Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n mynd i’r llys ar gyfer gwrandawiad adfeddiannu, sicrhewch eich bod chi'n barod. Gallwch chi gael cymorth gan gynghorydd, neu ewch i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol rhad ac am ddim. Yma, cewch wybod pa gwestiynau y mae’n bosib y gofynnir i chi a chewch wylio fideo ynglŷn â’r brose
Mae’n hanfodol eich bod chi’n mynd i’r gwrandawiad llys. Os nad ewch chi, mae’n debygol iawn y bydd y barnwr yn caniatáu i’ch benthyciwr morgais eich troi allan o’ch cartref. Cyn gynted â chewch chi ddyddiad ar gyfer y gwrandawiad llys, dylech chi geisio cymorth gan gynghorydd ariannol a/neu dwrnai – os nad ydych chi wedi gwneud hyn eisoes. Gall eich cynghorydd eich helpu i gwblhau’r ffurflen amddiffyn.
Gallwch chi gael cymorth i gadw'ch cartref o hyd, felly siaradwch â’ch cynghorydd ynglŷn â’ch opsiynau. Mae’n bosib eich bod chi’n gymwys ar gyfer cymorth gan fudd-daliadau, neu gynllun a gefnogir gan y llywodraeth, megis Cymorth Morgais Perchnogion Tai neu gynllun Achub Morgais. Fodd bynnag, os ydych chi’n dod o hyd i ateb, bydd dal angen i chi fynd i’r llys i roi gwybod i’r barnwr.
Gweler ‘Cyngor ar forgeisi – pwy i’w gweld a beth fydd angen i chi fynd gyda chi’ i gael gweld rhestr o gynghorwyr, eu manylion cyswllt a chael gwybod sut y gallant helpu.
Gallwch chi ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol oddi ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.
Os ydych chi ar incwm isel, mae’n bosib eich bod chi’n gymwys ar gyfer help llaw cyfreithiol rhad ac am ddim (a elwir hefyd yn ‘gymorth cyfreithiol’). Os ydych chi’n gymwys, mae’n bosib y bydd eich cynghorydd cyfreithiol yn medru gwneud cais am gymorth cyfreithiol ar eich rhan.
Gallwch chi ddefnyddio cyfrifiannell cymorth cyfreithiol ar-lein i weld a ydych chi'n gymwys i gael help llaw cyfreithiol rhad ac am ddim.
Wrth i chi baratoi ar gyfer mynd i’r llys, daliwch ati i siarad â’ch benthyciwr. Os gallwch chi ddod i gytundeb, mae’n bosib y caiff y gwrandawiad llys ei ohirio neu ei ganslo, sy’n golygu eich bod yn fwy tebygol o gael cadw eich cartref.
Dylech chi baratoi yn ofalus ar gyfer diwrnod y gwrandawiad drwy:
Yn y llys, mae’n bosib y gofynnir cwestiynau i chi ynghylch:
Byddwch yn realistig ynglŷn â’r atebion y gallwch eu rhoi. Mae’n rhaid i chi gadw at unrhyw gytundeb a wnewch yn y llys i ad-dalu ôl-ddyledion. Os na wnewch chi, mae’n bosib y byddwch chi dal mewn perygl o golli eich cartref os ydych chi'n cynnig gwneud taliadau na fyddwch chi'n gallu eu fforddio yn nes ymlaen.
Mae’n debygol y gofynnir i chi am eich materion ariannol hefyd. Ceisiwch ddod â phrawf i'r gwrandawiad llys megis slipiau cyflog, datganiadau banc, cynigion swyddi, neu lythyrau ynghylch budd-daliadau.
Os ydych chi’n ceisio gwerthu eich cartref i dalu'r morgais, dewch â phrawf eich bod chi wedi rhoi eich cartref ar y farchnad. Gallwch ddefnyddio llythyrau gan eich asiant tai neu brawf o gynnig am y tŷ.
Gallwch ddod â rhywun gyda chi i’r gwrandawiad, fel cynghorydd neu ffrind, ond mae’n rhaid iddynt fod yn oedolyn.
Dilynwch y ddolen isod er mwyn gwylio fideo sy’n esbonio beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n cael eich dwyn gerbron y llys ar gyfer gwrandawiad meddiannu.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut beth fydd y gwrandawiad a pha benderfyniadau all y barnwr eu gwneud.