Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cael gwybod beth y gallwch ei wneud os ydych yn gwybod bod sgwatwyr mewn eiddo a ddylai fod yn wag, a pha gamau y gellir eu cymryd i gael gwared ohonynt o'r eiddo.
Ystyr sgwatio yw pan fydd rhywun yn meddiannu eiddo gwag nad ydynt yn berchen arno nac yn ei rentu, a heb ganiatâd y perchennog. Mae hyn yn aml yn digwydd heb yn wybod i'r perchennog a heb unrhyw hawl cyfreithiol i wneud hynny.
Nid yw bod ar eiddo rhywun arall heb ganiatâd yn drosedd ynddi'i hun. Ond os bydd sgwatwyr yn cyflawni trosedd, megis achosi difrod troseddol neu ddwyn, gellir cosbi eu hymddygiad o dan y gyfraith gyffredinol a gall yr heddlu gymryd camau yn eu herbyn.
Mae eiddo gwag sy'n perthyn i'r cyngor fel arfer yn aros i gael ei atgyweirio, ei ailaddurno neu ei ailosod i denantiaid eraill ac mae cynghorau'n awyddus iddynt aros yn wag fel y caiff pobl sydd ar y rhestr aros y cyfle i gael cartref.
Weithiau, cymydog yw'r person cyntaf i wybod bod sgwatwyr yn byw mewn eiddo penodol. Os gwelwch rywun yn torri i mewn i eiddo gwag, dylech ffonio'r heddlu'n syth ac wedyn dweud wrth eich gofalwr neu'ch swyddog tai os oes gennych un. Os gwelwch unrhyw ymddygiad amheus arall neu rywun sy'n ymddangos fel ei fod yn sgwatio mewn eiddo, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae'r cyfreithiau ar sgwatio yn eithaf cymhleth. Mewn rhai achosion gall fod yn anodd i'r cyngor gael gwared ar rywun sy'n sgwatio, yn enwedig os ydynt wedi bod yn yr eiddo am gyfnod hir.
Gall fod yn sawl mis cyn y gellir gosod eiddo y mae sgwatwyr yn byw ynddo eto. Y rheswm am hyn efallai yw oherwydd yr amser mae'n ei gymryd yn y llys i symud sgwatwyr, neu oherwydd gwaith atgyweirio y bydd yn rhaid ei wneud i'r eiddo o bosib unwaith y byddant wedi'u symud.