Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Hawlio arian oddi wrth fethdalwr neu gwmni sy'n cael ei ddiddymu

Os oes arian yn ddyledus i chi gan fethdalwr neu gwmni sy'n cael ei ddiddymu, mae'n rhaid i chi wneud hawliad ffurfiol i adennill yr arian. Telir hawliadau drwy werthu neu waredu asedau. Mynnwch wybod sut y caiff hawliadau eu gwneud ac ym mha drefn y cânt eu talu.

Pwy sy'n rheoli eich hawliad?

Mae methdaliad/diddymiad yn fodd i gredydwyr (pobl y mae arian yn ddyledus iddynt) gael eu talu drwy werthu asedau unigolyn neu gwmni (eiddo, cyfranddaliadau ac ati). Nid oes sicrwydd y caiff credydwyr eu talu nac y cânt yr holl arian sy'n ddyledus iddynt.

Penodir 'ymddiriedolwr' neu 'ddiddymwr' i reoli'r broses o werthu neu waredu asedau a gwneud taliadau i'r credydwyr. Mae ymddiriedolwyr yn ymdrin ag unig fasnachwyr ac unigolion a wnaed yn fethdalwyr ac mae diddymwyr yn ymdrin â chwmnïau sydd wedi dirwyn i ben.

Gall y Derbynnydd Swyddogol neu ymarferydd ansolfedd weithredu fel yr ymddiriedolwr/diddymwr. Un o swyddogion y llys methdaliad yw'r Derbynnydd Swyddogol, ac arbenigwr awdurdodedig ym maes dyledion yw ymarferydd ansolfedd.

Canfod pwy sy'n delio â'ch hawliad

Er mwyn canfod pwy sy'n delio â'ch hawliad, chwiliwch drwy gofnodion cyhoeddus fel y Gofrestr Unigolion Ansolfent, cofnodion Tŷ'r Cwmnïau neu'r 'London Gazette'.

Os gwnaethoch dalu drwy gerdyn credyd neu ddebyd, efallai y bydd gennych hawliau ychwanegol i gael ad-daliad. Cysylltwch â darparwr eich cerdyn ynglŷn â gwneud hawliad.

Cofrestru fel credydwr

O fewn 12 wythnos i'r methdaliad/diddymiad gael ei ddatgan gan y llys, bydd y Derbynnydd Swyddogol yn cysylltu â phob credydwr hysbys. Bydd naill ai'n cadarnhau y bydd yn gweithredu fel yr ymddiriedolwr/diddymwr neu'n trefnu cyfarfod i benodi un.

Ysgrifennwch at y Derbynnydd Swyddogol os nad yw wedi cysylltu â chi. Dylech wneud hyn cyn i benderfyniad gael ei wneud ynglŷn â'r ffordd y caiff y dyledion eu talu neu efallai y byddwch yn colli'r hawl i wneud hawliad.

Penodi'r ymddiriedolwr

Os mai prin yw'r asedau, bydd y Derbynnydd Swyddogol fel arfer yn gweithredu fel ymddiriedolwr/diddymwr. Os oes asedau sylweddol, bydd y credydwyr yn pleidleisio i benodi ymddiriedolwr/ diddymwr, sef ymarferydd ansolfedd fel arfer.

Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn cadarnhau yn ysgrifenedig a yw'n gweithredu fel yr ymddiriedolwr/diddymwr neu a fydd angen i gredydwyr benodi un mewn cyfarfod.

Gall credydwyr orfodi'r Derbynnydd Swyddogol i gynnal cyfarfod i benodi ymarferydd ansolfedd os bydd 25 y cant o'r credydwyr daliannol o blaid hynny.

Sut i wneud hawliad?

I wneud hawliad dylech gwblhau ffurflen prawf o ddyled. Os yw’r derbynnydd swyddogol yn cynnal cyfarfod gyda’r credydwyr i benodi ymarferydd ansolfedd dylid anfon ffurflen atoch yn awtomatig i’w chwblhau a’i dychwelyd erbyn dyddiad penodol. Os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen prawf o ddyled erbyn y dyddiad penodol bydd eich hawliad yn dal i gael ei dderbyn ond ni fyddwch chi’n gallu pleidleisio i benodi Ymarferydd Ansolfedd.

Os na cynhelir cyfarfod gyda chredydwyr neu os na fyddwch chi’n cael ffurflen prawf o ddyled gallwch gael un drwy:

  • ffonio neu ysgrifennu at yr ymddiriedolwr neu’r diddymwr a gofyn iddynt anfon ffurflen atoch
  • lawrlwytho’r ffurflen (ffurflen 6.37) oddi ar wefan Y Gwasanaeth Ansolfedd a’i hanfon at yr ymddiriedolwr neu’r diddymwr

Y drefn ar gyfer talu dyledion

Mae trefn flaenoriaeth gaeth ar gyfer talu unrhyw arian, sef:

  1. credydwyr sicredig – maent yn dal arwystl sefydlog neu warant ar ased
  2. ffioedd a thaliadau sy'n gysylltiedig â chostau achos ansolfedd
  3. credydwyr ffafriol - er enghraifft, cyflogau staff neu gyfraniadau sy'n ddyledus i gynllun pensiwn galwedigaethol
  4. credydwyr ansicredig
  5. llog sy'n daladwy ar unrhyw ddyledion

Faint a gaiff ei dalu i chi?

Gall yr ymddiriedolwr/diddymwr dderbyn eich hawliad cyfan neu ran ohono, neu ei wrthod yn llwyr. Rhaid iddo egluro ei resymau yn ysgrifenedig a gallwch wneud cais i'r llys i'w benderfyniad gael ei wrthdroi neu ei amrywio. Dylech gael cyngor cyfreithiol os byddwch yn gwneud hyn.

Gall y swm a gaiff ei dalu i chi ddibynnu ar y canlynol:

  • faint y gellir ei godi drwy werthu neu waredu asedau, arian ac ati
  • hawliau credydwyr sicredig – telir y rhain yn gyntaf, gan adael llai o arian o bosibl i gael ei rannu rhwng credydwyr eraill
  • nifer yr hawliadau a dderbyniwyd
  • faint o'ch hawliad a gaiff ei dderbyn gan yr ymddiriedolwr/diddymwr

Anfonir adroddiad at gredydwyr yn amcangyfrif asedau a dyledion y dyledwr ynghyd â'r rhesymau tybiannol dros y methdaliad/diddymiad. Dylech gysylltu â'r ymddiriedolwr/diddymwr os credwch fod y dyledwr yn atal unrhyw asedau.

Gallwch gael rhestr o bob credydwr a faint sy'n ddyledus iddynt gan yr ymddiriedolwr/diddymwr. Weithiau gallwch gael y wybodaeth hon o ffeiliau'r llys methdaliad/diddymiad.

Adennill dim ond rhywfaint o'r arian sy'n ddyledus i chi

Os na all yr ymddiriedolwr/diddymwr ad-dalu'r dyledion yn llawn, bydd yn talu cymaint â phosibl. 'Difidend' yw'r math hwn o daliad a bydd y swm a gewch yn gymesur â gwerth pob hawliad a wneir.

Bydd yr ymddiriedolwr/diddymwr yn cadarnhau yn ysgrifenedig i bob credydwr hysbys sydd wedi cyflwyno ffurflen prawf o ddyled os caiff taliad difidend ei wneud.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Allweddumynediad llywodraeth y DU