Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyfeiriadur y Derbynwyr Swyddogol

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ddod o hyd i fanylion eich Derbynnydd Swyddogol agosaf yng Nghymru a Lloegr. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth berthnasol am gyfarwyddwr rhanbarth swyddog, ac am y llysoedd y mae’n gweithio â nhw.

Gwybodaeth am y Derbynnydd Swyddogol

Mae Derbynwyr Swyddogol yn weision sifil i’r Gwasanaeth Ansolfedd, ac maent yn swyddogion i’r llys. Maent yn gyfrifol am weinyddu cam cyntaf eich ansolfedd, o leiaf. Rydych yn mynd yn fethdalwr pan na allwch chi dalu’ch dyledion mwyach. Mae gweithdrefnau ansolfedd yn sicrhau bod eich credydwyr (y bobl y mae arian yn ddyledus iddynt gennych chi) yn cael rhywfaint o'u harian yn ôl, neu eu harian i gyd yn ôl, drwy werthu eich asedau (eiddo, cyfranddaliadau ac ati).

Mae gweithdrefnau ansolfedd lle y mae’r Derbynnydd Swyddogol yn rhan ohonynt yn cynnwys:

  • methdaliad
  • gorchmynion rhyddhad dyledion – dewis arall yn hytrach na methdaliad
  • trefniadau gwirfoddol llwybr carlam – dewis arall yn hytrach na methdaliad
  • diddymu cwmni yn orfodol – rheoli materion cwmni sy’n cael ei ddiddymu, a rheoli gwerthu ei asedau

Sut mae defnyddio’r gwasanaeth hwn

Ceir tair ffordd o chwilio am Dderbynnydd Swyddogol, sef:

  • dewis lleoliad swyddfa Derbynnydd Swyddogol – er enghraifft, Caerdydd
  • dewis enw llys – bydd y cyfeiriadur yn dangos i chi’r Derbynnydd Swyddogol sy’n gweithio â’r llys hwnnw
  • rhoi cyfenw Derbynnydd Swyddogol i mewn

Peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth hwn os...

Mae Derbynwyr Swyddogol yn cael eu penodi gan y llys i ddelio ag achosion unigol o ansolfedd yng Nghymru a Lloegr.

Os oes arnoch eisiau cyngor personol ynglŷn â’ch problem dyled, gallwch gael cymorth di-dâl ac annibynnol gan fudiadau megis Cyngor ar Bopeth neu'r Llinell Ddyled Genedlaethol.

Os oes arnoch angen gwybodaeth gyffredinol ynghylch deddfwriaeth ansolfedd a gweithdrefnau ansolfedd (megis methdaliad) dylech gysylltu â’r Llinell Ymholiadau Ansolfedd. Ffoniwch 0845 602 9848, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00 am a 5.00 pm. Ar gyfer yr Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch â'r Cyfrifydd mewn Methdaliad (yr Alban) neu â Gwasanaeth Ansolfedd Gogledd Iwerddon.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU