Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Ar ôl gwrandawiadau meddiannu - beth sy’n digwydd a beth ddylech chi ei wneud

Os yw barnwr yn gwneud gorchymyn meddiannu ar eich cartref neu os cewch chi rybudd eich bod yn cael eich troi allan o'ch cartref, gweithredwch ar unwaith. Gallwch geisio cyngor ynglŷn â beth y gallwch chi ei wneud er mwyn cadw eich cartref.

Peidiwch ag anwybyddu llythyrau gan y llys

Os yw eich benthyciwr morgais yn mynd â chi i’r llys, peidiwch ag anwybyddu llythyrau gan y llys. Bydd y llythyrau yn cynnwys gwybodaeth bwysig ac mae’n bosib y bydd angen i chi weithredu ar unwaith i geisio cadw eich cartref.

Gorchymyn meddiannu - beth i'w wneud os cewch chi un

Os yw barnwr yn rhoi gorchymyn meddiannu i chi (a elwir weithiau’n orchymyn meddiannu ‘llawn’) mewn gwrandawiad llys, mae angen i chi gysylltu â chynghorydd ariannol a cheisio cymorth cyfreithiol ar unwaith.

Dylech hefyd siarad â’ch benthyciwr oherwydd mae’n bosib y gwnewch chi ddod i gytundeb sy’n golygu y gallwch chi gadw eich cartref.

Rhybudd o droi allan – beth fydd yn digwydd a beth i’w wneud os cewch chi un ohonynt

Os nad ydych chi’n gadael eich cartref erbyn y dyddiad a roddir mewn gorchymyn meddiannu llawn, gall eich benthyciwr ofyn i’r llys am ‘warant meddiannu’. Os bydd y llys yn rhoi gwarant, bydd rhybudd o droi allan yn cael ei anfon atoch a fydd yn cynnwys y dyddiad y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref. Os nad ydych chi’n mynd, gall beili eich troi chi allan. Bydd costau gwneud hyn yn cael eu hychwanegu at yr arian sy’n ddyledus gennych chi’n barod.

Ceisio cyngor ariannol a chyfreithiol

Mae'n hanfodol i chi geisio cyngor cyfreithiol ac ariannol ar unwaith i geisio atal neu ohirio cael eich troi allan. Gall twrnai neu gynghorydd eich helpu gyda’ch opsiynau, gan gynnwys:

  • gofyn i farnwr ohirio eich troi allan neu ganiatáu i chi aros yn eich cartref
  • beth i’w wneud ynglŷn ag ildio eich allweddi
  • gwneud cais am y cynllun Achub Morgeisi

Cysylltu â'ch cyngor lleol

Os ydych chi’n bryderus ynghylch cael eich troi allan, cysylltwch â’ch cyngor lleol. Dylent geisio eich helpu os ydych chi’n ddigartref

Peidiwch ag ildio eich allweddi

Os ydych chi’n ildio eich allweddi yn wirfoddol cyn dyddiad eich troi allan, mae’n bosib na fydd y cyngor yn medru eich helpu i ddod o hyd i gartref arall.

Gofyn i’r barnwr ohirio eich troi allan

Gallwch ofyn i farnwr ‘atal y warant meddiannu’. Golyga hyn y bydd yn gohirio eich troi allan neu yn caniatáu i chi aros yn eich cartref os ydych chi’n medru gwneud taliadau eto. Cynhelir gwrandawiad newydd ond ni fydd y barnwr yn cytuno yn awtomatig i atal y warant meddiannu – mae’n dibynnu ar beth fydd yn digwydd yn y llys.

Os ydych chi am atal gwarant, ceisiwch gyngor ar unwaith drwy ddilyn y ddolen isod.

Gwneud cais i atal a mynd i’r llys

Os oes arnoch eisiau gwneud cais i atal, dylech chi gwblhau ffurflen gais ar unwaith ac un ai ei hanfon neu ei danfon i'r llys. Dilynwch y ddolen isod er mwyn llwytho ffurflen gais oddi ar y we

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r llys fod arnoch angen gwrandawiad ar fyr rybudd (cyn dyddiad eich troi allan). Bydd rhaid i chi dalu ffi i’r llys pan fyddwch chi’n gwneud cais i atal y warant. Os ydych chi’n cael budd-daliadau neu os ydych chi ar incwm isel, mae’n bosib na fydd rhaid i chi dalu’r ffi (a elwir hefyd yn ‘ddileu ffioedd’).

Bydd y gwrandawiad llys newydd fel eich gwrandawiad meddiannu gwreiddiol.

Gorchymyn gohiriedig, gorchymyn ataliedig, neu orchymyn amser – beth i’w wneud os cewch chi un ohonynt

Os cewch chi orchymyn gohiriedig, gorchymyn ataliedig, neu orchymyn amser, dylech wneud y taliadau sydd wedi eu pennu yn y gorchymyn neu bydd yn bosib i chi golli eich cartref.

Siarad â’ch benthyciwr

Os na allwch chi dalu’r symiau y cytunwyd iddynt yn y llys, siaradwch â’ch benthyciwr ac mae’n bosib y dewch i gytundeb y gallwch ei fforddio.

Gofyn i’r llys newid eich taliadau

Os yw eich amgylchiadau’n newid mewn ffordd nad oedd posib gwybod amdani o flaen llaw, gallwch chi ofyn i farnwr mewn gwrandawiad newid faint rydych chi’n ei dalu. Dilynwch y dolenni isod er mwyn cael cyngor cyfreithiol neu gyngor ariannol ac i lwytho ffurflen gais oddi ar y we am wrandawiad i newid faint rydych yn ei dalu.

Bydd rhaid i chi dalu ffi i’r llys i gael gwrandawiad newydd. Os ydych chi’n cael budd-daliadau neu os ydych chi ar incwm isel, mae’n bosib na fydd rhaid i chi dalu’r ffi (a elwir hefyd yn ‘ddileu ffioedd’). Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am ddileu ffioedd.

Gwerthu eich cartref er mwyn talu ôl-ddyledion

Mae’n bosib y gwnewch chi benderfynu gwerthu eich tŷ i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych i'ch benthyciwr. Os oes arnoch eisiau gwneud hyn, dylech feddwl a oes gennych chi ddigon o amser ai peidio i werthu eich tŷ cyn i chi golli’r hawl i gadw eich cartref. Yn ogystal, mae’n bosib y bydd rhaid i chi holi am ganiatâd y benthyciwr i werthu'r tŷ.

Trefnu gwerthiant eich cartref

Os ydych chi’n penderfynu gwerthu, yna mae’n bwysig eich bod chi’n trefnu’r gwerthiant. Os yw eich benthyciwr yn gwerthu eich tŷ mewn arwerthiant, mae’n bosib y bydd y pris gwerthu yn is na beth allwch chi ei gael ar y farchnad agored. Bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n ddyledus gennych a phris gwerthu eich cartref.

Apelio yn erbyn penderfyniad eich gwrandawiad meddiannu

Weithiau, fe allwch apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan y barnwr yn eich gwrandawiad meddiannu gwreiddiol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i apelio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU