Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Mynd i’r llys ynghylch ôl-ddyledion rhent - beth sy’n digwydd ar y diwrnod

Yma, cewch wybod sut i geisio cyngor cyn i chi fynd i’r llys yn ogystal â sut beth fydd y gwrandawiad. Cewch wylio fideo ynghylch beth i’w wneud pan fyddwch chi’n cyrraedd adeilad y llys. Hefyd, cewch wybod sut i geisio cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim ar ddiwrnod y gwrandawiad, a chewch wybod pa benderfyniadau y gallai'r barnwr eu gwneud.

Sut beth fydd y gwrandawiad llys

Mae’n bosib eich bod chi’n nerfus ynglŷn â mynd i’r llys, ond mae nifer o bobl yn cael profiad llai brawychus na’r disgwyl. Caiff gwrandawiadau meddiannu eu cynnal yn y llys sirol fel arfer, ac maent yn digwydd mewn ystafell sy’n edrych fel swyddfa o’r enw ‘siambr’ y barnwr. Bydd y barnwr yn gwisgo siwt yn hytrach na’r gynau rydych chi’n eu gweld yn aml mewn achosion llys ar y teledu.

Ceisio cyngor cyn mynd i’r gwrandawiad

Mae’n rhaid i chi gysylltu ag un o’r mudiadau sy’n darparu cyngor am ddyled ac mae’n rhaid i chi geisio cymorth cyfreithiol cyn i chi fynd i’r gwrandawiad, os nad ydych chi wedi gwneud hyn eisoes. Gallwch chi ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol oddi ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.

Ceisio cyngor ar ddiwrnod y gwrandawiad

Os nad ydych chi wedi cael cymorth blaenorol, gallwch chi gael cymorth cyfreithiol annibynnol, yn rhad ac am ddim, ar ddiwrnod y gwrandawiad. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i geisio’r cyngor hwn.

Cyrraedd adeilad y llys

Pan fyddwch chi’n cyrraedd adeilad y llys gyda’r holl waith papur y mae arnoch ei angen, cewch eich tywys i’r ystafell aros gan y staff diogelwch neu staff y dderbynfa. Bydd tywysydd y llys yn yr ystafell aros, a bydd yn mynd â chi o’r ystafell aros i siambrau’r barnwr. Dylech chi ddweud wrth y tywysydd eich bod chi wedi cyrraedd. Os oes angen gadael yr ystafell aros arnoch chi, dywedwch wrth y tywysydd, rhag ofn y gelwir arnoch i fynd i’r gwrandawiad a chithau ddim yno.

Daliwch ati i siarad â’ch landlord

Mae’n bosib y bydd eich landlord yn anfon rhywun i’w gynrychioli yn y gwrandawiad. Os gallwch chi, siaradwch â chynrychiolydd eich landlord yn yr ystafell aros cyn eich achos. Mae’n bosib y dewch i gytundeb - un rydych chi’n gallu ei fforddio ac un y mae’r benthyciwr yn cytuno gydag ef. Byddwch yn realistig ynglŷn â beth rydych chi’n cytuno iddo. Mae’n bosib y byddwch chi dal mewn perygl o golli eich cartref os ydych chi’n cytuno i wneud taliadau na fyddwch chi’n gallu eu fforddio yn hwyrach ymlaen.

Beth i’w wneud os ydych chi'n dod i gytundeb gyda'r landlord

Os ydych chi’n dod i gytundeb gyda chynrychiolydd eich landlord, sicrhewch eich bod chi’n mynd i’r gwrandawiad ac yn rhoi gwybod i’r barnwr am yr hyn y cytunwyd arno.

Fideo: Pan fyddwch chi’n cyrraedd eich gwrandawiad

Arrive for your hearing transcript image 1 150x120

Gwyliwch fideo sy’n dangos beth ddylech chi ei wneud pan fyddwch yn cyrraedd eich gwrandawiad.

Y gwrandawiad - beth y mae’n bosib i’r barnwr ei ofyn

Fel arfer, nid yw gwrandawiadau llys ar gyfer meddiannu yn para yn hir. Pan fyddwch chi’n mynd i’r siambrau, dylai’r barnwr esbonio beth fydd yn digwydd yn ystod y gwrandawiad. Os nad ydych chi’n deall beth sy’n digwydd, holwch y barnwr.

Gan ddibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych, mae’n bosib i’r barnwr holi gwahanol gwestiynau, gan gynnwys:

  • pam fod gennych ôl-ddyledion
  • ydych chi wedi ceisio dod o hyd i ateb gyda’ch landlord
  • beth yw eich sefyllfa ariannol nawr
  • faint allwch chi ei dalu tuag at eich ôl-ddyledion
  • oes rhesymau arbennig pam y byddai arnoch angen, o bosib, mwy o amser i symud i dŷ newydd (megis gofalu am berthynas sy’n wael yn eich cartref)

Penderfyniad y barnwr

Tuag at ddiwedd y gwrandawiad bydd y barnwr fel arfer yn penderfynu ar beth ddylai ddigwydd nesaf. Gall y barnwr wneud y canlynol:

  • gwneud ‘gorchymyn’, sy’n benderfyniad cyfreithiol ar beth fydd yn digwydd
  • gohirio’r gwrandawiad, sy’n golygu nad yw’r barnwr yn teimlo y gellir gwneud penderfyniad ar y diwrnod hwnnw, a dylai’r gwrandawiad gael ei ohirio tan yn ddiweddarach
  • gwrthod yr achos llys, sy’n golygu na chaiff gorchymyn ei wneud a bod y gwrandawiad ar ben

Bydd y barnwr yn gwrthod yr achos os nad oes rheswm pam y dylech gael eich troi allan. Gallai hyn ddigwydd:

  • os nad yw’ch landlord wedi dilyn y weithdrefn gywir i ddod â’r achos i’r llys
  • os nad yw’ch landlord neu ei gynrychiolydd yn dod i’r gwrandawiad
  • os yw’r ôl-ddyledion rhent wedi cael eu talu eisoes i’r landlord

Os yw’r barnwr yn gwrthod yr achos, mae gennych chi’r hawl i aros yn eich cartref. Os oes ar y landlord eisiau’ch troi allan, bydd rhaid iddo ailgychwyn proses y llys o’r dechrau.

Gorchmynion ynghylch adfeddiannu eich cartref

Ceir gwahanol fathau o orchmynion y gall barnwr eu gwneud:

  • gorchymyn meddiannu (a elwir weithiau yn orchymyn meddiannu ‘llawn’)
  • gorchymyn meddiannu ataliedig
  • gorchymyn ariannol
  • gorchymyn meddiannu gyda dyfarniad ariannol

Gweler ‘Ôl-ddyledion rhent - beth all y barnwr ei benderfynu' i gael gwybod beth yw ystyr y gorchmynion hyn

Allweddumynediad llywodraeth y DU