Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd rhywun mewn dyled i chi ac yn gwrthod talu, gallwch wneud hawliad llys i geisio cael eich arian yn ôl. Gallwch wneud hyn ar-lein, neu lawrlwytho ffurflen. Mynnwch wybod sut i wneud hawliad llys am arian sy'n ddyledus i chi.
Gwyliwch fideo sy'n dangos sut y gall cyfryngu eich helpu i ddatrys anghydfod
Dylai cymryd camau cyfreithiol fod yn ddewis olaf pan fetho popeth arall. Yn gyntaf, ceisiwch:
Cyfryngu yw pan fydd rhywun yn helpu dwy ochr i ddatrys anghydfod, a gall fod yn gyflymach ac yn rhatach na mynd i'r llys.
Mae'n rhaid i chi roi cyfle i'r parti arall dalu drwy anfon llythyr rhybudd terfynol.
Gall cymryd camau cyfreithiol gymryd misoedd a gall fod yn gostus
Gall cymryd camau cyfreithiol gymryd misoedd a gall fod yn gostus
Efallai y bydd yn rhaid i chi:
Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r llys a thalu ffi arall, er mwyn gorfodi dyfarniad os byddwch yn ennill ond bod yr ochr arall yn gwrthod talu. Efallai na fydd yr unigolyn sydd mewn dyled i chi yn gallu talu os yw'n ddi-waith neu'n fethdalwr, neu os yw'r cwmni wedi'i ddirwyn i ben.
Os nad ydych yn siŵr p'un a ddylech fwrw ymlaen â hawliad, ceisiwch gyngor cyfreithiol.
Er mwyn gwneud hawliad llys, gallwch wneud y canlynol:
Gall fod yn gyflymach ac yn haws gwneud yr hawliad ar-lein. Gallwch wneud hyn yn y rhan fwyaf o achosion.
Darllenwch y nodiadau canllaw sy'n dod gyda phob ffurflen, a sicrhewch eich bod yn llenwi'r ffurflenni'n gywir.
Ni fydd staff y llys yn gallu eich helpu, ond gallwch gael help a chyngor cyfreithiol am ddim gan y Gyngor ar Bopeth.
Gallwch hawlio llog ar yr arian sy'n ddyledus i chi, sef 8 y cant y flwyddyn fel arfer. I weithio allan y llog, dilynwch y camau hyn:
Defnyddiwch y swm rydych yn ei hawlio a'i luosi â 0.08 (hynny yw, 8 y cant).
Er enghraifft, os oeddech yn hawlio £1,000, byddai'r llog blynyddol arno yn £80 (1000 x 0.08 = 80).
Rhannwch eich llog blynyddol o gam un â 365 (nifer y diwrnodau mewn blwyddyn).
Yn yr enghraifft uchod, byddech yn rhannu £80 â 365 i gael y llog blynyddol, a fyddai'n tua 22c y diwrnod (80 / 365 = 0.2192).
Lluoswch y llog dyddiol o gam dau â nifer y diwrnodau y mae'r ddyled wedi bod yn ddyledus i chi.
Yn yr enghraifft uchod, ar ôl 50 diwrnod byddai'n £10.96 (50 x 0.2192).
Os oes angen help arnoch i weithio allan eich llog, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth.
Bydd yn rhaid i chi dalu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd os ydych yn gwneud hawliad ar-lein
Bydd yn rhaid i chi dalu ffi i'r llys pan fyddwch yn gwneud hawliad.
Efallai y byddwch yn gallu cael help gyda'ch ffioedd os ydych yn cael budd-daliadau ar sail prawf modd, fel Cymhorthdal Incwm. Darllenwch y daflen 'Ffioedd llys - oes rhaid i mi eu talu?'
Mae'r ffi yn seiliedig ar swm yr arian rydych yn ei hawlio, gan gynnwys llog.
Bydd defnyddio Money Claim Online yn rhatach nag anfon y ffurflen bapur. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu defnyddio Money Claim Online os ydych yn cael help gyda'ch ffioedd.
swm yr hawliad | os byddwch yn defnyddio ffurflen bapur | os byddwch yn defnyddio Money Claim Online |
---|---|---|
hyd at £300 | £35 | £25 |
£300.01 i £500 | £50 | £35 |
£500.01 i £1,000 | £70 | £60 |
£1,000.01 i £1,500 | £80 | £70 |
£1,500.01 i £3,000 | £95 | £80 |
£3,000.01 i £5,000 | £120 | £100 |
£5,000.01 i £15,000 | £245 | £210 |
£15,000.01 i £50,000 | £395 | £340 |
£50,000.01 i £100,000 | £685 | £595 |
Dim ond hyd at £100,000 y gallwch ei hawlio drwy ddefnyddio Money Claim Online.
swm yr hawliad | ffi’r llys |
---|---|
£100,000.01 i £150,000 | £885 |
£150,000.01 i £200,000 | £1,080 |
£200,000.01 i £250,000 | £1,275 |
£250,000.01 i £300,000 | £1,475 |
mwy na £300,000 | £1,670 |
Os ydych yn gwneud hawliad ar-lein, bydd rhaid i chi dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd, ac ni ellir ad-dalu ffioedd. Os ydych yn defnyddio’r ffurflen bapur, gallwch dalu mewn arian parod, drwy archeb bost neu siec. Dylech wneud y siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd llys ychwanegol yn ddiweddarach - er enghraifft, os bydd gwrandawiad llys.
Ar ôl llenwi'r ffurflen, bydd angen i chi ei hanfon i’r cyfeiriad canlynol:
County Court Money Claims Centre
PO Box 527
Salford
M5 0BY
Cadwch gopi o’r ffurflen i chi eich hun.
Bydd yr unigolyn rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn - y 'diffynnydd' – yn cael copi o’r ffurflen hawlio, a phecyn hawlio (ffurflenni a nodiadau canllaw).
Byddwch yn cael gwybod os caiff y ffurflen hawlio a'r pecyn ymateb eu dychwelyd i'r llys heb eu hagor. Bydd yr hawliad yn ddilys o hyd os defnyddiwyd cyfeiriad hysbys diwethaf y diffynnydd neu ei unig gyfeiriad hysbys.
Gallwch ddarllen mwy am beth i'w wneud pan fydd y diffynnydd yn ymateb i'r hawliad gan ddefnyddio'r dolenni isod.