Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Methdaliad – eich cyfrifoldebau a’r cyfyngiadau

Os ydych chi wedi cael eich gwneud yn fethdalwr, bydd gennych chi gyfrifoldebau penodol tuag at reoli eich arian, eich cyflogaeth a'ch busnes. Gelwir y cyfrifoldebau hyn yn gyfyngiadau’r methdaliad. Yma, cewch wybod beth ydynt ac am ba hir y byddant yn para.

Beth yw cyfyngiadau’r methdaliad?

Pan fydd llys yn eich gwneud yn fethdalwr, bydd yn rhaid i chi ddilyn cyfres o reolau a elwir yn ‘gyfyngiadau’r methdaliad’. Ni fydd y rhain yn eich caniatáu i wneud y canlynol:

  • benthyg mwy na £500 heb ddweud wrth y benthyciwr eich bod yn fethdalwr
  • cyfarwyddo cwmni
  • creu, rheoli na hyrwyddo cwmni heb ganiatâd y llys
  • rheoli busnes heb ddweud wrth y rhai y byddwch yn gwneud busnes â nhw eich bod yn fethdalwr
  • gweithio fel ymarferydd ansolfedd (arbenigwr dyledion wedi’i awdurdodi)

Mae’n drosedd torri unrhyw un o gyfyngiadau’r methdaliad. Dylech gysylltu â’ch canolfan Cyngor Ar Bopeth leol neu’r Llinell Ddyled Genedlaethol i gael cymorth a chyngor am ddim ynglŷn â sut gall cyfyngiadau’r methdaliad effeithio arnoch chi.

Gallwch roi gwybodaeth am bobl sy’n torri cyfyngiadau’r methdaliad i’r Gwasanaeth Ansolfedd. Gallwch ffonio rhif gorfodi'r Gwasanaeth Ansolfedd (0845 601 3546) neu ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Pryd fydd cyfyngiadau eich methdaliad yn dod i ben?

Bydd methdaliad fel arfer yn para am 12 mis ar ôl y dyddiad y bydd y llys yn eich gwneud yn fethdalwr. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd eich methdaliad, a chyfyngiadau’r methdaliad, fel arfer yn dod i ben. Fodd bynnag, gall y cyfyngiadau barhau am hyd at 2 i 15 mlynedd ar ôl i’ch methdaliad ddod i ben os mai ymddygiad diofal, troseddol neu anonest oedd prif achosion eich methdaliad.

Adrodd am achosion eich methdaliad

Ar ôl i chi gael eich gwneud yn fethdalwr, bydd y Derbynnydd Swyddogol (swyddog methdaliad y llys) yn ysgrifennu adroddiad ar achosion eich methdaliad. Bydd yr adroddiad yn helpu’r Derbynnydd Swyddogol i adnabod ymddygiad diofal neu anonest. Dyma rai enghreifftiau o hynny:

  • bod yn fethdalwr am yr eildro mewn chwe blynedd
  • gwerthu eich asedau am lai na’u gwerth go iawn – er enghraifft, eich cartref neu’ch car
  • rhoi gwybodaeth ffug i gael credyd – er enghraifft, ar ffurflen gais am fenthyciad
  • cymryd dyledion yr oeddech yn gwybod na fyddech yn gallu eu had-dalu – er enghraifft, dyledion cardiau credyd
  • parhau â busnes pan oeddech chi’n gwybod na fyddech yn gallu ad-dalu dyledion eich busnes

I helpu Derbynnydd Swyddogol i ysgrifennu ei adroddiad, bydd gofyn i chi ddarparu copïau o’r canlynol:

  • datganiadau banc
  • llythyrau i’ch credydwyr a gan eich credydwyr (pobl y mae arnoch chi arian iddynt)
  • ffurflenni cais ariannol – er enghraifft, ar gyfer gorddrafftiau, benthyciadau neu gardiau credyd

Mae’n rhaid i chi gydweithredu â’r Derbynnydd Swyddogol a darparu’r wybodaeth y mae’n gofyn amdani. Gall peidio â darparu’r wybodaeth arwain at gamau pellach yn cael eu cymryd gan y llys.

Sut gall cyfyngiadau’r methdaliad gael eu hymestyn

Bydd cyfyngiadau’r methdaliad yn parhau ar ôl i’ch methdaliad ddod i ben os yw’r llys yn cytuno â chanfyddiadau adroddiad y Derbynnydd Swyddogol. Mae’n rhaid i’r Derbynnydd Swyddogol anfon yr adroddiad hwn i’r llys cyn pen 12 mis ar ôl i chi gael eich gwneud yn fethdalwr. Ar ôl y cyfnod hwn, ni fydd y llys yn derbyn ei gais.

Mae tri cham i’r broses.

Cam un: bydd y Derbynnydd Swyddogol yn anfon copi o’i adroddiad atoch. Bydd gennych chi 14 diwrnod i gadarnhau eich bod wedi’i gael. Gallwch wneud hyn drwy ysgrifennu at y llys a wnaeth ddelio â’ch methdaliad, neu drwy fynd yno’n bersonol.

Cam dau: bydd y Derbynnydd Swyddogol yn gofyn i chi gytuno i barhau â chyfyngiadau’r methdaliad ar ôl i’ch methdaliad ddod i ben.

Os byddwch yn cytuno, ni fydd yn rhaid i chi fynd i’r llys, ac mae'n bosib y bydd y cyfnod y bydd cyfyngiadau eich methdaliad yn parhau yn cael ei leihau. Gelwir y math hwn o gytundeb yn Ymgymeriad Cyfyngiadau Methdaliad.

Os na fyddwch yn cytuno, bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys. Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn gofyn i’r llys roi gorchymyn i barhau â’r cyfyngiadau. Gelwir y gorchymyn hwn yn Orchymyn Cyfyngiadau Methdaliad. Dylech gael cyngor cyfreithiol annibynnol os byddwch yn mynd i’r llys.

Cam tri: gall y llys wneud y canlynol:

  • cytuno i Ymgymeriad Cyfyngiadau Methdaliad
  • rhoi Gorchymyn Cyfyngiadau Methdaliad
  • gwrthod cais y Derbynnydd Swyddogol am Orchymyn Cyfyngiadau Methdaliad
  • gohirio’r achos a gofyn am ragor o wybodaeth

Bydd y llys yn penderfynu am ba hyd y bydd y cyfyngiadau yn parhau, a chewch gadarnhad ysgrifenedig o hyn gan y Derbynnydd Swyddogol.

Cyhoeddi manylion cyfyngiadau eich methdaliad

Bydd manylion eich Ymgymeriad Cyfyngiadau Methdaliad neu’ch Gorchymyn Cyfyngiadau Methdaliad ar gael i'r cyhoedd. Bydd eich enw, eich cyfeiriad, ac am ba hyd y bydd cyfyngiadau’r methdaliad yn para yn cael eu cyhoeddi yn y canlynol y Gofrestr Ansolfedd Unigolion – cronfa ddata ar-lein o fethdalwyr yng Nghymru a Lloegr.

Additional links

Cyngor methdaliad

Cael cyngor ar fethdaliad a’r ffordd orau o ddelio â’ch dyledion

Allweddumynediad llywodraeth y DU