Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwrandawiadau ar gyfer hawliadau sy'n werth mwy na £5,000

Gall hawliadau llys sy'n werth mwy na £5,000 fod yn gymhleth ac weithiau gallant gynnwys treial neu wrandawiad ffurfiol. Bydd barnwr yn penderfynu a ddelir â'r achos mewn gwrandawiad 'llwybr carlam' neu wrandawiad 'aml-lwybr'. Mynnwch wybod sut mae'r rhain yn gweithio a sut i baratoi am wrandawiad.

Dyrannu hawliad i lwybr llys

Os byddwch yn gwneud hawliad am fwy na £5,000 y mae'r ochr arall yn ei amddiffyn, bydd barnwr yn penderfynu sut y delir â'r achos.

Caiff y rhan fwyaf o hawliadau eu dyrannu i un o ddau 'lwybr' mewn llys sirol.

Gwrandawiadau llwybr carlam

Fel arfer, bydd hawliadau llys rhwng £5,000 a £25,000 yn mynd i wrandawiad 'llwybr carlam', a fydd fel arfer yn cymryd un diwrnod ar y mwyaf.

Gwrandawiadau aml-lwybr

Fel arfer, bydd hawliadau cymhleth iawn yn mynd i wrandawiad 'aml-lwybr', a all bara sawl diwrnod.

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi o £220 i’r llys i gael eich hawliad i’w ddyrannu i un o’r llwybrau hyn.

Penderfynu sut y delir â'r achos

Mynd i'r llys

Gwyliwch fideo am yr hyn sy'n digwydd mewn gwrandawiad llys

Bydd y llys yn anfon ffurflen a elwir yn 'holiadur dyrannu' i'r ddwy ochr. Mae'r holiadur yn gofyn cwestiynau i chi am sut yr hoffech i'r achos gael ei drin.

Mae'r barnwr yn penderfynu ar y llwybr yn seiliedig ar y wybodaeth yn yr holiadur dyrannu. Disgwylir i chi a'r diffynnydd drafod y canlynol a chytuno arnynt lle y bo'n bosibl:

  • p'un a allwch ddatrys yr anghydfod heb fynd i wrandawiad
  • y llwybr mwyaf addas, os ydych am barhau â'r achos
  • pa mor hir y credwch y bydd y gwrandawiad yn para
  • faint o amser sydd ei angen arnoch i baratoi eich achos
  • a ydych am ddefnyddio tystiolaeth arbenigol (ac a ydych yn gallu defnyddio'r un arbenigwr)

Cytuno y tu allan i'r llys

Efallai y bydd yn gyflymach ac yn rhatach ceisio setlo cyn i'r achos fynd i wrandawiad.

Bydd yr holiadur dyrannu yn gofyn i chi a ydych am geisio setlo'r hawliad drwy drafodaeth anffurfiol neu gynllun datrys anghydfodau amgen. Ticiwch 'ydw' os hoffech geisio datrys yr anghydfod y tu allan i'r llys.

Fel arfer, bydd y llys yn gohirio'r gwrandawiad llys am tua mis i roi cyfle i chi setlo'r hawliad. Hefyd, efallai y gallech ddefnyddio math o gynllun datrys anghydfodau amgen, fel cyfryngu. Cyfryngu yw pan fo unigolyn diduedd yn eich helpu chi a'r ochr arall i ddatrys eich anghydfod.

Os na ellir datrys yr achos yn y ffordd hon, bydd yn mynd i wrandawiad.

Paratoi ar gyfer y gwrandawiad

Rhoi manylion dogfennau sy'n cael eu defnyddio yn yr achos

Mae'n rhaid i'r ddwy ochr roi gwybod i'w gilydd am unrhyw ddogfennau perthnasol cyn y gwrandawiad. Gelwir hyn yn 'datgelu'. Gall y ddwy ochr ofyn am gael gweld dogfennau ar y rhestr ddatgelu.

Dylech restru dogfennau sy'n:

  • ategu eich achos
  • tanseilio eich achos
  • cefnogi'r ochr arall

Rhaid i chi gyflwyno 'ffurflen ddatgelu' i'r llys yn rhestru'r canlynol:

  • dogfennau nad ydynt yn eich meddiant mwyach
  • dogfennau sydd gennych ac y byddwch yn gadael i'r parti arall eu gweld
  • dogfennau sydd gennych ond nad ydych am i'r diffynnydd eu gweld (esboniwch pam - rhaid i chi roi rheswm da)

Os nad ydych yn rhoi caniatâd i'r parti arall weld dogfen, efallai na fyddwch yn cael ei defnyddio i ategu eich achos.

Llenwi rhestr wirio cyn y gwrandawiad

Mae'n rhaid i'r ddau barti lenwi 'rhestr wirio cyn y treial', sef ffurflen sy'n gofyn am fanylion am sut rydych am barhau â'r gwrandawiad llys.

Rhaid i chi ddychwelyd y rhestr wirio erbyn y terfyn amser gyda’r ffioedd i’r llys:

  • £110 yw’r ffi ar gyfer y rhestr wirio cyn y treial
  • ffi’r gwrandawiad yw £545 ar gyfer hawliad llwybr carlam neu £1,090 ar gyfer hawliad aml-lwybr

Cadarnhau dyddiad ac amserlen y gwrandawiad

Bydd barnwr yn edrych ar y wybodaeth yn yr holiaduron dyrannu ac yn penderfynu sut y delir â'r achos. Bydd y barnwr yn:

  • gwirio'r gwaith papur
  • penderfynu ar ddyddiad ac amserlen ar gyfer y gwrandawiad
  • penderfynu ar fanylion megis caniatâd i arbenigwyr roi tystiolaeth

Byddwch yn cael llythyr gyda'r wybodaeth hon.

Darllenwch y manylion, oherwydd gall y gwrandawiad gael ei gynnal mewn llys gwahanol i'r un rydych wedi bod yn delio ag ef.

Os oes gennych anabledd ac yn credu y bydd angen help ychwanegol arnoch yn y llys, dylech gysylltu â swyddog gwasanaeth cwsmeriaid y llys.

Rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad

Yn ystod y gwrandawiad, fel arfer bydd y barnwr am glywed gan yr unigolyn sy'n gwneud yr hawliad, yr 'hawlydd', yn gyntaf, ac yna'r diffynnydd.

Fel arfer gofynnir i chi ac unrhyw dystion dyngu llw eich bod yn dweud y gwir pan fyddwch yn rhoi eich tystiolaeth.

Rhaid i chi gyfnewid datganiadau tystion cyn y gwrandawiad os ydych am alw ar dystion yn ystod y gwrandawiad. Dim ond y dystiolaeth yn y datganiad y gall tystion ei rhoi, oni bai bod y barnwr yn rhoi caniatâd iddynt roi darn arall o dystiolaeth.

Wrth roi tystiolaeth, gallwch gyfeirio at nodiadau os yw'r barnwr wedi rhoi caniatâd i chi wneud hynny.

Gallwch chi (neu eich cyfreithiwr) siarad a gofyn cwestiynau i'r unigolyn arall ac unrhyw dystion. Gall y barnwr ofyn rhai cwestiynau hefyd.

Os ydych yn cynrychioli eich hun, gofynnwch un cwestiwn ar y tro a pheidiwch â thorri ar draws y barnwr na thyst.

Penderfyniad y barnwr

Bydd y barnwr yn penderfynu ar y canlyniad ar ddiwedd y gwrandawiad a chewch lythyr yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.

Os ydych o'r farn bod gennych resymau da dros wneud, gallwch apelio yn erbyn y dyfarniad. Rhaid i chi gael caniatâd y barnwr a rhaid i chi wneud cais o fewn 21 diwrnod i'r dyfarniad gael ei wneud.

Os ydych yn ystyried apelio, dylech gael cyngor cyfreithiol.

Gorfodi’r dyfarniad

Os byddwch yn ennill achos, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r llys i orfodi'r dyfarniad.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Cysylltiadau defnyddiol

Help a chyngor ynghylch materion arian a threth

Allweddumynediad llywodraeth y DU