Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor ar dai – sut i gael cymorth cyfreithiol am ddim yn y llys

Os ydych chi’n wynebu adfeddiannu neu'n wynebu cael eich troi allan, sicrhewch eich bod yn mynd i’ch gwrandawiad llys er mwyn gwella’ch siawns o gael cadw eich cartref. Os nad ydych chi wedi cael unrhyw gyngor cyn y gwrandawiad, cewch wybod yma sut gallwch chi gael cynrychiolaeth gyfreithiol rad ac am ddim yn y llys ar ddiwrnod y gwrandawiad.

Cael cyngor cyfreithiol am ddim ar ddiwrnod eich gwrandawiad llys

Gallwch gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys ar ddiwrnod eich gwrandawiad dan gynllun Cymorth y Llys ar gyfer achosion Ildio Meddiant. Gall y cynllun fod yn ffynhonnell o gymorth munud olaf os nad ydych wedi cael cyngor cyfreithiol cyn y gwrandawiad. Caiff ei ddarparu mewn llysoedd sirol yng Nghymru a Lloegr.

Gallwch geisio cymorth, beth bynnag y bo eich sefyllfa ariannol, os ydych chi naill ai:

  • yn denant sy’n wynebu cael ei droi allan, neu
  • yn ddeiliad morgais, gan gynnwys deiliad ail forgais, sy’n wynebu adfeddiannu

Bydd y cynllun darparu cynghorydd arbenigol ar ddiwrnod eich gwrandawiad a fydd yn gallu:

  • rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi yn ymwneud â’ch achos
  • eich cynrychioli yn y gwrandawiad
  • eich helpu i egluro wrth y barnwr pam nad ydych chi wedi gwneud eich taliadau morgais neu rent
  • eich helpu i ddod i gytundeb gyda'ch benthyciwr morgais neu’ch landlord ar gyfer talu eich dyledion

Manylion cysylltu ar gyfer y cynllun

I gael gwybod mwy am y cynllun yn eich ardal leol chi, cysylltwch â'ch cyngor lleol neu'r llys lle y gwrandewir eich achos. Fe welwch fanylion cyswllt y llys ar y gwaith papur y dylech fod wedi'i gael ar gyfer eich achos.

Os nad oes cynllun cymorth ar gael yn eich ardal chi, mae'n bosib y gall gwasanaethau cynghori eraill eich helpu. Holwch yn y llys lle y gwrandewir eich achos, neu cysylltwch â Chyngor Cyfreithiol Cymunedol.

Mae’n well ceisio cyngor cyn y gwrandawiad

Mae’n debygol y bydd desg y llys, lle y cewch gymorth gan y cynghorwyr, yn brysur iawn. Os gallwch chi, ceisiwch gyngor cyfreithiol ac ariannol cyn y gwrandawiad. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o amser i chi gasglu eich tystiolaeth a bydd gennych chi well siawns o gael cadw eich cartref.

Bydd y gwaith papur y cewch gan y llys ynghylch eich gwrandawiad yn cynnwys rhestr o asiantaethau lleol a fydd o bosib yn gallu rhoi cyngor i chi cyn eich gwrandawiad. Neu, gweler ‘Cyngor ar forgeisi – pwy i’w gweld a beth fydd angen i chi fynd gyda chi’ am restr o gynghorwyr ariannol annibynnol a’u manylion cyswllt.

I gael cyngor cyfreithiol arbenigol a chyfrinachol ac i gael cymorth wrth chwilio am gynghorydd cyfreithiol, cysylltwch â Chyngor Cyfreithiol Cymunedol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU