Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adennill dyledion sy'n ddyledus i chi - canllaw

Os yw unigolyn neu gwmni mewn dyled i chi ac ni fyddant yn talu'r arian yn ôl i chi, mae ffyrdd o adennill y ddyled. Bydd y camau a gymerwch yn dibynnu ar faint y ddyled a'ch gallu i brofi bod yr arian yn ddyledus i chi. Mynnwch wybod sut i adennill dyled sy'n ddyledus i chi.

Cysylltu â'r unigolyn neu'r cwmni sydd mewn dyled i chi

Siaradwch â'r unigolyn sydd mewn dyled i chi. Efallai y byddwch yn gallu cytuno'n anffurfiol ar gynllun i'r arian gael ei ad-dalu.

Os na fydd hynny'n gweithio, gallwch ysgrifennu llythyr at yr unigolyn dan sylw. Dylech nodi:

  • faint o arian sy'n ddyledus i chi
  • am beth mae'r arian
  • yr hyn rydych eisoes wedi'i wneid i geisio cael yr arian

Mae'n bwysig nodi gwybodaeth fel:

  • pwy sy'n ymwneud â'r ddyled - eich enw a'ch cyfeiriad chi yn ogystal ag enw a chyfeiriad yr unigolyn sydd mewn dyled i chi
  • copïau o'r holl waith papur sy'n berthnasol i'r ddyled, gyda'r dyddiad perthnasol arnynt
  • dyddiad erbyn pryd rydych yn disgwyl taliad (o leiaf saith diwrnod)
  • cais iddo nodi unrhyw broblem neu anghydfod sydd ganddo gyda'ch datganiad yn ysgrifenedig
  • manylion am y camau y byddwch yn eu cymryd os na chewch eich talu

Dylech osgoi:

  • bod yn rhan o ddadleuon tanbaid neu ohebiaeth hir
  • bygwth camau cyfreithiol nad ydych yn bwriadu eu cyflawni

Defnyddio gwasanaeth cyfryngu er mwyn mynd i'r afael ag anghydfod ynghylch dyled

Os na allwch ddod i gytundeb ar y ddyled, gallwch gael help i ddod i gytundeb drwy ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu.

Mae cyfryngu yn golygu bod rhywun o wasanaeth cyfryngu yn helpu'r ddwy ochr i ddatrys anghydfod. Mae'n gallu bod yn gyflymach ac yn rhatach na mynd i'r llys ac yn gallu peri llai o straen.

Bydd y llys yn disgwyl i chi geisio datrys yr anghydfod drwy drafod neu gyfryngu cyn mynd i'r llys.

Os na fydd cyfryngu'n gweithio, gallwch fynd ag achos i'r llys o hyd.

Defnyddio cyfreithiwr

Os na allwch ddod i gytundeb, gall fod yn ddefnyddiol trafod eich achos â chyfreithiwr sydd â phrofiad ym maes adennill dyledion.

Am ffi, gall ysgrifennu llythyr at yr unigolyn sydd mewn dyled i chi. Gall y llythyr nodi y caiff camau cyfreithiol eu cymryd os na fydd yn talu. Gall llythyr gan gyfreithiwr sicrhau canlyniad yn gyflym.

Gall siarad â chyfreithiwr hefyd helpu i ddiffinio eich achos yn nhermau cyfreithiol a helpu i nodi camau pellach a allai fod ar gael i chi.

Bydd rhai cyfreithiwr yn gweithio am ffi benodedig. Os byddant yn codi tâl fesul awr, ni fydd hyn yn llai na £50 yr awr fel arfer.

Defnyddio asiantaeth adennill dyledion

Mae rhai cwmnïau'n arbenigo ym maes adennill dyledion ac yn cyflogi cyfreithiwr i gymryd camau cyfreithiol i adennill eich dyled. Efallai y byddant yn codi ffi benodedig neu'n cymryd canran o'r arian y byddant yn ei adennill ar eich rhan.

Dylech hefyd gofio efallai na fyddant yn defnyddio staff sydd wedi'u hyfforddi ym maes y gyfraith.

Adennill dyledion drwy'r llysoedd

Os na allwch fynd i'r afael â'r mater mewn unrhyw ffordd arall, efallai y byddwch am wneud hawliad yn y llys. Hwn yw'r dewis olaf fel arfer. Mae'n syniad da ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol yn gyntaf.

Mae'n bwysig cofio'r canlynol:

  • mae'n gallu cymryd misoedd i achos fynd i'r llys
  • nid oes gwarant y byddwch yn ennill yr achos
  • efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau'r ochr arall os byddwch yn colli'r achos
  • os na all yr ochr arall dalu (er enghraifft, mae'n fethdalwr neu'n ddi-waith), bydd yn anodd cael yr arian yn ôl

Os yw'r arian yn ddyledus i chi, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r llys i'w gael, gan na fydd y llys yn gorfodi dyfarniad yn awtomatig.

Gwneud hawliad ar-lein

Gallwch wneud hawliadau am hyd at £100,000 ar-lein. Mae'n rhaid i'r hawliad fod yn erbyn dau unigolyn ar y mwyaf.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Allweddumynediad llywodraeth y DU