Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yma, cewch wybod sut y byddwch yn cael gwybod bod eich benthyciwr morgais yn mynd â chi i’r llys, a sut y gellir gohirio adfeddiannu eich cartref. Hefyd, cewch wybod am baratoi ar gyfer mynd i’r llys, a beth sy’n digwydd ar ddiwrnod y gwrandawiad.
Mae’n bosib y bydd eich benthyciwr morgais yn mynd â chi i’r llys os nad ydych chi’n dod i gytundeb, neu os nad ydych chi’n cadw'r cytundeb, i dalu eich ôl-ddyledion morgais. Cyn i’ch benthyciwr ddechrau achos llys, bydd yn anfon llythyr i chi sef ‘hysbysiad o beidio â chydymffurfio’ a fydd yn dweud eich bod chi ar ei hôl hi gyda’ch taliadau.
Sicrhewch eich bod yn darllen y llythyr hwn ac yn ymateb iddo. Mae’n bosib y byddwch yn medru dod i gytundeb gyda’ch benthyciwr ac felly’n medru osgoi achos llys.
Os nad ydych chi’n dod i gytundeb, mae’n bosib i’ch benthyciwr ofyn i’r llys eich troi allan o’ch cartref. Hynny yw, gwneud 'hawliad am feddiannu', ac fe fyddwch chi'n cael gwaith papur gan y llys. Ceir gwrandawiad llys bob amser ar gyfer achosion llys ynglŷn ag ôl-ddyledion morgais a all arwain at droi allan.
Daliwch ati i siarad â’ch benthyciwr er ei fod wedi dechrau achos llys. Mae’n bosib y gallwch chi dal ddod i gytundeb. Sicrhewch y cewch chi unrhyw gytundeb yn ysgrifenedig a pharhewch i baratoi ar gyfer y gwrandawiad. Peidiwch â newid eich cynlluniau oni bai i chi gael llythyr gan y llys yn dweud bod y gwrandawiad wedi’i ganslo neu ei ohirio.
Gall cynghorydd annibynnol eich helpu i siarad â’ch benthyciwr ac i gwblhau gwaith papur y llys. Byddant yn archwilio’r opsiynau sydd ar gael i’ch galluogi i gadw’ch cartref, megis cefnogaeth gan fudd-daliadau neu gynllun a gefnogir gan y llywodraeth, e.e. y cynllun Achub Morgeisi. Os ydych chi’n dod o hyd i ateb, bydd dal angen i chi fynd i’r llys i roi gwybod i’r barnwr.
Gweler ‘Cyngor ar forgeisi – pwy i’w gweld a beth fydd angen i chi fynd gyda chi’ am restr o gynghorwyr a’u manylion cyswllt.
Bydd y gwaith papur gan y llys yn cynnwys:
Cyfeirir atoch fel y 'diffynnydd' neu'r 'morgeisiwr' a chyfeirir at y benthyciwr morgais fel yr 'hawlydd' neu'r 'morgeisai' yn y gwaith papur.
Mae’r ffurflen amddiffyn yn cynnwys cwestiynau am eich:
Cwblhewch y ffurflen, a’i dychwelyd i’r llys o fewn 14 diwrnod. Gall yr wybodaeth a roddwyd gennych gael effaith ar benderfyniad y llys yn y gwrandawiad.
Ceir rhai sefyllfaoedd lle y byddai’n bosib i weithred adfeddiannu gael ei gohirio.
Os oes gennych chi bolisi gwarchod taliadau morgais, gallwch chi ohirio adfeddiannu drwy wneud hawliad. Mae’r math hwn o bolisi yswiriant yn talu eich ad-daliadau morgais, neu ganran ohonynt, os byddwch chi’n sâl neu os byddwch chi’n colli eich swydd.
I osgoi adfeddiannu, mae’n rhaid i’ch benthyciwr gytuno y byddwch chi’n medru talu eich ad-daliadau misol, gan gynnwys unrhyw swm nad yw’n cael ei dalu gan y polisi.
Os gallwch chi ddangos eich bod yn ceisio gwerthu eich cartref, mae’n bosib y bydd y benthyciwr yn cytuno i ohirio adfeddiannu. Bydd angen i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch benthyciwr am hynt y gwerthiant. Os nad yw eich benthyciwr yn cytuno y cewch werthu eich cartref, dylai roi gwybod i chi am hyn o leiaf bum niwrnod gwaith cyn dechrau cymryd unrhyw gamau.
Os ydych chi’n teimlo bod eich benthyciwr wedi eich trin chi’n annheg, gallwch gyfeirio eich cwyn ynglŷn â thriniaeth annheg at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Os nad yw’r llys wedi rhoi caniatâd i’r benthyciwr adfeddiannu eich cartref eto, mae’n bosib y bydd yr ombwdsmon yn holi i'r benthyciwr wneud un o’r canlynol:
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr ombwdsmon yn ymchwilio i’ch cwyn.
Yn y mwyafrif o achosion, ni fydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon yn ystyried cwyn am benderfyniad benthyciwr i adfeddiannu tŷ os yw’r llys wedi rhoi caniatâd ar gyfer adfeddiannu yn barod.
Os nad yw eich benthyciwr yn gohirio’r achos llys, mae’n rhaid i chi baratoi ar gyfer y gwrandawiad.
Mae’n hanfodol eich bod chi’n mynd i’r gwrandawiad. Bydd yn rhoi’r cyfle i chi ddweud wrth y barnwr pam eich bod chi wedi cael trafferthion wrth dalu eich morgais a sut y gallwch chi ad-dalu ôl-ddyledion yn y dyfodol.
Os nad ewch chi, mae’n debygol iawn y bydd y barnwr yn penderfynu eich bod chi’n colli’r hawl i gadw eich cartref.
Gweler ‘Paratoi ar gyfer y gwrandawiad’ i gael gwybod beth ddylech chi ei wneud cyn mynd i’r llys.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut beth fydd y gwrandawiad a’r penderfyniadau y gall y barnwr eu gwneud.
Ar ôl y gwrandawiad, bydd y llys yn anfon copi o benderfyniad y barnwr atoch. Hyd yn oed ar yr adeg hon, mae’n dal i fod yn bosib i chi gael cymorth i gadw eich cartref. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth sy'n digwydd nesaf a sut y byddai'n bosib i chi allu apelio.