd angen i chi wneud rhai pethau penodol o bosibl i ddangos y byddwch yn ddigartref, megis darparu prawf o hyn gan eich cyflogwr.

Cael gwybod am gymorth gan eich cyngor lleol

Os ydych yn ddigartref neu'n debygol o ddod yn ddigartref heb wneud dim i haeddu hynny, efallai y bydd yn rhaid i'r cyngor gynnig rhywle arall i chi aros neu i fyw yno. Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Cael help a chyngor

Mae'n bwysig gweithredu'n gyflym os ydych chi'n ddigartref neu'n wynebu digartrefedd. Gorau po gyntaf i chi gael help, gan y bydd yn haws rhoi trefn ar eich dyledion, dod o hyd i rywle addas i fyw, neu atal y landlord rhag eich troi allan. Rhaid i gynghorau lleol sicrhau bod cyngor am ddigartrefedd ar gael i bawb yn ddi-dâl.

Allweddumynediad llywodraeth y DU