Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth allwch chi ei wneud er mwyn osgoi adfeddiant – arewiniad

Mae sawl peth y gallwch chi ei wneud i sicrhau na chaiff eich tŷ ei adfeddiannu. Nid yw byth yn rhy hwyr i geisio cyngor, felly peidiwch â cherdded i ffwrdd na rhoi eich allweddi i’ch benthyciwr. Yma, cewch wybod sut i gael cymorth i’ch helpu chi i gadw’ch cartref os ydych chi’n wynebu adfeddiant.




Siarad â’ch benthyciwr am eich sefyllfa

Ewch i siarad â’ch benthyciwr cyn gynted â’ch bod chi’n meddwl y bydd yn anodd i chi dalu eich ad-daliadau morgais.

Po gynharaf yr ewch chi i geisio cymorth, y mwyaf o opsiynau bydd gennych.

Bydd eich benthyciwr yn eich trin yn deg

Yn gyffredinol, bydd benthycwyr yn barod i siarad am eich sefyllfa ac yn barod i’ch helpu chi i ddod o hyd i ateb. Mae set o amodau ar gael, sef y ‘protocol cyn-gweithredu’, ac mae’n rhaid i’ch benthyciwr fodloni’r amodau hyn er mwyn rhoi pob cyfle i chi allu cadw eich cartref. Os yw eich achos yn mynd i’r llys, bydd rhaid i chi a’ch benthyciwr brofi i’r barnwr eich bod wedi dilyn y protocol cyn-gweithredu.

Mae'n rhaid i'ch benthyciwr wneud y canlynol:

  • dweud wrthych chi faint sy’n ddyledus gennych chi ac unrhyw daliadau llog y bydd yn rhaid i chi eu talu
  • ystyried cais gennych chi i newid y ffordd rydych chi’n talu eich morgais
  • ymateb i unrhyw gynnig i dalu a wnewch
  • rhoi rhesymau i chi dros wrthod eich cynnig i dalu o fewn deg diwrnod gwaith
  • rhoi 15 diwrnod gwaith o rybudd ysgrifenedig i chi os ydyw’n bwriadu dechrau achos llys yn eich erbyn oherwydd nad ydych wedi cadw at y cytundeb ad-dalu

Sut y gall eich benthyciwr helpu

Er mwyn eich helpu chi i reoli eich ad-daliadau, mae’n bosib y bydd eich benthyciwr yn gwneud y canlynol:

  • cytuno i newid neu ymestyn cyfnod eich benthyciad
  • derbyn taliadau llai gennych yn y tymor byr
  • ychwanegu unrhyw ddyled ad-dalu at y swm rydych wedi'i fenthyca

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  • dangos eich bod chi’n fodlon talu ad-daliadau rydych chi’n gallu eu fforddio
  • talu beth a allwch chi, pryd y gallwch chi, os na allwch chi fforddio'r taliadau llawn ar y pryd
  • sicrhau bod gennych chi gopi ysgrifenedig o unrhyw drefniant ad-dalu rydych wedi’i wneud â’ch benthyciwr
  • cadw mewn cysylltiad rheolaidd â’ch benthyciwr a rhoi gwybod iddo am unrhyw newidiadau yn eich sefyllfa

Fideo: ôl-ddyledion morgais – gair i gall

Gwyliwch fideo sy’n esbonio beth y gallwch chi ei wneud os ydych chi ar ei hôl hi gyda thaliadau morgais, drwy ddilyn y ddolen isod.

Ceisio cyngor ariannol annibynnol, rhad ac am ddim

Ewch i siarad â chynghorydd ar unwaith os na allwch chi ddod i gytundeb ad-dalu gyda’ch benthyciwr, neu os nad ydych chi’n gallu talu o gwbl.

Gall cynghorydd ariannol hyfforddedig o asiantaeth annibynnol, megis canolfannau Cyngor Ar Bopeth neu Shelter, roi cyngor diduedd i chi, yn rhad ac am ddim, am y canlynol:

  • siarad â’ch benthyciwr
  • rheoli eich dyled
  • llunio cyllideb
  • unrhyw gynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth y mae’n bosib eich bod chi’n gymwys ar eu cyfer, megis Cymorth Morgais Perchnogion Tai neu gynllun Achub Morgeisi
  • unrhyw fudd-daliadau neu gymorth ariannol rydych chi’n gymwys ar eu cyfer, megis Cymhorthdal ar gyfer Llog Morgais

Dilynwch y ddolen isod i gael gweld rhestr o gynghorwyr ariannol annibynnol, eu manylion cyswllt, sut y gallant helpu a beth i fynd gyda chi.

Darllen unrhyw lythyron a gewch gan eich benthyciwr

Os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch ad-daliadau morgais, bydd eich benthyciwr yn anfon llythyr atoch a elwir yn ‘hysbysiad o beidio â chydymffurfio’. Sicrhewch eich bod yn darllen y llythyr hwn – bydd yn rhoi gwybodaeth i chi am faint sy’n ddyledus gennych ac am unrhyw gamau y mae eich benthyciwr yn bwriadu eu cymryd.

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • siarad â’ch benthyciwr ar unwaith – ceir posibilrwydd o hyd y gallech ddod i gytundeb gyda’ch benthyciwr
  • ceisio cymorth gan gynghorwr annibynnol – ewch â’r llythyr gyda chi

Gall eich benthyciwr gymryd camau cyfreithiol i adfeddiannu eich cartref os nad ydych chi’n ymateb i’r llythyr neu’n methu dod i gytundeb ad-dalu. Ond, gallwch gael cymorth i’ch helpu i osgoi adfeddiant hyd yn oed yn ystod y camau hyn.

Gweler ‘Beth i’w wneud os yw eich benthyciwr morgais yn mynd â chi i’r llys’ i gael gwybodaeth am y canlynol:

  • lle i gael cyngor annibynnol a diduedd
  • sut y gwnewch chi ddod i wybod am y gwrandawiad
  • pryd y gall adfeddiant gael ei ohirio

Paratoi ar gyfer y gwrandawiad ar ôl cael dyddiad yr achos llys

Nid yw adfeddiant yn digwydd yn awtomatig. Hyd yn oed os ydych chi wedi cael y dyddiad rydych chi i fod yn y llys, gallech gael cymorth o hyd i’ch helpu i gadw’ch cartref.

Gweler ‘Paratoi ar gyfer y gwrandawiad’ i gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys y canlynol:

  • lle i gael cyngor
  • pa bethau y bydd angen i chi fynd gyda chi
  • cymorth i amcangyfrif eich costau cyfreithiol

Ewch i’ch gwrandawiad llys

Mae’n hanfodol eich bod chi’n mynd i’ch gwrandawiad llys. Dyma eich cyfle chi i esbonio eich sefyllfa i’r barnwr. Os nad ewch chi, mae’n llawer mwy tebygol y bydd y barnwr yn penderfynu eich bod chi wedi colli’r hawl i gadw eich cartref.

Gweler ‘Mynd i’r llys ar gyfer adfeddiant – beth sy’n digwydd ar ddiwrnod y gwrandawiad’, i gael mwy o wybodaeth am sut beth fydd y gwrandawiad.

Cyngor cyfreithiol ar ddiwrnod y gwrandawiad

Os nad ydych chi wedi cael unrhyw gyngor cyn y gwrandawiad, gallwch chi gael cynrychiolaeth rad ac am ddim yn y llys ar ddiwrnod y gwrandawiad. Defnyddiwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.

Ymateb i unrhyw hysbysiadau troi allan o gartref, a cheisio cyngor

Os cewch chi hysbysiad gan y llys yn dweud eich bod chi’n cael eich troi allan o’ch cartref, ewch i geisio cyngor cyfreithiol a chyngor ariannol ar unwaith. Mae’n bosib y gallwch chi ohirio neu rwystro’r broses.

Allweddumynediad llywodraeth y DU