Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Hawliadau a Dyfarniadau Llys Sirol

Os cewch chi lythyr yn dweud bod hawliad llys sirol wedi cael ei wneud, sy’n dweud bod arnoch chi arian i rywun, peidiwch â dychryn. Bydd y llys yn penderfynu a oes gennych ddyled i’w thalu – ac os felly, sut y dylech ei thalu’n ôl – mewn ffordd sy'n deg i bawb.

Diben hawliad llys sirol

Gall rhywun y mae arnoch chi arian iddo (a elwir yn 'credydwr') ddwyn achos yn eich erbyn mewn llys sirol er mwyn hawlio'r arian. Os talwch chi'r swm sy'n ddyledus, gallwch osgoi dyfarniad yn eich erbyn.

Os na allwch chi dalu’r swm yn llawn, bydd yn rhaid i chi lenwi'r papurau llys a'u dychwelyd o fewn y terfyn amser.

Ni fydd y llys yn dweud bod neb yn 'euog' nac yn 'ddieuog'. Bydd yn edrych ar y ffeithiau ac yn penderfynu a oes arnoch chi arian o gwbl, ac os felly, sut y dylech ei dalu'n ôl.

Dan gyfraith yr Alban, delir â hawliadau mewn modd gwahanol, gan Lys y Siryf.

Ffurflen Hawlio'r Llys Sirol

Bydd y llys yn anfon 'ffurflen hawlio' atoch, yn dangos faint mae'r credydwr yn ei ddweud sydd arnoch chi iddo, a manylion yr hawliad (er y gellir anfon y manylion hyn ar wahân hyd at 14 o ddiwrnodau wedyn). Bydd y ffurflen hon yn rhoi'r cyfle i chi esbonio'ch sefyllfa i'r llys.

Ymateb i Ffurflen Hawlio

Byddwch yn derbyn ffurflen addefiad gyda'r ffurflen hawlio, a fydd yn gofyn i chi am eich incwm a'ch gwariant. Ar y ffurflen, gallwch gynnig talu'r ddyled mewn rhandaliadau y gallwch eu fforddio (neu swm llai os ydych chi'n meddwl bod arnoch chi lai na'r hyn y mae'r credydwr yn ei honni).

Os na fyddwch yn gwneud cynnig ar y ffurflen, neu os byddwch yn gwneud cynnig na fydd y credydwr na’r llys yn cytuno ag ef, bydd y llys yn eich gorchymyn i wneud un o'r canlynol:

  • talu’r cyfanswm mewn taliad un-swm, neu
  • talu’r ddyled yn ôl mewn taliadau misol penodol

Bydd gennych 16 diwrnod o ddyddiad y marc post i anfon y ffurflen yn ôl. Dylech anfon y ffurflen yn ôl i gyfeiriad y credydwr a fydd ar y ffurflen hawlio.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn llenwi’r ffurflen ac yn ei hanfon yn ôl o fewn y terfyn amser. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd y llys fel arfer yn eich gorchymyn i dalu’r ddyled gyfan yn ôl ar unwaith. Gelwir hyn yn ddyfarniad ‘ar unwaith’.

Os bydd hyn yn digwydd, ni fyddwch yn cael gwneud hawliad am ailbenderfyniad (gweler isod), bydd yn rhaid i chi wneud hawliad i gael talu'r ddyled yn ôl mewn taliadau misol. Gelwir hyn yn orchymyn rhandaliadau.

Os bydd arnoch eisiau amddiffyn eich achos, dylech anfon 'Cydnabyddiad Cyflwyno' (Acknowledgement of Service) neu 'ffurflen amddiffyniad' i'r llys, yn dibynnu ar sut rydych yn bwriadu bwrw ymlaen. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am y ffurflenni hyn.

Dyfarniadau Llys Sirol

Bydd y llys yn rhoi gorchymyn yn dweud bod yn rhaid i chi dalu’r ddyled yn ôl, ac yn dweud wrthoch faint i’w dalu. Gelwir y gorchymyn hwn yn Ddyfarniad Llys Sirol a bydd naill ai am swm y cytunwyd arno rhyngoch chi a'ch credydwr, neu, os na allwch chi gytuno, yn swm a bennir gan y llys.

Ailbenderfyniadau

Os na allwch chi fforddio’r hyn mae’r llys wedi penderfynu y dylech ei dalu, gallwch wneud hawliad i’r llys edrych eto ar eich cynnig. Gelwir hyn yn ‘ailbenderfyniad’. Ni chodir ffi am hyn, ond bydd yn rhaid i chi ei wneud o fewn 14 diwrnod ar ôl i chi gael y gorchymyn.

Gallwch wneud hawliad drwy ysgrifennu llythyr i'r llys sirol. Dyfynnwch rif eich achos, rhowch daflen eich cyllideb bersonol fel atodiad, ac eglurwch pam eich bod yn anghytuno â gorchymyn y llys.

Os gwnaeth barnwr rhanbarth y gorchymyn gwreiddiol heb wrandawiad, bydd yn rhaid i'r ailbenderfyniad neu'ch cynnig gael ei benderfynu mewn gwrandawiad.

Os bydd gwrandawiad, bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i’ch llys sirol lleol fel y gallwch ei fynychu. Bydd y llys yn rhoi dyddiad eich gwrandawiad i chi.

Os oes gennych chi o leiaf un dyfarniad llys sirol, ac os oes arnoch arian i fwy nag un credydwr, gall y llys gyfuno'ch dyledion a gwneud 'gorchymyn gweinyddu' – yn dweud bod yn rhaid i chi wneud un taliad bob mis i'w rannu rhwng eich credydwyr i gyd. Ni chaiff eich dyled fod yn fwy na chyfanswm o £5,000.

I bwy rydych chi’n talu?

Byddwch yn talu i’r credydwr a wnaeth yr hawliad yn eich erbyn, neu i'w dwrnai neu i'w gynrychiolydd a fydd yn derbyn eich taliadau ar ei ran.

Beth i’w wneud os na allwch chi dalu

Os na fyddwch chi'n talu o gwbl, neu os na fyddwch chi'n talu'r taliadau ar yr adegau a bennwyd, gall y credydwr ofyn i'r llys gymryd camau i'ch gorfodi i dalu, ac fe all hynny olygu bod yn rhaid i chi dalu mwy o gostau.

Os nad oes gennych chi fodd i dalu, gallwch ofyn i'r llys wneud y canlynol:

  • newid swm y taliadau rheolaidd rydych i fod i’w talu (a elwir yn orchymyn rhandaliadau) – gallwch wneud hawliad ar ffurflen lys arbennig o’r enw N245
  • gohirio’r gorchymyn tan y byddwch yn gallu fforddio talu – gallwch wneud hawliad gan ddefnyddio ffurflen hawlio o’r enw N244

Gallwch gael gafael ar y ffurflenni i gyd drwy ddefnyddio gwasanaeth chwilio am ffurflenni Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.

Cofnodion Dyfarniadau Llys Sirol

Os na fyddwch chi wedi talu swm llawn y dyfarniad o fewn mis, bydd eich Dyfarniad Llys Sirol yn cael ei gofnodi ar Gofrestr y Dyfarniadau Llys Sirol am chwe blynedd.

Mae sefydliadau megis banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau benthyciadau'n defnyddio'r wybodaeth ar y gofrestr i'w helpu i benderfynu a ddylen nhw roi credyd neu fenthyciad megis morgais i chi.

Beth i’w wneud os byddwch chi'n anghytuno â Dyfarniad Llys Sirol

Os bydd gennych reswm dilys dros anghytuno â Dyfarniad Llys Sirol, cewch ofyn i’r llys dynnu’r dyfarniad ymaith ('ei osod o'r naill du'). Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu ffi am hyn. Os nad oes gennych reswm dilys, fe allai eich hawliad gael ei ystyried yn hawliad sy'n gwastraffu amser y llys neu'n anudoniaeth (perjury) – mae'r rhain yn droseddau a all arwain at ddirwyon a dedfryd o garchar.

Os rhoddir y dyfarniad o'r naill du, bydd popeth yn mynd yn ôl i ddechrau'r hawliad. Cewch gyfle arall i ymateb i'r Ffurflen Hawlio ac i esbonio eich sefyllfa. Tynnir y Dyfarniad Llys Sirol oddi ar y Gofrestr Dedfrydau, Gorchmynion a Dirwyon nes y gwneir dyfarniad newydd.

Newid eich cofnod credyd

Mae rhai cwmnïau yn codi tâl am wasanaethau ‘adfer eich statws credyd’ sy’n honni eu bod yn eich helpu i dynnu Dyfarniadau Llys Sirol oddi ar y gofrestr. Gofynnwch am gyngor annibynnol, sy’n rhad ac am ddim, yn gyntaf cyn i chi ddechrau defnyddio un o'r cwmnïau hyn. Mae’n rhaid i gwmnïau sy’n adfer eich statws credyd gael trwydded credyd defnyddwyr gan y Swyddfa Masnachu Teg. Gwnewch yn siŵr bod gan y cwmni drwydded.

Os yw'r wybodaeth ar y gofrestr yn anghywir, fe allwch dalu £2 i asiantaeth archwilio credyd i gael gweld eich ffeil credyd a gofyn iddyn nhw gywiro unrhyw gamgymeriad.

Ond cofiwch, dim ond dan yr amodau a ganlyn y tynnir dyfarniad oddi ar y Gofrestr Dedfrydau, Gorchmynion a Dirwyon:

  • os gwnaethoch dalu'r swm yn llawn o fewn mis
  • os yw’n cael ei osod o'r naill du gan y llys (gweler 'Os ydych chi'n anghytuno â Dyfarniad Llys Sirol' uchod)

Fe allwch chi chwilio drwy'r Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon am unrhyw Ddyfarniad Llys Sirol sydd wedi'i gofrestru yn eich erbyn, a chael 'wedi'i fodloni' wedi'i farcio arno os ydych chi wedi talu'r ddyled.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Allweddumynediad llywodraeth y DU