Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mynd i'r llys os ydych yn ddall neu â nam ar eich golwg

Os ydych yn ddall neu â nam ar eich golwg, dylai'r llys ddarparu gwybodaeth am y cymorth a'r cyfleusterau cyfathrebu sydd ar gael i chi.

Cyfleusterau a gwasanaethau mewn llysoedd

Dylai fod yn bosibl i chi ymweld â'r llys cyn bod angen i chi fynd i'r llys yn ffurfiol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddod yn gyfarwydd â'r llys a gofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych i'r swyddog gwasanaeth cwsmeriaid.

Er mwyn trefnu ymweliad â'r llys ymlaen llaw, cysylltwch â swyddog gwasanaeth cwsmeriaid y llys y disgwylir i chi fynd iddo. Gallwch ddod o hyd i fanylion ynglŷn â sut i gysylltu â'r llys drwy ddefnyddio’r wasanaeth dod o hyd i lys ar-lein Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Gwybodaeth mewn fformatau amgen

Mae tâp sain o'r enw 'Cyflwyniad i'r gwasanaeth llys' ar gael o'r swyddog gwasanaeth cwsmeriaid yn y llys. Mae'r taflenni 'Tyst yn y Llys' a 'Dioddefwr Trosedd' hefyd ar gael mewn fformat Braille a fformat sain o'r llys a'r heddlu.

Dylech fynd at y llys a'r heddlu fel eich pwynt cyswllt cyntaf a gallant roi gwybod i chi ba ffurflenni a thaflenni eraill sydd ar gael mewn fformatau amgen megis print bras a Braille. Fel arall, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Cŵn cymorth a chŵn tywys

Caniateir cŵn cymorth a chŵn tywys yn y llys. Gall fynd i'r llys, yn enwedig fel aelod o reithgor, olygu diwrnodau hir. Os oes angen, dylai fod yn bosibl i rywun ofalu am eich ci tra byddwch yn yr ystafell lys.

Os yw sesiwn y llys yn hir a bod angen saib ar eich ci, efallai y bydd angen i chi drefnu hyn gyda'r barnwr drwy staff y llys.

Efallai y bydd rhywun yn gallu mynd â'ch ci am dro hefyd.

Os oes angen unrhyw un o'r gwasanaethau hyn arnoch, cysylltwch ag aelod o staff y llys, a byddant yn gallu trafod eich gofynion a gwneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a mynd i'r llys

O dan amgylchiadau penodol, mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn caniatáu i gyrff cyhoeddus i gyfiawnhau triniaeth llai ffafriol er mwyn sicrhau eu bod yn taro cydbwysedd teg rhwng hawliau pobl anabl a phryderon ehangach.

Er enghraifft, mae'n debygol y bydd modd cyfiawnhau penderfyniad i beidio â gwysio person dall ar gyfer gwasanaeth rheithgor mewn achos penodol lle yr ystyrir ei bod yn hanfodol bod y rheithgor yn gallu ystyried cryn dipyn o'r dystiolaeth yn weledol.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU