Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gwyliwch fideo a fydd yn rhoi gwybod i chi beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n cyrraedd y llys ac yn aros am eich gwrandawiad. Yma, cewch wybod beth sy’n bosib o ddigwydd yn eich gwrandawiad llys, gan gynnwys penderfyniadau y gallai’r barnwr eu gwneud.
I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.
Yma, cewch wybod beth ddylai ddigwydd yn eich gwrandawiad llys, gan gynnwys penderfyniadau y gallai’r barnwr eu gwneud.
Golygfa: Coridor gyda drws ar y pen. Mae’r diffynnydd (yr unigolyn y mae’r benthyciwr morgais neu’r landlord yn mynd â hi i’r llys) yn cerdded ar hyd y coridor tuag at y camera. Rydych yn ei dilyn hi i lawr y coridor i ystafell arall.
Llefarydd: Pan fyddwch yn cyrraedd y llys, cewch eich cyfeirio at ystafell aros.
Golygfa: O du mewn i'r ystafell aros, rydych yn gweld pobl yn eistedd ac wynebau’r rheini sy’n aros. Mae’r diffynnydd yn cyrraedd. Mae’n cerdded tuag at hysbysfwrdd ac yn edrych ar yr achosion llys sydd wedi’u rhestri yno. Rydych chi’n gallu gweld y rhestr dros ysgwydd y diffynnydd.
Llefarydd: Fel arfer, bydd rhestr o’r gwrandawiadau y bydd y barnwr yn gwrando arnynt y diwrnod hwnnw wedi'i gosod ar hysbysfwrdd yn yr ardal aros. Os ydych chi’n ddiffynnydd neu’n hawlydd heb gynrychiolaeth, dylech edrych ar y rhestr pan fyddwch chi’n cyrraedd y llys er mwyn gweld pryd y bwriedir gwrando eich achos. Os oes gennych chi gynrychiolaeth gyfreithiol, bydd eich cynghorydd fel arfer yn gwneud hyn ar eich rhan.
Golygfa: Desg y tywysydd.
Llefarydd: Pan fyddwch chi’n cyrraedd, dylech hefyd gyflwyno’ch hun i dywysydd y llys fel bod y tywysydd yn gwybod eich bod chi wedi cyrraedd a’ch bod yn aros i’ch achos gael ei alw. Os na wnewch chi hyn, rydych mewn perygl o golli'r gwrandawiad. Yn yr un modd, os oes rhaid i chi adael yr ystafell aros am seibiant neu am unrhyw reswm arall dylech roi gwybod i’r tywysydd bod arnoch angen gadael am gyfnod byr o amser. Golyga hyn os bydd y barnwr yn galw eich achos chi pan fyddwch wedi gadael am seibiant byr, bydd y tywysydd yn gwybod lle rydych chi. Eto, os na wnewch chi roi gwybod i’r tywysydd, rydych chi mewn perygl o golli’ch gwrandawiad.
Golygfa: Mae hawlydd (yr unigolyn sy’n mynd â’r diffynnydd i’r llys) yn sefyll yn y drws gyda sigarét yn ei law, yn barod i’w thanio. Mae’n cerdded i ffwrdd.
Golygfa: Y tu mewn i’r ystafell aros, mae’r hawlydd a’r diffynnydd yn eistedd gyferbyn â’i gilydd. Maent yn siarad.
Llefarydd: Tra rydych chi’n aros i'ch achos gael ei alw, mae'n bosib y bydd cyfle hefyd i chi drafod gyda'r parti arall os oes gennych chi'r awydd i wneud hynny - drwy siarad gyda nhw’n uniongyrchol neu drwy siarad â’u cynrychiolydd. Cofiwch eich bod yn cael ceisio dod i gytundeb gyda'r parti arall ar unrhyw adeg, er mwyn ceisio setlo'r achos. Os cânt gyfle, bydd nifer o bobl yn barod i drafod yr achos gyda chi er mwyn gweld a oes unrhyw ffordd i ddatrys yr anghydfod. Cofiwch, gallwch gytuno i setlo’r achos â’r parti arall ar unrhyw adeg.
Golygfa: Mae’r hawlydd a’r diffynnydd yn pwyso ymlaen ac yn ysgwyd llaw.
Yma, cewch wybod beth ddylai ddigwydd yn eich gwrandawiad llys, gan gynnwys penderfyniadau y gallai’r barnwr eu gwneud.