Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mynd i'r llys os ydych yn fyddar neu â nam ar eich clyw

Os ydych yn fyddar neu â nam ar eich clyw, dylai'r llys ddarparu gwybodaeth am y cymorth a'r cyfleusterau cyfathrebu sydd ar gael i chi.

Cyfleusterau mewn llysoedd

Mae dolenni sain wedi'u gosod yn y rhan fwyaf o ystafelloedd llys, yn cynnwys cyfleusterau is-goch. Os ydych o'r farn y gallai hyn eich helpu chi, rhowch wybod i'r swyddog gwasanaeth cwsmeriaid yn y llys cyn gynted â'ch bod yn gwybod y bydd yn rhaid i chi fynd i wrandawiad.

Os ydych yn dymuno, gallwch ymweld â'r ystafell lys cyn y gwrandewir yr achos er mwyn cael sicrwydd y bydd y cyfleuster o gymorth i chi. Er mwyn trefnu ymweliad â'r llys ymlaen llaw, cysylltwch â Swyddog Gwasanaeth Cwsmeriaid y llys y disgwylir i chi fynd iddo.

Os caiff dechrau eich achos ei gyhoeddi dros system uwchseinydd a'ch bod o'r farn y gallai hyn fod yn broblem, rhowch wybod am hyn i'r derbynnydd.

Os ydych yn dyst neu’n ymwneud ag achos yn uniongyrchol a bod angen dehonglydd arnoch, bydd y swyddog gwasanaeth cwsmeriaid yn trefnu hyn. Dylech roi cymaint o rybudd iddynt â phosibl.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am sut i gysylltu â'r llys:

  • ar unrhyw ohebiaeth a anfonwyd atoch
  • drwy wasanaeth dod o hyd i lys ar-lein Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

Defnyddio dehonglydd

Os ydych yn mynd i'r llys, fel hawlydd neu ddiffynnydd er enghraifft, bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn talu costau rhesymol ar gyfer dehonglydd. Bydd y dehonglydd yn eich cynorthwyo yn y gwrandawiad.Dim ond dehonglwyr a drefnir drwy'r llys y bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn talu.

Os oes angen dehonglydd arnoch, dylech gysylltu â'r llys cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi gwybod iddynt. Bydd y llys yn gwneud trefniadau i ddehonglydd fynychu.

Nid yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn gyfrifol am ddarparu dehonglydd ar gyfer unrhyw gamau paratoi sy'n gysylltiedig â'ch achos, er enghraifft trafodaethau gyda chyfreithiwr.

Defnyddio ffrind neu berthynas fel dehonglydd

Oni bai bod gan eich ffrind neu berthynas gymhwyster ym maes trosglwyddo gwybodaeth rhwng pobl fyddar a phobl sy'n clywed, gall fod yn well defnyddio dehonglydd cymwysedig.

Os ydych am i ffrind neu berthynas weithredu fel dehonglydd ar eich ran mewn gwrandawiad, bydd angen i chi ofyn am ganiatâd gan y barnwr. Rhaid i'r barnwr fod yn fodlon y gall eich ffrind neu berthynas wneud y canlynol:

  • dehongli'n fanwl gywir yr hyn rydych yn ei ddweud i'r llys
  • dehongli'r hyn a ddywedir wrthoch

Gall y swyddog gwasanaeth cwsmeriaid eich helpu i drefnu hyn.

Mwy o wybodaeth a chyngor

Dylech ddefnyddio swyddog gwasanaeth cwsmeriaid y llys y byddwch yn mynd iddo fel y pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Gallwch ddod o hyd i fanylion ynglŷn â sut i gysylltu â'r llys ar ohebiaeth a anfonwyd atoch neu drwy wasanaeth dod o hyd i lys ar-lein Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Mae gan rai llysoedd fideos neu DVDs cyflwyniadol sy'n defnyddio iaith arwyddion neu is-deitlau. Yn ogystal ag Iaith Arwyddion Prydain, gall fod yn bosibl cael DVDs sy'n defnyddio mathau eraill o iaith arwyddion. Er enghraifft, Saesneg â Chymorth Arwyddion (SSE).

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU