Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mynd i'r llys a hygyrchedd

Os oes rhaid i chi fynd i'r llys fel tyst, rheithiwr, dioddefwr neu ddiffynnydd, efallai y bydd angen cymorth neu gyfleusterau ychwanegol arnoch. Dylai ystafelloedd llys a mannau lle y cynhelir achosion sifil neu achosion teulu fod yn hygyrch i bobl anabl.

Paratoi i fynd i'r llys

Os oes rhaid i chi fynd i'r llys, bydd y llys yn anfon manylion atoch yn cynnwys:

  • dyddiad ac amser y gwrandawiad
  • oriau agor y llys a'i leoliad
  • trefniadau, cyfleusterau a chymorth ar gyfer pobl anabl
  • rhif ffôn neu rif ffôn testun ar gyfer llinell gymorth fel y gallwch gael mwy o wybodaeth

Gallwch helpu'r llys i sicrhau bod popeth yn mynd rhagddo'n ddidrafferth drwy roi gwybod iddynt ymlaen llaw os oes gennych unrhyw ofynion.

Gallwch fynd â ffrind, perthynas neu ofalwr gyda chi i'r llys. Ni fyddant yn gallu hawlio treuliau megis costau teithio oni bai bod y llys yn cytuno bod rhaid iddynt fod yno, er enghraifft er mwyn roi cymorth i chi.

Cyfleusterau mewn llysoedd

Rhaid i lysoedd ddarparu dull amgen rhesymol o sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bobl anabl. Er enghraifft, pan fydd nodwedd ffisegol yn ei gwneud yn amhosibl neu'n afresymol o anodd i bobl anabl eu defnyddio.

Mae'r mathau o gyfleusterau ac 'addasiadau rhesymol’ i adeiladau llysoedd y dylid eu rhoi ar waith yn cynnwys:

  • mannau parcio i bobl anabl yn agos i'r llys
  • dolen sain cymhorthion clyw mewn ystafelloedd llys
  • sicrhau bod taflenni gwybodaeth a chardiau llw ar gael mewn print bras
  • cyngor a gwybodaeth am weithdrefn y llys
  • staff sydd wedi'u hyfforddi i gynorthwyo pobl anabl pan fo angen

Cysylltwch â'r llys am wybodaeth am y gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd ar gael. Mae gan y rhan fwyaf o lysoedd 'swyddog gwasanaeth cwsmeriaid' sy'n gallu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Os oes angen, gall staff drefnu ymweliad â'r llys er mwyn i chi ddod yn gyfarwydd ag adeilad y llys. Bydd manylion am sut i gysylltu â'r llys wedi'u nodi ar unrhyw ohebiaeth a anfonwyd atoch.

Gallwch hefyd edrych am wybodaeth am y llys ar wasanaeth dod o hyd i lys ar-lein Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Cyfryngwyr mewn achosion troseddol

Os ydych yn gweithredu fel tyst mewn achos troseddol a bod angen help arnoch i roi eich tystiolaeth orau, mae'n bosibl y cewch ganiatâd i ddefnyddio Cyfryngwr Cofrestredig. Gallwch ddefnyddio'r cyfryngwr i'ch helpu i roi tystiolaeth yng ngorsaf yr heddlu ac yn y llys.

Mae Cyfryngwyr Cofrestredig yn bobl a gymeradwyir gan y llys i egluro'r cwestiynau a ofynnir gan y llys, tîm yr amddiffyniad a thîm yr erlyniad i'r tyst, ac i gyfleu'r atebion a roddir gan y tyst. Rhaid i gyfryngwyr beidio â newid ystyr yr hyn a eglurir ganddynt.

Nid yw cyfryngwyr yn gweithredu ar ran yr amddiffyniad, yr erlyniad na'r tyst. Maent yn niwtral.

Cael eich gwysio i weithredu'n rheithiwr

Mae ffurflenni gwŷs rheithgor yn gofyn i chi a fydd gennych unrhyw ofynion ychwanegol. Yna anfonir gwybodaeth ychwanegol atoch pan fydd swyddfa gwysio'r rheithgor wedi prosesu'r ymateb i'ch gwŷs. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi am gyfleusterau'r llys.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU