Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall barnwr wneud penderfyniadau gwahanol, a elwir yn orchmynion, ynghylch beth fydd yn digwydd i’ch cartref ar ôl gwrandawiad meddiannu. Yma, cewch wybod beth mae’r penderfyniadau hyn yn ei olygu a chewch wylio fideo ynglŷn â gorchmynion meddiannu ataliedig. Yn ogystal, cewch wybod beth i’w wneud os oes arian yn ddyledus gennych i'ch benthyciwr ar ôl gwerthu eich cartref.
Ceir pum gwahanol fath o orchymyn y gall barnwr eu gwneud. Caiff y rhain eu hesbonio isod.
Mae gorchymyn meddiannu yn golygu bod gan y benthyciwr hawl gyfreithiol i fod yn berchen ar eich cartref ar y dyddiad a roddir yn y gorchymyn. Fel arfer, bydd y dyddiad 28 diwrnod ar ôl eich gwrandawiad llys. Weithiau, gelwir y gorchymyn hwn yn orchymyn meddiannu ‘llawn’.
Os bydd y barnwr yn gwneud gorchymyn meddiannu, cewch wybod yn y gwrandawiad.
Os nad ydych chi’n gadael eich cartref erbyn y dyddiad a roddir yn y gorchymyn, gall eich benthyciwr ofyn i’r llys eich troi chi allan. Gall wneud hyn drwy ofyn i’r llys am ‘warant meddiannu’. Os bydd y llys yn rhoi gwarant, bydd rhybudd o droi allan yn cael ei anfon atoch. Bydd y rhybudd yn cynnwys y dyddiad y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth i’w wneud os cewch chi orchymyn meddiannu.
Mae gorchymyn meddiannu ataliedig yn golygu y gallwch aros yn eich cartref os gwnewch chi’r taliadau a bennir yn y gorchymyn. Os nad ydych chi’n gwneud y taliadau, gall eich benthyciwr ofyn i’r llys eich troi chi allan.
Byddwch yn gwybod bod y barnwr wedi gwneud gorchymyn meddiannu ataliedig oherwydd:
Yma, cewch wylio fideo sy’n esbonio beth yw gorchmynion meddiannu ataliedig.
Mae gorchymyn amser fel arfer yn golygu bod y swm rydych chi’n ei dalu ar fenthyciad yn cael ei newid am gyfnod penodol o amser oherwydd i’r barnwr wneud un o’r canlynol:
Os nad ydych chi’n gwneud y taliadau sydd wedi eu pennu yn y gorchymyn, gallwch chi golli eich cartref.
Dim ond ar rai mathau o fenthyciad, megis ail forgais, y caiff gorchmynion amser eu gwneud, pan fydd eich eiddo yn gweithredu fel ‘sicrwydd’. Golyga darparu sicrwydd ar gyfer benthyciad y gall y benthyciwr feddiannu'r eiddo hwn os na allwch chi ad-dalu'r arian y bu i chi ei fenthyg.
Os ydych chi am leihau'r swm rydych chi’n ei dalu ar fenthyciad, bydd rhaid i chi ofyn i’r barnwr wneud gorchymyn amser. Dylech chi geisio cyngor os oes arnoch eisiau gorchymyn amser. Dilynwch y dolenni isod i gael cyngor ariannol neu gyfreithiol.
Mae gorchymyn ariannol yn golygu bod rhaid i chi dalu'r swm sydd wedi ei bennu yn y gorchymyn i'r benthyciwr. Os nad ydych chi’n gwneud y taliadau angenrheidiol, gall y llys weithredu i adennill yr arian, gan gynnwys:
Ni all benthyciwr morgais ddefnyddio gorchymyn ariannol i droi rhywun allan o’i gartref. Fodd bynnag, os bydd gennych ôl-ddyledion ar ôl i orchymyn ariannol gael ei wneud, gall eich benthyciwr fynd at y llys eto. O ganlyniad, gall y barnwr benderfynu rhoi gorchymyn meddiannu iddynt ar ddyddiad diweddarach.
Gall barnwr ychwanegu dyfarniad ariannol i unrhyw un o’r gorchmynion meddiannu. Golyga hyn bod swm penodol o arian yn ddyledus gennych, sydd fel arfer yn cynnwys:
Ni fydd y dyfarniad ariannol yn berthnasol os:
Fodd bynnag, bydd y dyfarniad ariannol yn berthnasol os na fyddwch yn talu’r swm sydd wedi’i bennu yn y gorchymyn sy’n gysylltiedig â’r dyfarniad. Os nad ydych chi’n talu, mae’n bosib i’r benthyciwr ofyn i’r llys roi’r cyfarwyddiadau sydd yn y gorchymyn a’r dyfarniad ar waith.
Diffyg yw pryd fydd arian yn ddyledus gennych chi i’ch benthyciwr ar ôl gwerthu eich cartref. Fel arfer, bydd angen i chi dalu’r diffyg i’ch benthyciwr. Os ydych chi’n credu y bydd diffyg gennych chi ar ôl gwerthu eich cartref, ewch i geisio cyngor oherwydd gall eich benthyciwr fynd i’r llys i gael yr arian yn ôl.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth i’w wneud ynghylch gorchmynion meddiannu a rhybuddion o droi allan