Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Os bydd diffynnydd yn anghytuno â'ch hawliad am arian mewn llys

Os ydych wedi gwneud hawliad llys am arian, efallai na fydd yr unigolyn rydych wedi gwneud hawliad yn ei erbyn yn cytuno bod ganddo arian yn ddyledus i chi. Mynnwch wybod beth i'w wneud os bydd diffynnydd yn anghytuno â'ch hawliad.

Mae'r diffynnydd yn amddiffyn yr hawliad a wneir gennych

Mae gan y diffynnydd 14 diwrnod i ymateb

Ar ôl cael eich ffurflen hawlio, mae gan yr unigolyn rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn - y 'diffynnydd' - 14 diwrnod i weud os yw am ei amddiffyn. Gall anfon un o'r canlynol:

  • cydnabyddiaeth o wasanaeth (sy'n rhoi amser ychwanegol iddo baratoi ffurflen amddiffyn)
  • amddiffyniad

Os bydd yn anfon cydnabyddiaeth o wasanaeth ond nad yw'n ffeilio amddiffyniad yn ystod y cyfnod a ganiateir, ystyrir ei fod wedi anwybyddu'r hawliad. Yna gallwch ofyn am 'ddyfarniad mewn diffyg'. Er mwyn dysgu sut mae gwneud hyn, gweler 'Os anwybyddir eich hawliad am arian mewn llys'.

Efallai y bydd y diffynnydd yn amddiffyn yr hawliad drwy ddweud ei fod yn anghytuno bod yr holl arian neu ran o'r arian yn ddyledus ganddo.

Pan gaiff amddiffyniad ei ffeilio, caiff yr achos ei drosglwyddo i lys lleol y diffynnydd ar gyfer gwrandawiad.

Mae'r diffynnydd yn gwneud gwrth-hawliad

Yn ogystal ag amddiffyn yr hawliad a wneir gennych, efallai y bydd y diffynnydd yn credu bod arian yn ddyledus gennych chi iddo ef a gall fanteisio ar y cyfle hwn i'w hawlio'n ôl. Gelwir hyn yn 'gwneud gwrth-hawliad'.

Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i achos ar gyfer gwrandawiad.

Mynd â hawliad a amddiffynnir i'r llys

Anfonir copi o'r amddiffyniad atoch (a gwrth-hawliad os oes un) ynghyd â rhagor o ddogfennau y bydd angen i chi eu llenwi.

Byddwch chi a'r diffynnydd yn cael:

  • holiadur dyrannu (yn gofyn am ragor o fanylion i weithio allan sut y bydd eich hawliad yn mynd drwy system y llys)
  • hysbysiad o amddiffyniad
  • hysbysiad o drosglwyddiad (os bydd y llys yn trosglwyddo eich hawliad i lys arall)

Dyrannu achos i wrandawiad

Os caiff eich achos ei amddiffyn, bydd angen i'r llys wneud yn siŵr ei fod yn mynd drwy'r system cyn gynted â phosibl. Yn seiliedig ar y wybodaeth a rowch yn yr holiadur dyrannu, bydd barnwr yn rhoi eich hawliad ar un o dri 'llwybr':

  • llwybr mân hawliadau
  • llwybr carlam
  • aml-lwybr

Bydd hyn yn dibynnu ar:

  • beth yw gwerth yr hawliad (swm yr arian neu'r iawndal sy'n cael ei hawlio)
  • pa mor gymhleth yw'r hawliad (faint o dystiolaeth sydd ei hangen, nifer y bobl sy'n ymwneud â'r achos a'r tystion)
  • a oes angen adroddiadau gan arbenigwyr (megis meddygon, syrfewyr neu beirianwyr)

Fel arfer, caiff hawliadau sy'n werth llai na £5,000 eu rhoi ar lwybr 'mân hawliadau'. Fel arfer caiff hawliadau sy'n werth mwy na £5,000 eu dyrannu i'r 'llwybr carlam' neu'r 'aml-lwybr'.

Bydd angen i chi dalu ffi arall i’r llys os mae’r hawliad yn werth mwy na £1,500:

  • hawliadau sy'n werth mwy na £5,000 yn y llwybr mân hawliadau: £40
  • hawliadau llwybr carlam ac aml-lwybr: £220

Bydd yn rhaid i chi dalu'r ffi hon pan fyddwch yn anfon yr holiadur dyrannu yn ôl i'r llys.

Os na chaiff yr holiadur dyrannu ei ddychwelyd ar amser

Os byddwch yn methu'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd yr holiadur dyrannu, gall y barnwr:

  • ddyrannu'r achos i lwybr heb wybodaeth ychwanegol
  • eich cosbi am anufuddhau i'r llys

Gellir canslo (dileu) eich hawliad. Os bydd y diffynnydd yn hwyr yn ymateb, mae'n bosibl y caiff ei amddiffyniad ei ddileu hefyd.

Os yw'r diffynnydd yn dweud bod y ddyled eisoes wedi'i thalu

Bydd y llys yn gofyn i chi roi gwybod iddynt (erbyn dyddiad cau):

  • os ydych yn derbyn bod yr arian wedi'i dalu i chi
  • os nad ydych yn credu eich bod wedi'ch talu a'ch bod am barhau â'r achos

Rhaid i chi anfon copi o'ch ymateb at y diffynnydd. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, caiff eich hawliad ei 'ohirio' - ni fydd y llys yn cymryd unrhyw gamau pellach. Bydd yn rhaid i chi neu'r diffynnydd ofyn i'r llys ddiddymu'r gohiriad, a bydd angen i chi dalu ffi.

Os byddwch am barhau â'r achos, byddwch yn cael yr holiadur dyrannu.

Mae'r diffynnydd yn cytuno i raddau fod arian yn ddyledus ganddo

Os yw eich hawliad am swm penodol, bydd y diffynnydd yn anfon ffurflenni i'r Ganolfan Hawliadau Llys Sirol Ariannol (County Court Money Claims Centre). Bydd y diffynnydd yn nodi ar y ffurflenni faint o'ch hawliad mae'n ei gyfaddef a pham ei fod yn anghytuno â'r gweddill.

Byddwch yn cael copïau o'r ffurflenni hyn a bydd angen i chi ddweud wrth y ganolfan llys:

  • os nad ydych yn cytuno a'ch bod am i'r hawliad fynd yn ei flaen
  • os ydych yn derbyn y swm rhannol

Efallai y byddwch wedi gofyn i'r diffynnydd dalu mewn rhandaliadau neu erbyn dyddiad yn y dyfodol. Bydd angen i chi roi gwybod i'r ganolfan llys os byddwch yn:

  • cytuno â'r dyddiadau a swm y rhandaliadau
  • anghytuno a pham

Os byddwch yn anghytuno, bydd y llys yn cyfrifo faint y dylai'r diffynnydd ei dalu ac erbyn pryd y dylai wneud hynny. Bydd y ddau ohonoch yn cael copi o benderfyniad y llys sy'n dweud wrth y diffynnydd:

  • faint y dylai ei dalu ac i bwy y dylai ei dalu
  • ble y mae angen iddo dalu'r arian (manylion banc neu gyfeiriad)
  • y dyddiadau cau ar gyfer talu

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Cysylltiadau defnyddiol

Help a chyngor ynghylch materion arian a threth

Allweddumynediad llywodraeth y DU