Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwneud rhywun yn fethdalwr er mwyn adennill dyled

Os bydd ar rywun o leiaf £750 i chi na all ei ad-dalu, gallech ofyn i'r llys ei wneud yn fethdalwr er mwyn adennill y ddyled. Mae amodau a chostau y byddai’n rhaid i chi eu bodloni yn gyntaf. Yma, cewch wybod sut i wneud rhywun yn fethdalwr, a chewch wybod lle i gael cyngor ynglŷn ag adennill dyledion.

Methdaliad ac adennill dyledion

Gelwir rhywun y mae arnynt arian i chi yn 'ddyledwr'. Byddai ei wneud yn fethdalwr yn golygu y byddai unrhyw asedau (eiddo, cyfranddaliadau ac ati) y mae’n berchen arnynt yn cael eu gwerthu neu eu defnyddio i ad-dalu ei gredydwyr (pobl y mae arno arian iddynt). Fodd bynnag, efallai na chewch chi’r arian sy’n ddyledus i chi i gyd, na hyd yn oed gyfran o’r arian, er enghraifft, os nad oes digon o asedau i’w gwerthu.

I wneud rhywun yn fethdalwr, bydd angen i chi wneud deiseb (cais) i’r llys. Ni fydd pob llys yn delio ag achosion methdaliad, a dylech gael twrnai i siarad ar eich rhan pan fyddwch yn mynd i’r llys.

Ceisio cyngor ynghylch adennill dyled

Dylech geisio cyngor ynghylch gwneud rhywun yn fethdalwr, oherwydd efallai y bydd ffyrdd eraill yn bod o adennill y ddyled, er enghraifft, cytuno ar gynllun ad-dalu misol gyda'r dyledwr.

Gallwch gael cyngor am ddim ynglŷn â’r ffordd orau o adennill dyled gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Gall twrnai neu gynghorydd ariannol eich helpu hefyd, ond mae'n bosib y bydd yn codi ffi arnoch.

Beth mae’n rhaid i chi ei brofi er mwyn gwneud rhywun yn fethdalwr

Er mwyn gwneud rhywun yn fethdalwr, bydd yn rhaid i chi brofi bod arno £750 neu fwy i chi neu i un neu ragor o gredydwyr eraill. Ceir dwy ffordd o brofi hyn.

Opsiwn un: hawliad statudol sydd heb ei gyflawni. Cais ysgrifenedig am daliad yw hwn, sy’n cael ei roi yn ffurfiol i’r dyledwr. Bydd heb ei gyflawni os na fydd y dyledwr wedi talu'r ddyled a restrir yn yr hawliad, neu heb gytuno i 'w thalu.

Opsiwn dau: gweithrediad ar ddyfarniad sydd heb ei gyflawni. Dyma lle bydd y llys yn rhoi caniatâd i chi adennill y dyledion. Bydd heb ei gyflawni os na fyddwch yn gallu adennill y ddyled yn llawn. Er enghraifft, os nad oedd beilïod yn gallu cymryd digon o asedau i dalu’r ddyled.

Ffurflenni methdaliad y bydd angen i chi eu llenwi

Gan ddibynnu ar sut byddwch yn profi’r ddyled, bydd angen i chi lenwi’r ffurflenni canlynol:

  • Deiseb credydwr, ffurflen 6.7 – defnyddiwch y ffurflen hon os ydych chi wedi gwneud hawliad statudol nad yw wedi cael ei dalu
  • Deiseb credydwr, ffurflen 6.9 – defnyddiwch y ffurflen hon os oes gennych chi weithrediad ar ddyfarniad sydd heb ei gyflawni
  • Datganiad gwirionedd deiseb, ffurflen 6.13A – mae’n cadarnhau bod y manylion yn eich deiseb yn wir ac yn gywir
  • Datganiad gwirionedd hawliad statudol, ffurflen 6.11 – mae’n cadarnhau bod hawliad statudol wedi’i anfon

Gallwch gael y ffurflenni oddi ar wefan Y Gwasanaeth Ansolfedd neu eu prynu wrth werthwr papurau cyfreithiol. Am gymorth i lenwi’r ffurflenni, cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Gall twrnai eich helpu hefyd, ond mae'n bosib y bydd yn codi ffi arnoch.

Ffioedd y mae’n rhaid i chi eu talu er mwyn gwneud rhywun yn fethdalwr

Pan gaiff eich deiseb ei ffeilio (ei chyflwyno) yn y llys, bydd yn rhaid i chi dalu’r canlynol:

  • £220 i dalu costau’r llys
  • £700 i dalu costau gweinyddu’r methdaliad, a elwir yn ‘blaendal deiseb’

Mae’n bosib y cewch y blaendal deiseb yn ôl os codir digon o arian drwy werthu asedau’r dyledwr.

Dylech gael twrnai ar gyfer yr adeg y bydd eich achos yn mynd i'r llys. Gall eich twrnai eich cynghori ynghylch ei ffioedd. Gall hefyd eich cynghori ynghylch yr hyn y mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi ei dalu os byddwch yn colli’ch achos, er enghraifft, costau cyfreithiol y dyledwr.

Dod o hyd i’ch llys methdaliad agosaf

Bydd angen i chi ffeilio (cyflwyno) eich ffurflenni methdaliad yn y llys. Ni fydd pob llys yn delio ag achosion methdaliad. Bydd eich twrnai neu’ch llys sirol yn gallu’ch cynghori ynghylch pa lys methdaliad y bydd angen i chi'i ddefnyddio.

Sut mae gwneud rhywun yn fethdalwr

Dylech gael rhywun proffesiynol i’ch helpu gyda’r pum cam a ganlyn. Gallwch gael y ffurflenni y bydd arnoch eu hangen gan unrhyw lyfrfa gyfreithiol, neu gallwch siarad â chynghorydd cyfreithiol.

Cam un: mae’n rhaid ‘cyflwyno’ copi o’ch deiseb i’r dyledwr. Mae hon yn ffordd ffurfiol o dynnu sylw’r dyledwr at y ddeiseb. Bydd eich twrnai neu'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gallu'ch cynghori ynglŷn â sut i gyflwyno deiseb.

Cam dau: bydd angen i chi gadarnhau bod gan y dyledwr gopi o’r ddeiseb drwy lenwi un o’r ffurflenni canlynol:

  • Datganiad gwirionedd, ffurflen 6.17A – cyflwyno deiseb i ddyledwr
  • Datganiad gwirionedd, ffurflen 6.18A – anfon (yn hytrach na 'chyflwyno') deiseb at ddyledwr – er enghraifft, os rhoddodd y llys ganiatâd i chi ei hanfon at y dyledwr drwy ddull arall

Cam tri: bydd y llys yn pennu dyddiad ar gyfer gwrando eich achos o leiaf 14 diwrnod ar ôl i chi gyflwyno’r ddeiseb. Bydd gan y dyledwr hyd at bum niwrnod gwaith cyn dyddiad y gwrandawiad i wrthwynebu’r ddeiseb. Dylech geisio cyngor cyfreithiol os gwrthwynebir eich deiseb gan y dyledwr.

Cam pedwar: paratowch restr o gredydwyr sydd ag arian yn ddyledus iddynt gan y dyledwr, oherwydd y mae’n bosib y bydd yn rhaid iddynt ymddangos gerbron y llys. Dylech ddefnyddio ffurflen 6.21 i restru’r bobl hyn.

Cam pump: yn eich gwrandawiad, gall y llys wneud y canlynol:

  • gwneud gorchymyn methdaliad, sy’n golygu y bydd y dyledwr bellach yn fethdalwr
  • oedi neu atal yr achos – er enghraifft, gofyn am ragor o wybodaeth
  • gwrthod eich deiseb
  • gohirio’r gwrandawiad

Beth sy’n digwydd ar ôl i unigolyn gael ei wneud yn fethdalwr

Bydd ymddiriedolwr yn cael ei benodi i gasglu a gwerthu asedau’r dyledwr, ac i wneud unrhyw daliadau i’w gredydwyr. Dylech gael cyngor ynghylch a gewch chi arian, ac os cewch, pryd fydd yn cael ei ad-dalu.

Bydd methdaliad fel arfer yn para am 12 mis, ac yn yr amser hwnnw, bydd yn rhaid i'r sawl sy'n fethdalwr ddilyn cyfres o reolau o'r enw'r cyfyngiadau methdaliad. Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn ymchwilio i faterion y sawl sy’n fethdalwr er mwyn penderfynu a ddylai’r cyfyngiadau hyn barhau ar ôl ei gyfnod o fod yn fethdalwr.

Os na wneir gorchymyn methdaliad

Dylech geisio cyngor cyfreithiol os bydd yr unigolyn yr oeddech yn ceisio’i wneud yn fethdalwr, neu rywun arall, yn gwneud y canlynol:

  • gwneud hawliad i’r llys er mwyn tynnu’r gorchymyn methdaliad yn ôl
  • gwneud hawliad i’r llys er mwyn canslo’r gorchymyn methdaliad
  • apelio yn erbyn y gorchymyn methdaliad

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Allweddumynediad llywodraeth y DU