Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Defnyddio archeb statudol er mwyn adennill dyled

Mae archebion statudol yn geisiadau ysgrifenedig am i ddyled sy'n ddyledus gan unigolyn neu fusnes gael ei thalu. Mynnwch wybod am y rheolau a'r ffurflenni sydd eu hangen i anfon archeb statudol, beth i'w wneud os ydych yn cael un a ble i gael help.

Beth yw archeb statudol?

Os oes gan rywun arian yn ddyledus i chi nad ydynt am ei ad-dalu, mae archeb statudol yn un ffordd o geisio adennill y ddyled honno. Mae archeb statudol yn gais ysgrifenedig i ddyledwr (unigolyn neu fusnes sydd ag arian yn ddyledus i chi) i dalu dyled. Mae'n dweud pethau fel y canlynol wrth y dyledwr:

  • faint sy'n rhaid ei dalu
  • pryd y mae'n rhaid talu - er enghraifft, ar unwaith neu erbyn dyddiad penodol
  • beth fydd yn digwydd os anwybyddir yr archeb - er enghraifft, achos llys i adennill y ddyled
  • manylion pwy y gallant gysylltu â nhw ynghylch yr archeb
  • ei hawl i herio'r archeb (anghytuno â hi)

Beth i'w wneud os byddwch yn cael archeb statudol

Os byddwch yn cael archeb statudol bydd gennych:

  • 21 diwrnod (neu 28 os ydych yn byw dramor) i 'fodloni' yr archeb
  • 18 diwrnod (neu 22 os ydych yn byw dramor) i 'neilltuo' yr archeb - ei herio mewn llys er mwyn ei chanslo

Caiff archeb ei bodloni os caiff y ddyled ei 'setlo' (ei thalu'n llawn) neu ei 'diogelu' (gwneir cytundeb ar gyfer ei thalu, er enghraifft, mewn rhandaliadau). Er mwyn neilltuo archeb - gweler yr adran 'Sut i herio archeb statudol'.

Ni ddylech anwybyddu archeb statudol. Os na chaiff ei bodloni neu ei herio, gall y credydwr (yr unigolyn y mae'r arian yn ddyledus iddo) wneud cais i'r llys gyhoeddi gorchymyn methdalu neu orchymyn dirwyn i ben yn eich erbyn. Mae gorchmynion methdalu ar gyfer unigolion ac unig fasnachwyr a gorchmynion 'dirwyn i ben' yw'r gorchmynion cyfatebol ar gyfer cwmnïau.

Os ydych yn berchen ar fusnes sydd wedi cael archeb statudol gallwch gael mwy o wybodaeth am beth y dylech ei wneud ar wefan Businesslink.

Cael cyngor proffesiynol

Dylech gael cyngor proffesiynol am archebion statudol a phryd maent yn addas ar gyfer adennill dyled. Efallai na fyddant yn addas os yw'r ddyled wedi bodoli am fwy na chwe blynedd neu os oes gennych orchymyn gan y llys i dalu'r ddyled.

Ffurflenni ar gyfer anfon archeb statudol

Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflenni penodol ar gyfer archeb statudol a'u hanfon at y dyledwr mewn ffordd benodol

Ar gyfer unigolyn neu unig fasnachwr, defnyddiwch un o'r tair ffurflen archeb statudol hyn:

  • ffurflen 6.1 - ar gyfer swm penodol sy'n daladwy nawr
  • ffurflen 6.2 - ar gyfer swm penodol sy'n daladwy nawr yn dilyn dyfarniad neu orchymyn llys
  • ffurflen 6.3 - dyledion sy'n daladwy yn y dyfodol

Ar gyfer cwmni cofrestredig neu anghofrestredig, bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen archeb statudol 4.1.

Gallwch gael ffurflenni 6.1 a 4.1 ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd. Gallwch brynu'r ffurflenni eraill oddi wrth unrhyw werthwr deunydd cyfreithiol neu holi cynghorydd cyfreithiol.

Gallwch gael help i lenwi'r ffurflenni gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Gall cyfreithiwr eich helpu, ond efallai y bydd yn codi ffi.

Sut i anfon archeb statudol

Rhaid i chi wneud popeth a allwch i dynnu sylw'r dyledwr at yr archeb statudol, sef eich bod yn 'cyflwyno' yr archeb statudol.

Gallwch gael cyngor ar sut i gyflwyno archeb statudol gan gyfreithiwr neu asiantaeth gynghori fel eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Tystiolaeth bod archeb statudol wedi'i chyflwyno

Dylech gadw tystiolaeth bod archeb statudol wedi'i chyflwyno. Bydd ei hangen os byddwch yn cymryd camau pellach i adennill y ddyled.

Sut i herio archeb statudol

Os na fyddwch yn cytuno ag archeb statudol, gallwch wneud cais i'r llys ei neilltuo (canslo). Nodir y camau sylfaenol isod. Mae'r camau ar gyfer cwmni cyfyngedig yn wahanol. Dylech gael cyngor cyfreithiol ar sut i neilltuo archeb statudol.

Rhaid i chi wneud cais i'r llys er mwyn neilltuo archeb statudol, fel arfer o fewn 18 diwrnod i'w chael neu iddi gael ei hysbysebu mewn papur newydd. Os ydych dramor, bydd gennych 22 diwrnod.

Cam un: llenwch ffurflen 6.4 (cais i neilltuo archeb statudol) a ffurflen 6.5 (neilltuo datganiad o wirionedd). Mae datganiad o wirionedd yn cadarnhau bod eich cais yn wir ac yn gywir.

Cam dau: mae angen cyflwyno'r ffurflenni mewn llys. Gall eich cyfreithiwr neu eich llys sirol lleol nodi pa un i'w defnyddio.

Cam tri: bydd y llys yn ystyried eich cais a naill ai'n ei wrthod ar unwaith neu'n trefnu dyddiad ar gyfer gwrando eich achos. Os caiff ei dderbyn, bydd yr amser a nodir yn yr archeb ar gyfer bodloni'r ddyled yn cael ei atal.

Cam pedwar: yn y gwrandawiad gall y llys gytuno i neilltuo'r archeb statudol neu wrthod eich achos. Os caiff ei wrthod, gall eich credydwr wneud cais i'r llys i'ch gwneud yn fethdalwr a bydd yr amser a nodir yn yr archeb i chi fodloni'r ddyled yn ailddechrau.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Allweddumynediad llywodraeth y DU