Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eithriadau o wasanaethu fel rheithiwr

Gall y rhan fwyaf o bobl rhwng 18 a 70 oed gael eu gwysio i weithredu'n rheithiwr. Fodd bynnag, nid yw rhai pobl yn gymwys i wneud gwasanaeth rheithgor.

Gwasanaeth rheithgor

Os nad ydych yn sicr p'un a yw'r rhestr ganlynol yn gymwys i chi, gallwch ofyn eich meddyg.

Nid ydych yn gymwys i wneud gwasanaeth rheithgor os oes gennych unrhyw anhwylder neu anabledd meddwl, neu os ydych wedi cael anhwylder neu anabledd o'r fath ac, oherwydd y cyflwr hwnnw:

  • rydych yn preswylio mewn ysbyty neu sefydliad tebyg arall ar hyn o bryd
  • rydych yn ymweld ag ymarferydd meddygol yn rheolaidd i gael triniaeth
  • rydych o dan warcheidwaeth o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • nid oes gennych y galluedd meddyliol, o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005, i wneud penderfyniadau y mae'n ofynnol i rywun sy'n gwasanaethu fel rheithiwr eu gwneud

Os cawsoch eich galw am wasanaeth rheithgor a bod angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor:

Jury Summoning, Freepost LON 19669, Pocock Street, London SE1 0YG

Ffôn: 0845 803 8003 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm)

Codir cyfraddau lleol am alwadau.

e-bost: jurysummoning@hmcts.gsi.gov.uk

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU