Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai eich bod yn pryderu am fynd i'r llys ac o'r farn y gallai'r straen waethygu cyflwr neu nam meddygol. Dylech roi gwybod i'r llys os oes gennych unrhyw bryderon.
Mae namau cudd yn cynnwys anableddau nad ydynt yn amlwg i bobl eraill o bosibl - fel mân nam symudedd, diabetes, epilepsi, canser neu ddyslecsia.
Mae gan bob llys swyddogion cymorth cyntaf sydd wedi'u hyfforddi i gynorthwyo pobl sy'n mynd yn sâl pan fyddant yn y llys. Os oes unrhyw bryderon gennych, siaradwch â swyddog gwasanaeth cwsmeriaid y llys neu rhowch wybod i'r derbynnydd y gallai fod angen help arnoch.
Byddwch yn gallu ymweld â'r llys cyn bod angen i chi fynd i'r llys yn ffurfiol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddod yn gyfarwydd â'r llys a gofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych i'r swyddog gwasanaeth cwsmeriaid. Er mwyn trefnu ymweliad â'r llys ymlaen llaw, cysylltwch â Swyddog Gwasanaeth Cwsmeriaid y llys y disgwylir i chi fynd iddo.
Os yw eich nam neu gyflwr meddygol yn debygol o effeithio arnoch yn ystod gwrandawiad, rhowch wybod i'r tywysydd/clerc y llys cyn i'r gwrandawiad ddechrau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi eistedd i lawr wrth annerch y barnwr neu ynad.
Mae'r canlynol ymhlith yr enghreifftiau o gymorth y gallwch ofyn amdanynt:
Os yw unrhyw un o'r sefyllfaoedd uchod yn gymwys i chi, rhaid i chi dynnu sylw'r llys at hynny cyn gynted â phosibl.
Gallwch ddod o hyd i fanylion ynglŷn â sut i gysylltu â'r llys ar unrhyw ohebiaeth a anfonwyd atoch neu drwy wasanaeth dod o hyd i lys ar-lein Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.
Dylech ddefnyddio swyddog gwasanaeth cwsmeriaid y llys fel y pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.