Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rhoi gwybod am eiddo gwag neu adfeilion

Mae adran rheoli adeiladau eich cyngor lleol yn gyfrifol am sicrhau y rhoddir sylw i adfeilion ac adeiladau anniogel y mae'r cyhoedd wedi hysbysu'r cyngor amdanyn nhw, er mwyn sicrhau nad yw pobl yn yr ardal mewn unrhyw berygl o'u herwydd.

Rhoi gwybod am eiddo gwag

Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau swyddog eiddo gwag a'u gwaith nhw yw gweithio gyda pherchnogion i ddod o hyd i atebion i broblemau y gall tai gwag eu hachosi, megis gwneud i'r stryd edrych yn anneniadol.
Gall cynghorau lleol ddelio'n gyfreithiol ag adfeilion preifat sy'n anniogel ac yn agored i'r cyhoedd fynd iddyn nhw.

Pam y gall tŷ fod wedi'i adael yn wag

Gall eiddo fod yn wag am amrywiol resymau: Efallai bod y perchennog:

  • yn yr ysbyty, mewn gofal preswyl neu mewn carchar
  • wedi marw a bod anghydfod am berchnogaeth neu na ellir olrhain y berthynas agosaf
  • wedi cael ei gartref wedi'i ailfeddiannu
  • methu fforddio talu am drwsio'r eiddo
  • eisiau gadael i'w blant ddelio â'r eiddo ar ôl iddo farw

Sut mae gwybod os yw tŷ wedi bod yn wag ers cyfnod hir

Er nad yw'n hawdd dweud yn sicr bob amser bod tŷ wedi bod yn wag am gyfnod, mae'n bosib gwneud rhagdybiaethau bod yr adeilad yn wag yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • mae trawstiau neu sgriniau metel dros ddrysau a ffenestri'r eiddo
  • ni welir neb yn mynd a dod o'r eiddo
  • mae'r gerddi yn y tu blaen a'r tu cefn wedi tyfu'n wyllt
  • mae sbwriel wedi'i daflu o flaen yr eiddo neu'r tu ôl iddo
  • mae plâu a llygod mawr yn yr adeiladau cyfagos
  • mae tystiolaeth o sgwatwyr neu weithgareddau anghyfreithlon
  • mae'r tŷ yn adfeilio, gyda ffenestri a drysau wedi torri, neu dyllau yn y to


Beth sy’n digwydd nesaf?

  • dylech gysylltu â'ch cyngor lleol
  • bydd adran rheoli adeiladau eich cyngor lleol yn ymweld â'r safle i weld pa gamau y dylid eu cymryd
  • os yw'r adeilad yn adfail ac yn anniogel, bydd y cyngor yn anfon rhybudd at y perchennog yn rhoi 48 awr iddyn nhw ddiogelu eu hadeilad
  • os na ellir dod o hyd i'r perchennog o fewn cyfnod amser rhesymol, neu os yw'r adeilad yn berygl uniongyrchol i'r cyhoedd, yna bydd yr adran rheoli adeiladau yn trefnu bod yr adeilad yn cael ei wneud yn ddiogel er mwyn atal pobl rhag mynd i mewn iddo
  • efallai y byddant hefyd yn ystyried gwneud cais am Orchymyn Rheoli Anheddau Gwag ar gyfer eiddo sydd wedi'i adael yn wag am dros chwe mis er mwyn galluogi'r cyngor i sicrhau y gellir ei ailddefnyddio

Adeiladau peryglus

Gallai adeiladau peryglus ddisgyn unrhyw bryd, yn enwedig dan amodau tywydd gwael, ac maent yn risg i ddiogelwch y cyhoedd. Dylech roi gwybod i'ch cyngor lleol amdanynt.

Beth yw adeilad peryglus?

Wrth i adeiladau fynd yn hŷn, gall eu strwythur wanhau. Gall adeiladau fynd yn beryglus hefyd o ganlyniad i ddiffyg cynnal a chadw, tân, stormydd, neu ffrwydradau.

Gall namau eraill achosi perygl, gan gynnwys:

  • llechi neu deils sy'n rhydd neu'n disgyn
  • waliau neu ffensys sydd mewn perygl o ddymchwel
  • simneiau ansefydlog

Rhoi gwybod i'ch cyngor am adeilad peryglus

Os ydych yn credu bod adeilad neu strwythur yn beryglus, rhowch wybod i'ch cyngor lleol. Byddant yn archwilio eich adroddiad cyn gynted ag y bydd syrfëwr ar gael.
Gan amlaf, bydd y cyngor yn cysylltu â pherchennog yr adeilad ac fe'u gorfodir i gael gwared â'r perygl ar eu cost eu hunain. Bydd eich cyngor yn delio ag unrhyw berygl uniongyrchol oni all perchennog yr adeilad wneud hynny.

Os oes perygl uniongyrchol a'i fod yn fygythiad i fywyd, bydd y cyngor yn cysylltu â'r gwasanaethau brys i gau'r man peryglus, a threfnu i wneud gwaith brys ar yr adeilad. Gall hyn gynnwys:

  • gosod sgaffaldiau neu ategion i ddiogelu'r adeilad nes y gellir trefnu i wneud gwaith parhaol
  • cael gwared â'r perygl yn llwyr

Rhoi gwybod am adeilad peryglus yn eich ardal
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth am roi gwybod am adeilad peryglus.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU