Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Apelio yn erbyn penderfyniad eich gwrandawiad meddiannu

Os ydych chi’n credu y bu i farnwr wneud camgymeriad ynglŷn â’r gyfraith neu ynglŷn â ffeithiau eich achos yn y gwrandawiad meddiannu gwreiddiol, mae’n bosib y gallwch chi apelio. Yma, cewch wybod sut i wneud cais am apêl a beth y mae’n bosib i’r barnwr benderfynu arno yn y gwrandawiad.

Gwneud apêl – beth mae’n ei olygu

Mae apelio yn golygu holi am gael edrych eto ar benderfyniad y barnwr yn y gwrandawiad gwreiddiol. Mae apelio yn wahanol i ofyn i farnwr ohirio eich troi allan neu ofyn iddo newid y taliadau rydych chi’n eu gwneud er mwyn cadw’ch cartref.

Gallwch ond apelio os gallwch chi ddangos bod y barnwr wedi gwneud camgymeriadau ynglŷn â’r gyfraith neu ynglŷn â ffeithiau eich achos wrth wneud penderfyniad. Gelwir rhoi rhesymau ar gyfer cael apêl weithiau yn 'sail ar gyfer apêl’.

Penderfynu ar yr apêl

Bydd y barnwr a fydd yn penderfynu ar yr apêl yn hŷn, neu o ‘lefel uwch’, na’r barnwr a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.

Ceisio cyngor os ydych chi am apelio

Os oes arnoch eisiau apelio yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol dylech geisio cyngor. Gallwch chi ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol oddi ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.

Gwneud cais am apêl

O bosib, gallwch chi ofyn i'r barnwr os cewch chi apelio (a elwir hefyd yn ‘ganiatâd’ neu’n ‘hawl’ i apelio) ar ddiwedd eich gwrandawiad meddiannu gwreiddiol. Os cewch chi ganiatâd i apelio, bydd angen i chi wneud cais yn fuan iawn ar ôl eich gwrandawiad meddiannu gwreiddiol.

Wedi i chi gael caniatâd i apelio, bydd rhaid i chi wneud cais am wrandawiad apêl. Bydd rhaid i chi dalu ffi i’r llys er mwyn cael gwrandawiad apêl. Os ydych chi’n cael budd-daliadau neu os ydych chi ar incwm isel, mae’n bosib na fydd rhaid i chi dalu’r ffi (a elwir hefyd yn ‘ddileu ffioedd’). Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am ddileu ffioedd.

Os yw’r barnwr yn gwrthod â chaniatáu apêl – beth i’w wneud

Gallwch ofyn i farnwr lefel uwch am ganiatâd i apelio os:

  • yw’r barnwr yn eich gwrandawiad gwreiddiol yn gwrthod â chaniatáu i chi apelio, neu os
  • na wnaethoch chi holi am ganiatâd yn eich gwrandawiad gwreiddiol

Bydd y barnwr lefel uwch yn penderfynu a fydd yn rhoi caniatâd i chi apelio ai peidio drwy edrych ar bapurau’r llys ar gyfer eich achos neu drwy gynnal gwrandawiad newydd.

Gwrandawiad apêl – beth all ddigwydd

Os cewch chi ganiatâd i apelio, bydd gwrandawiad apêl yn cael ei gynnal gyda barnwr o lefel uwch yn gwneud penderfyniad. Yn y gwrandawiad, gall y barnwr benderfynu ar nifer o bethau, gan gynnwys:

  • cadw’r penderfyniad gwreiddiol
  • gwrthod (‘gosod o’r neilltu’) neu newid (‘amrywio’) y penderfyniad gwreiddiol
  • gorchymyn gwrandawiad newydd

Gall y barnwr hefyd benderfynu ar bwy ddylai dalu costau’r gwrandawiad apêl (y costau cyfreithiol megis cyflogi twrnai a ffioedd y llys). Er enghraifft, mae’n bosib y bydd y barnwr yn penderfynu mai’r unigolyn sy'n colli a ddylai dalu costau’r ochr arall.

Allweddumynediad llywodraeth y DU