Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os cewch eich gwneud yn fethdalwr, bydd yn rhaid i chi drosglwyddo’ch asedau (eiddo, cyfranddaliadau ayb). Bydd y rhain yn cael eu gwerthu neu'n cael eu gwaredu er mwyn helpu i dalu eich dyledion methdaliad. Yn y fan hon cewch wybod pa asedau yr effeithir arnynt a beth all ddigwydd i’ch cartref, eich incwm, eich pensiwn a'ch cyfrif banc.
Pan fyddwch yn cael eich gwneud yn fethdalwr, mae’n rhaid i chi drosglwyddo unrhyw asedau gwerthfawr i berson a benodir i reoli’ch methdaliad. Gelwir y person hwn yn 'ymddiriedolwr', ac mae fel arfer:
Pan fyddwch yn cael eich gwneud yn fethdalwr, dylech ddarparu manylion am eich asedau, eich dyledion a’ch materion ariannol i'r Derbynnydd Swyddogol. Defnyddir yr wybodaeth hon gan eich ymddiriedolwr er mwyn helpu i benderfynu beth yw’r ffordd orau i dalu eich dyledion methdaliad.
Mae’n rhaid i chi gydweithredu a darparu gwybodaeth am eich holl asedau a’ch dyledion. Fel arfer, gallwch gadw’r eitemau canlynol, oni bai fod eu gwerth unigol yn fwy na'r gost a fyddai'n rhesymol i gael un arall yn eu lle:
Efallai y bydd eich ymddiriedolwr yn gwneud cais i’r llys am orchymyn a fydd yn adfer eiddo iddyn nhw os gwaredoch chi’r eiddo hwnnw mewn ffordd oedd yn annheg i’ch credydwyr. Er enghraifft, os trosglwyddoch eiddo i aelod o’r teulu am lai o arian na’i werth. Gallant hefyd hawlio unrhyw eiddo yr ydych yn ei etifeddu neu'n ei gael pan fyddwch yn fethdalwr.
Canfyddwch sut gall eich ymddiriedolwr ddefnyddio eich cartref i helpu i dalu eich methdaliad ac os gallwch ei atal rhag cael ei werthu.
Fel rheol, ni all eich ymddiriedolwr hawlio eich pensiwn os yw eich deiseb (cais) methdaliad yn ddyddiedig ar neu ar ôl 29 Mai 2000 ac wedi ei gymeradwyo gan Gyllid a Thollau EM. Canfyddwch pryd gellir hawlio eich pensiwn a pha rannau ohono nad yw'r methdaliad yn effeithio arnynt.
Os oes gennych incwm sy’n fwy na'r hyn y mae arnoch chi neu'ch teulu ei angen i fyw arno, mae'n bosib y gofynnir i chi gyfrannu ychydig ohono er mwyn talu'ch dyledion methdaliad. Canfyddwch sut a phryd y gall eich ymddiriedolwr gymryd taliadau o’ch incwm gan ddefnyddio Gorchmynion Taliadau Incwm a Chytundebau Taliadau Incwm.
Pan gewch eich gwneud yn fethdalwr, caiff eich cyfrifon banc a’ch cyfrifon cymdeithas adeiladu eu rhewi, a dylech drosglwyddo unrhyw gardiau a llyfrau siec i’r Derbynnydd Swyddogol. Cewch wybod yma beth sy’n digwydd i'ch cyfrifon ac i unrhyw arian sydd ynddynt.
Os ydych yn hunangyflogedig, caiff eich busnes ei gau a chaiff eich gweithwyr eu diswyddo fel rheol pan gewch eich gwneud yn fethdalwr. Caiff unrhyw asedau sy’n eiddo i’r busnes eu hawlio gan yr ymddiriedolwr oni bai eu bod wedi eu heithrio.
Bydd yn rhaid i chi roi eich cyfrifon i’r Derbynnydd Swyddogol, ond rydych yn parhau i fod yn gyfrifol am gwblhau eich ffurflenni treth a TAW (Treth Ar Werth).
Gall eich gweithwyr wneud cais i’r Gronfa Yswiriant Gwladol am unrhyw hawliadau nas talwyd fel cyflogau a thâl gwyliau. Gall gweithwyr hefyd anfon cais at eich ymddiriedolwr am unrhyw arian sydd heb ei dalu gan y Gronfa Yswiriant Gwladol.
Nid oes dim yn eich rhwystro rhag bod yn hunangyflogedig, felly gallwch gychwyn masnachu eto. Er hyn, mae’n rhaid i chi ddilyn cyfyngiadau’r methdaliad, sy’n cynnwys y canlynol:
Bydd angen i chi gofrestru eto am TAW os ydych yn bodloni'r gofynion cofrestru – ni ddylech barhau i ddefnyddio’r rhif cofrestru TAW a oedd gennych cyn eich methdaliad.