Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Fideo: ôl-ddyledion morgais - gair i gall

Gwyliwch fideo lle mae'r Barnwr Rhanbarth Stephen Gold yn rhoi gair i gall i chi am beth i’w wneud os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch ad-daliadau morgais. Yma, cewch wybod beth allwch chi ei wneud i sicrhau na chaiff eich tŷ ei adfeddiannu, gan gynnwys sut i geisio cyngor.

Methu gweld y fideo?

Mortgage arrears dos and donts_320x180

I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.

Beth allwch chi ei wneud er mwyn osgoi adfeddiant - canllaw

Yma, cewch wybod beth allwch chi ei wneud i sicrhau eich bod yn cael cadw eich cartref, os ydych chi’n wynebu adfeddiant.

Fersiwn testun

Beth ddylwn i ei wneud?

Y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold: Os ydych chi’n methu talu eich rhandaliadau morgais, mae’n bosib i chi golli eich cartref. Dyna pam ei bod yn hanfodol eich bod yn gosod y flaenoriaeth uchaf ar dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych i’r benthycwyr. Ond ni all eich benthycwyr eich troi allan o’ch cartref heb fynd â chi i’r llys. "Os gwelwch yn dda, peidiwch â mynd â mi i’r llys." Dyna ddylai chi fod yn ei ddweud wrth eich benthycwyr os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch taliadau neu’n gwybod fod hyn yn mynd i ddigwydd. Cysylltwch â nhw. Byddant eisiau gwybod:

  • beth yw’r broblem
  • pryd mae’r broblem yn debygol o gael ei datrys
  • pa mor gyflym y gallwch chi glirio’r ôl-ddyledion

Efallai nad ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu cysylltu â’ch benthyciwr yn uniongyrchol? Gan nad yw’r broblem yn mynd i ddiflannu, wynebwch hi ac ewch i geisio cyngor. Gallwch chi geisio cyngor rhad ac am ddim gan eich canolfan CAB leol (Cyngor Ar Bopeth), gan Shelter neu gan y Linell Ddyled Genedlaethol. Gallwch chi ddod o hyd i’w rhifau ffôn yn y ‘Yellow Pages’ a dylai unrhyw lythyron rydych chi wedi eu cael gan eich benthycwyr ddweud wrthych chi pwy all eich helpu.

Beth os na alla i ddod i gytundeb gyda fy menthyciwr?

Y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold: Ond mae’n bosib y gallwch chi ddod i gytundeb gyda’ch benthycwyr. Fel arall, gall ôl-ddyledion arwain at achos llys. Yna, byddwch yn cael ffurflen hawlio. Peidiwch â’i hanwybyddu. Bydd y ffurflen hawlio yn rhoi manylion pryd fydd y gwrandawiad yn digwydd ac ym mha lys sirol. Bydd y ffurflen yn debygol o ddweud bod ar eich benthycwyr eisiau meddiannu eich cartref - gorchymyn i chi adael am byth. Byddai hynny’n eu galluogi i werthu’r tŷ a chymryd yr hyn sy’n ddyledus iddynt allan o bris y tŷ. Y neges unwaith eto yw ‘peidiwch â’i anwybyddu'. Gallwch geisio cyngor diduedd sy’n rhad ac am ddim.

Gyda’r ffurflen hawlio bydd ffurflen amddiffyn. Os ydych chi’n gobeithio osgoi gorchymyn meddiannu, cwblhewch y ffurflen amddiffyn a’i dychwelyd i’r llys. Bydd yn gofyn a oes arnoch eisiau i'r llys ystyried gadael i chi dalu'r ôl-ddyledion mewn rhandaliadau ac ystyried faint allwch chi fforddio ei dalu ar ben y rhandaliadau misol presennol.

Beth ddylwn i ei wneud cyn y gwrandawiad?

Y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold: Cyn y gwrandawiad – siaradwch a thalwch. Er bod gwrandawiad llys ar y gweill, nid oes dim yn eich atal rhag ceisio dod i gytundeb gyda’r benthycwyr, am y tro cyntaf, neu os ydych chi wedi ceisio o'r blaen. Talwch yr hyn a fedrwch tuag at yr ôl-ddyledion a’r rhandaliadau presennol.

Os oes anghydfod yn dal i fod rhyngoch chi a’ch benthycwyr ar ddyddiad y gwrandawiad, ffolineb llwyr fyddai cadw draw o’r gwrandawiad. Yn y llys, mae'n bosib y bydd desg gymorth yno gyda thwrnai neu CAB neu ymgynghorydd arall wrth law i’ch helpu: os oes angen, gallant hyd yn oed siarad ar eich rhan yn y gwrandawiad. Rydych yn dal i allu mynd at y ddesg gymorth hyd yn oed os nad ydych chi wedi ceisio unrhyw gyngor hyd yn hyn. Gwell hwyr na’n hwyrach. Bydd y cymorth hwn yn rhad ac am ddim.

Beth all y barnwr ei wneud?

Y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold: Fel arfer, mae gan y llys opsiynau am ba orchymyn y dylai ei wneud, dim ots a yw’r morgais yn un ad-dalu ynteu’n un llog yn unig ynteu’n gymysgedd o’r ddau. Ond, gyda morgais sy’n sicrhau gorddrafft banc sy’n gofyn i chi dalu ‘ar gais’, ni fydd yr opsiynau hyn yn berthnasol yn fwy na thebyg, ac mae’n bosib y bydd eich sefyllfa yn fwy gwan.

Gadewch i ni edrych ar yr opsiynau.

Mae’n bosib i’r barnwr ohirio’r gwrandawiad. Mae hyn yn debygol o fod am gyfnod byr pan fyddwch, er enghraifft, wedi benthyg arian gan fenthycwyr eraill a fydd yn talu'r hyn sy'n ddyledus gennych i'ch benthycwyr presennol, a gall gymryd ychydig o wythnosau i ddod â hyn i ben.

Neu, mae’n bosib y bydd y barnwr yn gwneud gorchymyn meddiannu ataliedig. Gorchymyn yw hwn sy’n gofyn i chi adael eich cartref erbyn dyddiad penodedig ond sy’n cael ei ohirio – ei rewi – cyn belled â’ch bod chi’n cydymffurfio â’r telerau y bydd y llys yn eu pennu ynghylch taliadau yn y dyfodol.

Neu, mae’n bosib y bydd y barnwr yn gwneud gorchymyn meddiannu diamod. Yn amlach na pheidio, bydd hyn yn gofyn i chi adael o fewn pedair wythnos i'r gwrandawiad. Fodd bynnag, mae gan y barnwr y pŵer i ganiatáu mwy o amser, os oes rheswm digonol. Er enghraifft, os llwyddwch i ddarbwyllo’r barnwr eich bod ar fin gwerthu ac y bydd eich benthycwyr yn cael yr hyn sy’n ddyledus iddynt i gyd o’r pris hwnnw, mae’n bosib y cewch chi amser digonol i gwblhau’r gwerthiant.

Gydag ail forgeisi, mae'n bosib y bydd gan y barnwr bwerau ehangach, gan gynnwys caniatáu taliadau presennol gostyngedig dros gyfnod o anhawster ariannol.

Beth os oes rhaid i fy nghartref gael ei werthu?

Y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold: Mae’n bosib eich bod chi wedi penderfynu na allwch chi fforddio talu eich morgais a bod rhaid i chi werthu eich cartref. Derbynnir, yn gyffredinol, bod pris uwch yn fwy tebygol o gael ei dalu mewn gwerthiant preifat gan yr unigolyn sydd wedi benthyg arian na mewn gwerthiant gorfodol – efallai mewn arwerthiant cyhoeddus – gan fenthycwyr sydd wedi meddiannu’r tŷ. Oni bai fod eich benthycwyr yn meddiannu eich tŷ, a nes i’ch benthycwyr feddiannu eich tŷ, mae gennych chi’r hawl i roi eich tŷ ar y farchnad er mwyn ei werthu. Yn wir, gallwch chi ofyn i'r llys ganiatáu i chi aros yn y tŷ am fwy o amser os ydych chi wedi trefnu gwerthiant ar ôl y gwrandawiad llys lle y bu i orchymyn meddiannu gael ei wneud yn wreiddiol. Byddai’r barnwr yn chwilio am dystiolaeth gadarn bod y gwerthiant yn mynd i ddigwydd. Yr amgylchiadau fydd yn penderfynu a gewch chi fwy o amser ai peidio.


Beth allwch chi ei wneud er mwyn osgoi adfeddiant - canllaw

Yma, cewch wybod beth allwch chi ei wneud i sicrhau eich bod yn cael cadw eich cartref, os ydych chi’n wynebu adfeddiant.

Allweddumynediad llywodraeth y DU