Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan gewch eich gwneud yn fethdalwr, gellir defnyddio eich asedau (meddiannau, cartref, incwm ac ati) i dalu eich dyledion. Bydd yn rhaid i chi gytuno i gyfyngiadau penodol, a bydd rhywun yn ymchwilio i’ch materion ariannol. Yma, cewch wybod sut bydd methdaliad yn effeithio arnoch chi, a lle gallwch gael cyngor ynglŷn â mynd i'r afael â'ch dyledion.
Mae methdaliad yn un ffordd o fynd i'r afael â dyledion na allwch eu talu. Gellir defnyddio eich asedau i dalu'ch credydwyr (pobl y mae arnoch chi arian iddynt). Bydd yn rhaid i chi ufuddhau i gyfyngiadau penodol a chewch eich rhyddhau o’ch dyledion ar ôl cyfnod o amser.
Mae’n bosib bod ffyrdd eraill o fynd i’r afael â’ch dyledion. Ewch i gael cyngor annibynnol, rhad ac am ddim, ynglŷn â dyledion, i sicrhau eich bod yn deall sut gall bod yn fethdalwr effeithio ar eich cartref, eich busnes a'ch statws credyd ac i weld a oes ffyrdd eraill ar gael o fynd i'r afael â'ch problem ddyled.
Gall unrhyw un wneud cais i’r llys i fod yn fethdalwr, gan gynnwys unigolion, masnachwyr unigol ac aelodau o bartneriaeth. Ceir gweithdrefnau gwahanol ar gyfer cwmnïau a phartneriaethau.
Dim ond y llys all eich gwneud yn fethdalwr, ac nid yw pob llys yn delio ag achosion methdaliad. Gallwch wneud eich hun yn fethdalwr drwy ddeisebu’r llys (gwneud cais i’r llys). Fel arfer, gall eich credydwyr ddeisebu’r llys os oes arnoch o leiaf £750 iddynt. Byddwch yn fethdalwr pan fydd y llys yn gwneud gorchymyn methdalu yn eich erbyn.
Mae ffioedd a gweithdrefnau y bydd yn rhaid i chi eu dilyn – mae’r rhain yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd yn rhaid i chi roi unrhyw asedau o werth a’r budd ariannol yn eich cartref i unigolyn a gaiff ei benodi i reoli eich methdaliad, a elwir yn ‘ymddiriedolwr’.
Bydd eich ymddiriedolwr un ai’n Dderbynnydd Swyddogol (un o swyddogion y llys methdaliad) neu'n ymarferydd ansolfedd (arbenigwr dyledion wedi'i awdurdodi).
Mae’n cymryd amser i benodi ymddiriedolwr, felly’r Derbynnydd Swyddogol fydd yn rheoli eich methdaliad i ddechrau. Bydd yn casglu gwybodaeth am eich arian ac yn gwarchod eich asedau ar gyfer eich credydwyr.
Os oes gennych chi asedau sylweddol, mae’n debyg y bydd y Derbynnydd Swyddogol yn gofyn i'ch credydwyr benodi ymarferydd ansolfedd fel ymddiriedolwr. Os nad oes gennych chi asedau sylweddol, bydd y Derbynnydd Swyddogol yn chwarae rôl yr ymddiriedolwr.
Pan gewch eich gwneud yn fethdalwr, mae cyfyngiadau penodol y bydd yn rhaid i chi gytuno iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
Ceir rhai eithriadau i’r rheol hon. Bydd yn rhaid i chi barhau i dalu unrhyw ddyledion nad ydynt wedi’u rhestru yn eich gorchymyn methdalu. Bydd y rhain fel arfer yn cynnwys pethau megis dirwyon y llys a benthyciadau myfyrwyr.
Bydd methdaliad fel arfer yn golygu cau unrhyw fusnes y byddwch yn ei redeg a diswyddo eich cyflogeion. Gall effeithio ar eich sefyllfa waith os nad yw bod yn fethdalwr yn cael ei ganiatáu yn eich contract cyflogaeth. Er enghraifft, ni allwch gael swydd fel twrnai, ymddiriedolwr elusen na swydd sy’n cael ei rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Bydd yn rhaid i chi gael gwared ar unrhyw asedau o werth, ac efallai y byddwch yn colli’r budd ariannol yn eich cartref. Gellir defnyddio unrhyw incwm sbâr sydd gennych i'ch helpu i dalu’ch dyledion methdaliad.
Bydd yn effeithio ar eich gallu i gael credyd (er enghraifft, morgais) oherwydd bydd asiantaethau gwirio credyd yn cadw cofnod o’ch methdaliad am chwe blynedd. Bydd eich banc yn rhewi unrhyw gyfrifon sydd gennych, ac efallai na fydd yn caniatáu i chi agor rhai newydd.
Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn hysbysebu eich methdaliad mewn cofnodion swyddogol megis y 'London Gazette' a'r Gofrestr Ansolfedd Unigolion. Bydd asiantaethau gwirio credyd yn defnyddio’r cofnodion hyn i ddiweddaru eich ffeil credyd. Mae’r ‘London Gazette’ yn gyhoeddiad o hysbysiadau cyfreithiol, ac mae’r Gofrestr Ansolfedd Unigolion yn gronfa ddata ar-lein o ansolfeddau yng Nghymru a Lloegr.
Bydd sefydliadau megis eich banc, eich landlord a’ch morgais, eich darparwr yswiriant neu bensiwn yn cael gwybod eich bod yn fethdalwr.
Bydd eich credydwyr yn cael gwybod eich bod yn fethdalwr, a bydd yn rhaid iddynt wneud ceisiadau ffurfiol i’ch ymddiriedolwr i gael yr arian sy’n ddyledus iddynt. Ni chewch chi wneud taliadau yn uniongyrchol iddynt, ac ni chânt ofyn i chi am daliad.
Bydd eich ymddiriedolwr yn rheoli’r taliadau i’ch credydwyr drwy werthu neu gael gwared â’ch asedau. Mewn rhai achosion, gellir defnyddio eich incwm sbâr i’ch helpu i dalu’ch dyledion. Gall y trefniant hwn bara am dair blynedd a chaiff ei alw un ai’n Orchymyn Taliadau Incwm neu’n Gytundeb Taliadau Incwm.
Pan gewch eich gwneud yn fethdalwr, bydd yn rhaid i chi gael cyfweliad a darparu manylion ynglŷn â’ch dyledion, eich asedau a’ch sefyllfa ariannol. Bydd hyn yn helpu’r Derbynnydd Swyddogol i warchod eich asedau er budd eich credydwyr, a phenderfynu a oes angen ymddiriedolwr i reoli eich methdaliad.
Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn ymchwilio i achos(ion) eich methdaliad. Bydd adroddiad yn cael ei anfon at eich credydwyr, a gellir ymestyn cyfyngiadau’r methdaliad os canfyddir tystiolaeth o ymddygiad troseddol, anonest neu ddiofal.
Fel arfer, byddwch yn fethdalwr am 12 mis, ac ar ôl y cyfnod hwn, cewch eich rhyddhau o’ch dyledion methdaliad. Gall fod yn gynharach os bydd y Derbynnydd Swyddogol yn cwblhau ei waith ar eich methdaliad ac os na fydd eich credydwyr yn gwrthwynebu.
Gellir gohirio’r rhyddhau os byddwch yn torri cyfyngiadau’r methdaliad neu os na fyddwch yn cydweithredu gyda’r Derbynnydd Swyddogol.
Hyd yn oed ar ôl i chi gael eich rhyddhau:
Gelwir yr estyniad hwn un ai’n Orchymyn Cyfyngiadau Methdaliad neu’n Ymgymeriad Cyfyngiadau Methdaliad.