Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 5 Medi 2012

Fideo: beth yw gorchymyn meddiannu ataliedig?

Gwyliwch fideo lle mae barnwr profiadol, y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold, yn esbonio beth yw gorchymyn meddiannu ataliedig a sut mae’n gweithio.

Methu gweld y fideo?

What is a Suspended order for possession_320x180

I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.

Gwrandawiadau meddiannu – beth all y barnwr ei benderfynu

Yma, cewch wybod am y gwahanol benderfyniadau y gall y barnwr eu gwneud am beth fydd yn digwydd i’ch cartref ar ôl gwrandawiad meddiannu.

Fersiwn testun

Y Barnwr Rhanbarth Stephen Gold: Mwy am orchmynion meddiannu ataliedig.

(Mae’r barnwr yna’n crynhoi ystyr enghraifft ddychmygol, ond nodweddiadol, o orchymyn meddiannu ataliedig)

"Mae’n rhaid i chi adael mewn pedair wythnos ond ni fydd dim yn cael ei wneud ynghylch eich troi chi allan cyn belled â’ch bod chi’n talu'r taliadau misol roeddech chi wedi cytuno arnynt yn wreiddiol, yn ogystal â £50, neu faint bynnag, y mis oddi ar yr ôl-ddyledion."

Dyna sut mae gorchymyn meddiannu ataliedig yn gweithio.

Nid oes modd i’r barnwr wneud gorchymyn ataliedig, dim ots pa mor galed yw’r amgylchiadau, os nad oes gobaith lleihau’r ôl-ddyledion. A gall y barnwr ond wneud gorchymyn ataliedig os bydd yr ôl-ddyledion wedi’u clirio o fewn amser rhesymol. Rhesymol? Bydd yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae’r barnwr yn debygol o edrych ar faint allwch chi fforddio ei dalu: os ydych chi'n cael anhawster dros dro wrth gyflawni'ch dyletswyddau, am faint fydd yr anhawster yn para; pam y bu i'r ôl-ddyledion godi; ac a yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrannu unrhyw beth tuag at y llog dyledus – neu a ddylent fod.

Os mai perthynas yn chwalu sydd wrth wraidd yr ôl-ddyledion, gall y ffaith y bydd arian yn dod allan o achosion o fath priodasol fod yn berthnasol, oherwydd gall yr arian hwn fod yn ddigon i glirio'r cyfan neu ran fawr o'r ôl-ddyledion.

Bydd hyd y morgais a’r gwahaniaeth rhwng gwerth y tŷ ar y farchnad a’r swm sy’n ddyledus i’ch benthycwyr hefyd yn ffactorau pwysig.

Byddai’n rhaid i’r ôl-ddyledion fod wedi cael eu clirio cyn i’r morgais ddod i ben

Gwrandawiadau meddiannu – beth all y barnwr ei benderfynu

Yma, cewch wybod am y gwahanol benderfyniadau y gall y barnwr eu gwneud am beth fydd yn digwydd i’ch cartref ar ôl gwrandawiad meddiannu.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Cross & Stitch yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU