Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Paratoi ar gyfer mynd i’r llys ynghylch ôl-ddyledion rhent

Os yw eich landlord yn mynd â chi i’r llys oherwydd ôl-ddyledion rhent, sicrhewch eich bod wedi paratoi a’ch bod yn mynd i’r gwrandawiad. Gallech chi gael cymorth gan gynghorydd, neu ewch i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol rhad ac am ddim. Yma, cewch wybod pa gwestiynau y mae’n bosib y gofynnir i chi a chewch wylio fideo ynglŷn â’r broses.

Os yw eich landlord yn dechrau achos llys

Os na fedrwch chi ddod i gytundeb ynglŷn â’ch ôl-ddyledion rhent, mae’n bosib y bydd eich landlord yn gofyn i’r llys eich troi chi allan. Gelwir hyn yn gwneud 'hawliad am feddiannu'. Os gwna eich landlord hawliad am feddiannu, fe gewch y gwaith papur canlynol gan y llys:

  • copïau o’r ffurflenni hawliad am feddiannu wedi’u cwblhau gan eich landlord
  • dyddiad gwrandawiad llys
  • ffurflen amddiffyn wag a chanllawiau ar sut y dylech ei chwblhau
  • manylion cyswllt y llys
  • gwybodaeth am fudiadau sy’n cynnig cyngor am adfeddiant yn rhad ac am ddim

Cwblhau’r ffurflen amddiffyn

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cwblhau’r ffurflen amddiffyn ac yn ei dychwelyd erbyn y dyddiad a roddir yng ngwaith papur y llys. Dyma eich cyfle i roi gwybod pam fod gennych chi ôl-ddyledion rhent, ac i roi gwybod os ydych chi’n anghytuno gydag unrhyw beth y mae'r landlord wedi ei ysgrifennu yn ei hawliad am feddiannu. Mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu ffioedd llys ychwanegol os na fyddwch yn darparu gwybodaeth yn y ffurflen amddiffyn, ac o ganlyniad, bydd oedi i’ch achos llys.

Gwrandawiadau llys - pryd y digwyddant

Os na chwblhewch y ffurflen amddiffyn, bydd y gwrandawiad yn dal i fynd yn ei flaen.

Ni chynhelir gwrandawiadau os oes gennych chi denantiaeth byrddaliad sicr neu denantiaeth gyfnodol statudol a bod eich landlord wedi mynd i’r llys o dan y broses llwybr carlam. Fel arall, ceir gwrandawiad meddiannu yn y llys bob amser os oes ar eich landlord eisiau i chi adael y tŷ cyn i'ch cytundeb tenantiaeth ddod i ben.

Mynd i’r llys a cheisio cyngor

Mae’n hanfodol eich bod chi’n mynd i’r gwrandawiad llys. Dyma eich cyfle i roi gwybod i’r barnwr pam fod gennych chi ôl-ddyledion rhent, a rhoi gwybod iddo sut allwch chi ad-dalu ôl-ddyledion yn y dyfodol. Os nad ewch chi, mae’n debygol iawn y bydd y barnwr yn rhoi’r hawl i’ch landlord eich troi allan o’ch cartref. Cyn gynted ag y cewch chi ddyddiad ar gyfer y gwrandawiad llys, dylech chi geisio cymorth gan gynghorydd dyled a/neu dwrnai - os nad ydych chi wedi gwneud hyn eisoes. Gall eich cynghorydd eich helpu i lenwi’r ffurflen amddiffyn.

Gallwch chi ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol oddi ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol - gweler y ddolen isod. Mae Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn cynnig gwybodaeth am ddim ynghylch problemau cyfreithiol ac fe allant eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorwyr lleol. Mae gwybodaeth ar gael ar-lein neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0845 345 4345 (9.00 am tan 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 9.00 am tan 12.30 pm ddydd Sadwrn).

Gweler ‘Ôl-ddyledion rhent - cymorth a chyngor’ i gael manylion mudiadau sy’n darparu cyngor am ddyledion.

Paratoi ar gyfer y gwrandawiad

Dylech chi baratoi yn ofalus ar gyfer diwrnod y gwrandawiad drwy:

  • edrych drwy’r gwaith papur y mae’r llys wedi ei anfon atoch, fel eich bod yn medru holi eich cynghorydd ynglŷn â phethau nad ydych chi’n eu deall
  • meddwl am y cwestiynau y mae’n bosib y gofynnir i chi
  • casglu’r gwaith papur y mae’n bosib y bydd arnoch chi ei angen

Cwestiynau ynghylch eich materion ariannol

Yn y llys, mae’n bosib y gofynnir cwestiynau i chi ynghylch:

  • beth allwch chi ei dalu tuag at ôl-ddyledion rhent
  • pryd fyddwch chi’n medru gwneud taliadau

Byddwch yn realistig ynglŷn â’r atebion y gallwch eu rhoi. Mae’n rhaid i chi gadw at unrhyw gytundeb a wnewch yn y llys i ad-dalu ôl-ddyledion. Os na wnewch chi, mae’n bosib y byddwch chi dal mewn perygl o golli eich cartref os ydych chi'n cynnig gwneud taliadau na fyddwch chi'n gallu eu fforddio yn ddiweddarach.

Mae’n debygol y gofynnir i chi am eich materion ariannol hefyd. Ceisiwch ddod â phrawf i'r gwrandawiad llys megis slipiau cyflog, datganiadau banc, cynigion swyddi, neu lythyrau ynghylch budd-daliadau.

Gwaith papur y mae’n bosib y bydd arnoch ei angen yn y llys

Dyma enghreifftiau o'r gwaith papur y mae'n bosib y bydd ei angen arnoch yn y llys:

  • llythyr, neu gopi o ffurflen, sy’n profi eich bod wedi gwneud cais am fudd-dal tai
  • datganiad banc neu dderbynneb sy’n dangos y taliadau rhent rydych chi wedi’u gwneud
  • llythyr gan feddyg os ydych chi, neu rywun rydych chi’n gofalu amdano, wedi bod yn sâl, a bod hyn wedi effeithio ar eich gallu i dalu’r rhent
  • eich datganiadau banc
  • P45 os mai canlyniad colli eich swydd yw’r ôl-ddyledion rhent

Mynd â rhywun gyda chi i’r gwrandawiad

Gallwch ddod â rhywun gyda chi i’r gwrandawiad, fel cynghorydd neu ffrind, ond mae’n rhaid iddo fod yn oedolyn.

Fideo: mae gwrandawiad meddiannu ar droed - beth ddylwn i ei wneud?

Theres going to be a possession hearing_320x120

Dilynwch y ddolen isod er mwyn gwylio fideo sy’n esbonio beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n cael eich dwyn gerbron y llys ar gyfer gwrandawiad meddiannu.

Y gwrandawiad - beth sy’n digwydd ar y diwrnod

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut beth fydd y gwrandawiad a pha benderfyniadau allai’r barnwr eu gwneud.

Allweddumynediad llywodraeth y DU