Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawliadau am arian: os bydd diffynnydd yn cyfaddef bod swm amhenodedig yn ddyledus ganddo

Os byddwch yn gwneud hawliad llys ac na fyddwch yn nodi union swm yr hawliad, gall y diffynnydd gynnig talu swm sy'n deg yn ei farn ef. Os na fyddwch yn cytuno ar y swm, bydd barnwr yn penderfynu faint o arian y dylid ei dalu. Mynnwch wybod sut i gytuno ar daliad terfynol.

Mae'r diffynnydd yn cyfaddef bod arian yn ddyledus ganddo

Ar gyfer rhai mathau o hawliadau, megis hawliad am iawndal am golled neu anaf, efallai na fyddwch yn gallu cyfrifo'r union swm sy'n ddyledus i chi. Ond byddwch yn gwybod beth yw'r uchafswm posibl, er enghraifft 'wedi'i gyfyngu i £5,000'. Mewn llys, gelwir hawliad am swm amhenodol yn hawliad 'amhenodedig'.

Gall yr unigolyn y mae'r arian yn ddyledus ganddo, sef y 'diffynnydd', anfon ffurflen i'r llys yn cyfaddef bod arian yn ddyledus ganddo. Gelwir hyn yn achos o gyfaddef 'atebolrwydd' (cyfrifoldeb) am yr hawliad.

Bydd y llys yn anfon copi o'r ffurflen at yr unigolyn y mae arian yn ddyledus iddo, sef yr 'hawlydd'.

Gall y diffynnydd gyfaddef atebolrwydd am yr hawliad a:

  • pheidio â nodi faint o arian
  • cynnig swm
  • cynnig swm a gofyn am gael talu mewn rhandaliadau neu ar ddyddiad yn y dyfodol

Penderfynu faint a gaiff ei dalu

Bydd barnwr yn ystyried a oes angen gwrandawiad llys

Os nad yw'r diffynnydd yn cynnig swm, bydd angen i chi ofyn i'r llys benderfynu faint y dylid ei dalu. Bydd barnwr yn ystyried:

  • p'un a oes angen gwrandawiad llys
  • pa dystiolaeth sydd ei hangen arno gennych i'w helpu i benderfynu

Bydd y ddwy ochr yn cael copi o benderfyniad y barnwr (a elwir yn 'gyfarwyddiadau').

Gall y barnwr benderfynu:

  • anfon eich hawliad i wrandawiad llys, sef 'gwrandawiad mân hawliadau'
  • cynnal gwrandawiad i benderfynu sut y dylid talu'r ddyled, sef 'gwrandawiad gwaredu'

Gwrandawiadau i benderfynu sut y dylid talu dyled - 'gwrandawiadau gwaredu'

Os cynhelir gwrandawiad gwaredu, er mwyn penderfynu sut y dylid talu'r ddyled, gall y barnwr:

  • ofyn am ragor o ddogfennau a thystiolaeth arall sydd eu hangen arno i wneud penderfyniad terfynol
  • penderfynu ar y swm y mae'n rhaid i'r diffynnydd ei dalu

Mae'r hyn fydd yn digwydd yn eich achos yn dibynnu ar:

  • swm tebygol yr arian sy'n ddyledus
  • p'un a yw'r diffynnydd yn debygol o anghytuno
  • p'un a yw'r barnwr yn credu bod digon o dystiolaeth i wneud penderfyniad

Os mai chi yw'r hawlydd, bydd angen i chi anfon copïau o unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig (dogfennau, adroddiadau, derbynebau) at y diffynnydd. Rhaid i chi wneud hyn o leiaf dri diwrnod cyn y gwrandawiad gwaredu.

Ar ôl y gwrandawiad, bydd y llys yn anfon copïau o benderfyniad y barnwr at y ddwy ochr.

Bydd y diffynnydd yn dweud faint y bydd yn ei dalu

Gall y diffynnydd gyfaddef eich hawliad a gwneud cynnig i chi am yr hyn sy'n deg yn ei farn ef.

Os mai chi yw'r hawlydd a'ch bod yn derbyn y swm a gynigir, bydd angen i chi anfon y ffurflen yn ôl i'r llys yn nodi hynny.

Bydd hefyd angen i chi ystyried sut rydych am i'r arian gael ei dalu. Ystyriwch sut y bydd y diffynnydd fwyaf tebygol o dalu. Efallai y bydd gennych siawns well o gael eich arian os byddwch yn gofyn am randaliadau yn hytrach na'r swm llawn.

Os na fyddwch yn cytuno â'r swm a gynigir i chi, bydd y llys yn trefnu i farnwr benderfynu.

Mae'r diffynnydd yn gofyn am gael talu mewn rhandaliadau

Gall y diffynnydd ofyn am gael talu yn y dyfodol, neu mewn rhandaliadau. Os bydd y ddwy ochr yn cytuno, bydd y llys yn anfon 'dyfarniad' at y diffynnydd gyda manylion o ran sut a phryd y dylai dalu. Bydd yr hawlydd yn cael copi hefyd.

Os mai chi yw'r hawlydd ac nad ydych yn cytuno, gallwch ofyn i'r llys benderfynu ar y gyfradd talu (a elwir yn 'benderfyniad'). Bydd angen i chi ddweud pam nad ydych yn cytuno â chynnig y diffynnydd.

Gall y ddwy ochr anghytuno â'r gyfradd talu y mae'r llys yn ei phennu. Bydd angen i chi ysgrifennu i'r llys yn egluro pam eich bod yn anghytuno, a bydd barnwr yn penderfynu. Gall y barnwr:

  • ofyn i chi fynd i wrandawiad llys
  • penderfynu yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ganddo

Bydd y ddwy ochr yn cael copi o benderfyniad y barnwr.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Cysylltiadau defnyddiol

Help a chyngor ynghylch materion arian a threth

Allweddumynediad llywodraeth y DU