Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut y caiff dyfarniadau llysoedd sirol eu gorfodi

Os na chaiff dyfarniad llys sirol ei dalu, gall yr unigolyn y mae'r arian yn ddyledus iddo gymryd camau i orfodi hyn. Mynnwch wybod sut y caiff dyfarniadau llysoedd sirol eu gorfodi a'r hyn i'w wneud os caiff camau eu cymryd yn eich erbyn chi.

Os na chaiff y dyfarniad llys sirol ei dalu

Os rhoddir dyfarniad llys sirol i chi ac nad ydych yn ei dalu, gellid cymryd camau yn eich erbyn.

Gall y 'credydwr' (yr unigolyn y mae'r arian yn ddyledus iddo) ofyn i'r llys orfodi'r dyfarniad. Fel arfer bydd yn rhaid i'r credydwr dalu ffi i'r llys.

Gall y credydwr wneud cais i'r llys am yr arian drwy ddefnyddio:

  • gwarant i weithredu (anfon beilïaid i gasglu taliad neu nwyddau i'w harwerthu)
  • gorchymyn atafaelu enillion (didyniadau o gyflogau)
  • gorchymyn dyled trydydd parti (a ddefnyddir fel arfer i rewi arian mewn cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu)
  • gorchymyn arwystlo (arwystl ar dir neu eiddo y mae'r dyledwr yn berchen arno)

Gellir cyhoeddi gwarant i weithredu gan ddefnyddio'r wefan Money Claim Online, y Ganolfan Hawliadau Llys sirol Ariannol (County Court Money Claims Centre) neu’r llys sirol lleol.

Ar gyfer unrhyw rai o'r camau eraill, mae'n rhaid i'r credydwr ofyn am i'r hawliad gael ei drosglwyddo i lys sirol lleol y diffynnydd.

Gorchmynion i gael gwybodaeth – cael gwybod am sefyllfa ariannol dyledwr

Gorchmynion i gael gwybodaeth

Gwyliwch fideo ar fynd i'r llys i roi gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol

Gall y credydwr ofyn am 'orchymyn i gael gwybodaeth' mewn perthynas â sefyllfa ariannol dyledwr. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu pa gamau gorfodi i'w cymryd.

Bydd yn rhaid i’r credydwr dalu ffi o £50 i’r llys i gyhoeddi’r gorchymyn hwn, neu £100 i gael beili i’w gyflwyno.

Os ydych chi mewn dyled, gallai'r llys anfon ffurflen 'gorchymyn i fynd i'r llys i'ch cwestiynu' drwy'r post. Os cewch y ffurflen hon, bydd angen i chi fynd i wrandawiad yn y llys gyda phrawf o'ch incwm neu eich gwariant, megis:

  • slipiau cyflog
  • cyfriflenni banc
  • biliau

Gwarantau i weithredu – anfon beili i gasglu taliadau

Beili llys sirol

Gwyliwch fideo am ymweliadau gan feili llys sirol

Mae gwarant i weithredu yn rhoi'r awdurdod i feili llys sirol ymweld â chartref neu fusnes y dyledwr i gasglu'r arian.

Bydd yn rhaid i’r credydwr dalu ffi o £100 i’r llys i gyhoeddi’r gwarant hwn.

Bydd y beili yn gofyn i'r dyledwr dalu o fewn saith diwrnod.

Gofyn am ragor o amser i dalu’r arian

Gallwch atal beili rhag dod i’ch cartref drwy lenwi ffurflen N245 isod, a’i hanfon at y llys sirol neu’r ganolfan llys sydd wedi cyhoeddi’r warant. Bydd angen i chi ddweud ar y ffurflen sut y byddwch yn ad-dalu’r ddyled – er enghraifft, mewn rhandaliadau.

Os derbynnir eich cynnig, bydd y warant yn cael ei gohirio dim ond i chi barhau i dalu'r taliadau y cytunwyd arnynt.

Gorchmynion atafaelu enillion – didyniadau o gyflogau

Gall y llys anfon gorchymyn atafaelu enillion i gyflogwr y dyledwr. Bydd y gorchymyn yn dweud wrth y cyflogwr am gymryd arian o gyflogau i'w dalu i'r credydwr.

Mae angen i'r credydwr lenwi ffurflen a'i hanfon i lys sirol lleol y dyledwr i wneud cais am orchymyn atafaelu enillion. Hefyd bydd angen arnynt dalu ffi o £100 i’r llys.

Bydd y llys yn rhoi gwybod i'r dyledwr os yw'n bwriadu anfon gorchymyn i'w gyflogwr. Bydd y llys yn anfon ffurflen i'r dyledwr i roi cyfle iddo ymateb i'r cais. Bydd yn rhaid i'r dyledwr lenwi'r ffurflen hon gan nodi manylion ei incwm a'i wariant.

Gall y dyledwr:

  • dalu'r holl arian sy'n ddyledus ar unwaith
  • gofyn am i'r gorchymyn gael ei atal, a chynnig gwneud taliadau rheolaidd

Os bydd y gorchymyn atafaelu enillion yn mynd rhagddo, bydd y llys yn cyfrifo faint y gall ei gymryd ar ôl eitemau hanfodol fel rhent, bwyd a biliau.

Gorchmynion atafaelu enillion cyfunol

Os oes gan y dyledwr orchymyn atafaelu enillion eisoes, gall y llys ddewis cyfuno'r gorchmynion i wneud gorchymyn 'cyfunol'. Mae'r llys yn rhannu'r taliad rhwng yr holl gredydwyr ac yn codi £1 fesul taliad fel costau. Gall y dyledwr ac unrhyw un o'r credydwyr hefyd wneud cais am orchymyn 'cyfunol'.

I gyfuno'r gorchmynion, bydd angen yr holl rifau achos arnoch yn ogystal ag enwau'r llysoedd a'u cyhoeddodd. Mae gan bob llys sirol gofrestr o orchmynion atafaelu enillion yn eu hardal y gellir chwilio drwyddi am ddim.

Ni allwch gynnwys gorchymyn atafaelu ar gyfer cynhaliaeth cyn-bartner neu blant mewn gorchymyn cyfunol.

Gorchmynion dyled trydydd parti – rhewi arian mewn cyfrif dyledwr

Gellir cyflwyno gorchmynion dyled trydydd parti i unrhyw un y mae arno arian i ddyledwr, neu sy'n cadw arian ar ei ran. Fel arfer cânt eu defnyddio i rewi arian mewn cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu.

Bydd yn rhaid i’r credydwr dalu ffi o £100 i’r llys i wneud cais am orchymyn dyled trydydd parti.

Gall y dyledwr fynd i wrandawiad ac anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r llys a'i gredydwr. Os caiff cyfrif y dyledwr ei rewi, gall wneud cais i unrhyw lys sirol am daliad caledi.

Bydd barnwr yn penderfynu a ddylid defnyddio arian yn y cyfrif sydd wedi'i rewi i dalu'r ddyled.

Gorchmynion arwystlo - arwystl ar dir neu eiddo

Gall y credydwr ofyn am arwystl ar dir neu eiddo'r dyledwr am y swm sy'n ddyledus ganddo, a gelwir hyn yn orchymyn arwystlo.

Bydd yn rhaid i’r credydwr dalu ffi o £100 i’r llys i wneud cais am orchymyn arwystlo.

Os caiff y tir neu'r eiddo ei werthu, bydd yn rhaid i'r dyledwr dalu'r arwystl cyn cael yr enillion.

Nid yw gorchymyn arwystl yn golygu bod yn rhaid i'r dyledwr werthu'r tir neu'r eiddo ond, mewn rhai achosion, gall y credydwr geisio ei orfodi i werthu. Gall y dyledwr amddiffyn ei dir neu ei eiddo mewn gwrandawiad os bydd hynny'n digwydd.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Cysylltiadau defnyddiol

Help a chyngor ynghylch materion arian a threth

Allweddumynediad llywodraeth y DU