Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Mynd i’r llys ar gyfer gorchymyn adfeddiannu - beth sy’n digwydd ar ddiwrnod y gwrandawiad

Yma, cewch wybod sut i geisio cyngor cyn i chi fynd i’r llys yn ogystal â sut beth fydd y gwrandawiad. Cewch wylio fideo ynghylch beth i’w wneud pan fyddwch chi’n cyrraedd adeilad y llys. Hefyd, cewch wybod sut i geisio cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim ar ddiwrnod y gwrandawiad, a chewch wybod pa benderfyniadau y gallai'r barnwr eu gwneud.

Sut beth fydd y gwrandawiad llys

Mae’n bosib eich bod chi’n nerfus ynglŷn â mynd i’r llys, ond mae nifer o bobl yn cael profiad llai brawychus na’r disgwyl. Caiff gwrandawiadau meddiannu eu cynnal yn y llys sirol fel arfer, ac maent yn digwydd mewn ystafell sy’n edrych fel swyddfa o’r enw ‘siambr’ y barnwr. Bydd y barnwr yn gwisgo siwt yn hytrach na’r gynau rydych chi’n eu gweld yn aml mewn achosion llys ar y teledu.

Ceisio cyngor cyn mynd i’r gwrandawiad

Mae angen i chi gysylltu ag un o’r mudiadau sy’n darparu cyngor ariannol ac mae angen i chi geisio cymorth cyfreithiol cyn i chi fynd i’r gwrandawiad, os nad ydych chi wedi gwneud hyn eisoes. Gallwch chi ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol oddi ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.

Ceisio cyngor ar ddiwrnod y gwrandawiad

Os nad ydych chi wedi cael cymorth blaenorol, gallwch chi gael cymorth cyfreithiol diduedd, yn rhad ac am ddim, ar ddiwrnod y gwrandawiad. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i geisio’r cyngor hwn

Cyrraedd adeilad y llys

Pan fyddwch chi’n cyrraedd adeilad y llys gyda’r holl waith papur y mae arnoch ei angen, cewch eich tywys i’r ystafell aros gan y staff diogelwch neu staff y dderbynfa. Bydd tywysydd y llys yn yr ystafell aros, a bydd yn mynd â chi o’r ystafell aros i siambrau’r barnwr. Dylech chi ddweud wrth y tywysydd eich bod chi wedi cyrraedd. Os oes angen gadael yr ystafell aros arnoch chi, dywedwch wrth y tywysydd, rhag ofn y gelwir arnoch i fynd i’r gwrandawiad a chithau ddim yno.

Dal ati i siarad â’ch benthyciwr

Bydd eich benthyciwr yn anfon rhywun i’w gynrychioli yn y gwrandawiad. Os gallwch chi, siaradwch â chynrychiolydd eich benthyciwr yn yr ystafell aros cyn eich achos. Mae’n bosib y dewch i gytundeb - un rydych chi’n gallu ei fforddio ac un y mae’r benthyciwr yn cytuno gydag ef. Byddwch yn realistig ynglŷn â beth rydych chi’n cytuno iddo. Mae’n bosib y byddwch chi dal mewn perygl o golli eich cartref os ydych chi’n cytuno i wneud taliadau na fyddwch chi’n gallu eu fforddio yn ddiweddarach.

Beth i’w wneud os ydych chi'n dod i gytundeb gyda'r benthyciwr

Os ydych chi’n dod i gytundeb gyda chynrychiolydd eich benthyciwr, sicrhewch eich bod chi’n mynd i’r gwrandawiad ac yn rhoi gwybod i’r barnwr am yr hyn y cytunwyd arno.

Fideo: pan fyddwch chi’n cyrraedd eich gwrandawiad

Arrive for your hearing transcript image 1 150x120

Gwyliwch fideo sy’n dangos beth ddylech chi ei wneud pan fyddwch yn cyrraedd eich gwrandawiad.

Beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad

Fel arfer, nid yw gwrandawiadau llys ar gyfer meddiannu yn para’n hir. Pan fyddwch chi’n mynd i’r siambrau, dylai’r barnwr esbonio beth fydd yn digwydd yn ystod y gwrandawiad. Os nad ydych chi’n deall beth sy’n digwydd, holwch y barnwr.

Esbonio pam y dylid adfeddiannu eich cartref

Fel arfer, bydd cynrychiolydd y benthyciwr yn siarad yn gyntaf a bydd yn esbonio pam fod arno eisiau adfeddiannu eich cartref. Bydd y barnwr yn gofyn cwestiynau tebyg i’r canlynol i gynrychiolydd eich benthyciwr:

  • beth yw gwerth y morgais yn ei gyfanrwydd
  • beth yw cyfanswm yr ôl-ddyledion i gyd
  • y tro diwethaf i chi dalu rhandaliad ar eich morgais

Yna, byddwch chi, neu gynrychiolydd os oes gennych chi un, yn cael gofyn cwestiynau i gynrychiolydd y benthyciwr.

Esbonio pam ddylech chi gadw eich cartref

Wedi hyn, byddwch chi neu eich cynrychiolydd yn cael esbonio pam fod eich amgylchiadau personol yn golygu bod eich ôl-ddyledion morgais wedi cronni. Mae’n bosib i’r barnwr ofyn cwestiynau tebyg i’r canlynol i chi:

  • pwy sy’n byw yn eich cartref chi ac a oes gennych chi blant sy’n byw gyda chi
  • pam nad ydych chi’n gallu talu’r morgais
  • os ydych chi’n gallu gwneud taliadau morgais, faint allwch chi fforddio ei dalu ac ar ba ddyddiadau

Yna, bydd yn bosib i gynrychiolydd eich benthyciwr ofyn cwestiynau i chi neu i'ch cynrychiolydd chi.

Penderfyniad y barnwr

Tuag at ddiwedd y gwrandawiad bydd y barnwr fel arfer yn penderfynu ar beth ddylai ddigwydd nesaf. Gall y barnwr wneud y canlynol:

  • gwneud ‘gorchymyn’, sy’n benderfyniad cyfreithiol ar beth fydd yn digwydd i’ch cartref
  • gohirio’r gwrandawiad, sy’n golygu nad yw’r barnwr yn teimlo y gellir gwneud penderfyniad ar y diwrnod hwnnw, a dylai’r gwrandawiad gael ei ohirio tan ddyddiad arall.
  • gosod yr achos llys o’r neilltu, sy’n golygu na chaiff gorchymyn ei wneud a bod y gwrandawiad ar ben

Gorchmynion ynghylch adfeddiannu eich cartref

Ceir gwahanol fathau o orchmynion y gall barnwr eu gwneud:

  • gorchymyn meddiannu
  • gorchymyn meddiannu ataliedig neu ohiriedig
  • gorchymyn amser
  • gorchymyn ariannol
  • gorchymyn meddiannu gyda dyfarniad ariannol

Gweler ‘Gwrandawiadau meddiannu – beth all y barnwr ei benderfynu' i gael gwybod beth yw ystyr y gorchmynion hyn.

Beth i’w wneud os yw eich benthyciwr morgais yn mynd â chi i’r llys – cael gwybod mwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU