Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gwyliwch fideo ynglŷn â mynd i’r llys ar gyfer gwrandawiad adfeddiannu a chewch gyngor a fydd yn eich helpu, o bosib, i osgoi colli eich cartref.
I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.
Os ydych chi’n mynd i’r llys ar gyfer gwrandawiad adfeddiannu, sicrhewch eich bod chi'n barod. Gallwch chi gael cymorth gan gynghorydd, neu ewch i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol rhad ac am ddim. Yma, cewch wybod pa gwestiynau y mae'n bosib y gofynnir i chi.
Golygfa: Mae’r diffynnydd (yr unigolyn y mae’r benthyciwr morgais neu’r landlord yn mynd â hi i’r llys) mewn ystafell. Mae’n eistedd gyferbyn â dyn. Mae arwydd ar y wal y tu ôl iddynt yn dweud ‘Cynghorydd Tai’.
Llefarydd: Os ydych chi’n ddiffynnydd mewn hawliad meddiannu mae’n bwysig iawn eich bod chi’n ceisio cymorth a chyngor ar unwaith gan gynghorydd cyfreithiol neu asiantaeth gynghori. Rydych chi’n cael mynd â chynghorydd neu gynrychiolydd cyfreithiol gyda chi i’r gwrandawiad.
Golygfa: Mae’r olygfa mewn ystafell aros lle mae diffynnydd trwsiadus yn cyrraedd gan gario swp bach o bapurau. Mae’n siarad â’r tywysydd.
Diffynnydd: Fy enw i yw Mrs Jones. Rwyf fi yma ar gyfer gwrandawiad llys y prynhawn yma.
Tywysydd: O ie. Faint o’r gloch, os gwelwch yn dda?
Llefarydd: Hyd yn oed os nad ydych chi wedi llwyddo i gael cyngor cyfreithiol, mae dal yn eithriadol bwysig eich bod yn mynd i'r gwrandawiad llys ar y diwrnod penodedig. Mae mynd i'r gwrandawiad yn golygu y gallwch chi ddweud wrth y barnwr beth sydd wedi eich arwain at y sefyllfa hon, a rhoi gwybod am unrhyw amgylchiadau y dylai’r barnwr fod yn ymwybodol ohonynt. Gallwch esbonio pam rydych chi’n credu y dylech gael cadw eich cartref neu aros yn y tŷ. Os nad ydych chi’n mynd i’r gwrandawiad, rydych chi’n debygol iawn o golli’ch cartref.
Golygfa: Caiff delwedd o dŷ yng nghefn gwlad ei dilyn gan olygfa’n dangos cynrychiolydd yr hawlydd (yr unigolyn sy’n cynrychioli’r landlord neu’r benthyciwr morgais) a’r diffynnydd yn trafod y papurau wrth eistedd yn yr ystafell aros.
Llefarydd: Nid yw fyth yn rhy hwyr i geisio dod i gytundeb â chynrychiolydd yr hawlydd ynglŷn â thalu ôl-ddyledion. Gallwch chi siarad â’r cynrychiolydd y tu allan i’r llys cyn y gwrandawiad. Os ydych chi’n dod i gytundeb dylech roi gwybod i’r llys.
Golygfa: Y tu mewn i’r ystafell aros, mae cynrychiolydd yr hawlydd a’r diffynnydd yn ysgwyd llaw. Y tu mewn i siambrau’r barnwr, mae cynrychiolydd yr hawlydd, y diffynnydd a’r barnwr yn eistedd wrth fwrdd.
Llefarydd: Mae gwrandawiadau meddiannu fel arfer yn digwydd yn siambrau'r barnwr - mae'n bosib y bydd yn edrych fel ystafell gyfarfod neu swyddfa gyffredin. Er hynny, llys barn ydyw, a bydd barnwr yn cynnal yr achos. Bydd y barnwr fel arfer yn gwisgo siwt a dylech ei alw yn Syr neu Madam.
Golygfa: Mae’r barnwr yn rhoi sbectol ymlaen ac mae’r geiriau ‘Syr' a 'Madam' yn ymddangos ar y sgrin. Mae’r barnwr yn sefyll yn barod i siarad.
Barnwr: Yn gyntaf, byddaf yn gofyn i’r hawlydd siarad a rhoi gwybod am unrhyw resymau a thystiolaeth sy’n cefnogi ei achos.
Llefarydd: Fel arfer, caiff y gwrandawiad ei recordio gan ddefnyddio recordydd tâp. Mae’n bosib y bydd y barnwr yn esbonio sut y mae'n bwriadu cynnal y gwrandawiad. Bydd disgwyl i bob parti yn y gwrandawiad ymddwyn yn gwrtais a pheidio â thorri ar draws pan fo’r barnwr neu’r parti arall yn siarad. Os nad oes gennych chi gynrychiolaeth ac os nad ydych chi’n deall unrhyw agwedd ar y gwrandawiad, gallwch ofyn yn gwrtais i’r barnwr ei esbonio i chi.
Golygfa: Mae’r barnwr yn rhoi recordydd tâp ymlaen. Mae’r diffynnydd yn pwyntio at gynrychiolydd yr hawlydd sy’n eistedd gyferbyn â hi wrth y bwrdd.
Llefarydd: Bydd cynrychiolydd yr hawlydd fel arfer yn esbonio pam ei fod yn credu y dylai gorchymyn meddiannu gael ei wneud o’u plaid nhw.
Golygfa: Mae cynrychiolydd yr hawlydd yn codi ei bapurau ac yn siarad â’r barnwr.
Cynrychiolydd yr hawlydd: Syr, mae’r diffynnydd yn gyson wedi (mae ei lais yn pylu).
Golygfa: Mae’r barnwr yn eistedd, yn gwrando ar gynrychiolydd yr hawlydd. Mae cynrychiolydd yr hawlydd a’r diffynnydd hefyd yn eistedd wrth y bwrdd.
Llefarydd: Bydd y barnwr yna’n rhoi’r cyfle i chi esbonio beth sydd wedi digwydd ac unrhyw reswm pam na ddylai’r gorchymyn meddiannu gael ei wneud. Drwy fynd i’r gwrandawiad, gallwch esbonio pam rydych chi’n credu y dylech chi gael cadw eich cartref neu aros yn y tŷ.
Diffynnydd: Syr, fel y gwelwch chi, bu gostyngiad sylweddol ar fy incwm. (Mae ei llais yn pylu).
Golygfa: Mae’r diffynnydd yn eistedd wrth y bwrdd, yn agor ffeil ac yn rhoi papurau sy'n cynnwys cyfriflenni banc, slipiau cyflog a derbynebau ar y bwrdd o flaen y barnwr.
Llefarydd: Gallwch ddarparu gwybodaeth i’r barnwr am eich amgylchiadau ariannol a phersonol, yn ogystal â dangos tystiolaeth sy’n cynnwys, o bosib, copïau o gyfriflenni banc, cytundebau morgais neu denantiaeth, manylion o ddyledion neu unrhyw dystiolaeth arall sy’n ymwneud â’ch achos. Os nad ydych chi’n deall unrhyw beth yn y gwrandawiad, dylech ofyn yn gwrtais i’r barnwr ei esbonio i chi.
Os ydych chi’n mynd i’r llys ar gyfer gwrandawiad adfeddiannu, sicrhewch eich bod chi'n barod. Gallwch chi gael cymorth gan gynghorydd, neu ewch i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol rhad ac am ddim. Yma, cewch wybod pa gwestiynau y mae'n bosib y gofynnir i chi.