Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn gwneud hawliad i'r llys am arian a bod y diffynnydd yn ei anwybyddu, gallwch ofyn i'r llys orchymyn iddo dalu. Mynnwch wybod sut i wneud hyn ar-lein neu drwy ddefnyddio ffurflen llys ar gyfer symiau penodol neu symiau amhenodol o arian.
Gallwch ofyn i'r llys orchymyn i’r diffynnydd dalu'r swm rydych wedi'i hawlio
Os nad ydych yn cael ymateb i'ch hawliad llys erbyn y terfyn amser, gallwch ofyn i'r llys orchymyn i’r diffynnydd dalu. Gallwch hefyd nodi pa delerau talu rydych yn fodlon eu derbyn.
Mae gan y diffynnydd 14 diwrnod i gysylltu â chi o'r adeg pan fydd yn cael eich ffurflen hawlio.
Os na fyddwch yn cael ymateb, gallwch ofyn i'r llys orchymyn iddo dalu'r swm rydych wedi'i hawlio. Gelwir hyn yn 'cofnodi dyfarniad mewn diffyg'.
Os gwnaethoch hawlio gan ddefnyddio ffurflen bapur
Os gwnaethoch hawlio gan ddefnyddio ffurflen bapur, gallwch ddefnyddio’r ffurflen 'hysbysiad cychwyn' (N205A). Llenwch yr adran gwneud cais am ddyfarniad (y rhan waelod) ar y ffurflen a mynd â hi i'r llys neu ei hanfon i'r llys.
Os nad oes gennych y ffurflen hon am ba reswm bynnag, gallwch ei lawrlwytho gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Os gwnaethoch hawlio ar-lein
Gallwch ofyn i'r llys orchymyn i'r diffynnydd dalu gan ddefnyddio Money Claim Online, os gwnaethoch yr hawliad ar-lein.
Cewch hawlio unrhyw bryd, ond dim ond ar ddiwedd pob dydd y mae'r system Money Claim Online yn delio â cheisiadau.
Terfyn amser ar gyfer ymateb i hawliad a gofyn am daliad
Gall y diffynnydd ymateb o hyd, hyd yn oed os bydd wedi methu'r terfyn amser. Os bydd y llys yn cael ymateb y diffynnydd cyn prosesu eich cais, bydd ymateb y diffynnydd yn gymwys hyd yn oed os bydd yn hwyr.
Os bydd y diffynnydd yn anwybyddu eich hawliad, ac nad ydych yn gofyn am ddyfarniad o fewn chwe mis, caiff eich hawliad ei atal ('gohirio'). Os ydych am ei ddechrau eto, bydd angen i chi wneud cais i'r barnwr.
Sut y gallwch ofyn am gael eich talu
Bydd angen i chi ddweud sut rydych am i'r diffynnydd dalu.
Gallwch ofyn am i'r taliad gael ei wneud:
Dylech ystyried sut y bydd fwyaf tebygol o allu talu. Efallai y byddwch am gael yr holl arian ar unwaith, ond efallai ei fod yn fwy tebygol o dalu os caiff yr opsiwn o dalu mewn rhandaliadau.
Bydd y llys yn anfon ffurflen gorchymyn taliad at y diffynnydd gyda manylion o ran sut, pryd a faint i'w dalu.
Os bydd yn methu â thalu'r hyn sy'n ofynnol ganddo yn y gorchymyn, gallwch ofyn i'r llys orfodi'r gorchymyn. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi llys arall er mwyn gorfodi'r gorchymyn, oni bai bod gennych hawl i gael help gyda'ch ffioedd. Fel arfer caiff y costau llys ychwanegol eu hychwanegu at y swm sy'n ddyledus i chi.
Os ydych yn hawlio iawndal am golled neu anaf, efallai na fyddwch yn gallu cyfrifo'r union swm. Ond byddwch yn gwybod beth yw'r uchafswm posibl, er enghraifft 'wedi'i gyfyngu i £10,000’. Mewn llys, gelwir hawliad am swm amhenodol yn hawliad 'amhenodedig'.
Os na fyddwch yn cael ymateb i'ch hawliad, gallwch ofyn i'r llys wneud y diffynnydd yn gyfrifol (atebol) am eich hawliad. Yna bydd y llys yn penderfynu faint y dylai'r diffynnydd ei dalu. Gelwir hyn yn 'cofnodi dyfarniad i swm gael ei bennu gan y llys'.
Llenwch yr adran cais am ddyfarniad (y rhan waelod) ar y 'ffurflen hysbysiad cychwyn (swm amhenodedig)' (N205B).
Os nad oes gennych y ffurflen hon am ba reswm bynnag, gallwch lenwi'r ffurflen isod.
Ni allwch ddefnyddio Money Claim Online ar gyfer symiau amhenodol.
Sut y bydd y llys yn pennu taliad ar gyfer hawliadau amhenodedig
Bydd dyfarnwr yn penderfynu:
Gall y dyfarnwr benderfynu delio â'r hawliad mewn 'gwrandawiad gwaredu'.
Yn y gwrandawiad gwaredu, bydd y barnwr naill ai'n:
Bydd y llys yn anfon copi o benderfyniad y barnwr atoch chi a'r ochr arall.
Efallai y bydd yr hawliad yn mynd i wrandawiad mân hawliadau os yw'n achos syml sy'n werth llai na £5,000.
Os bydd y diffynnydd yn anwybyddu eich hawliad ac nad yw'n talu pan fo'r llys yn gwneud y dyfarniad, bydd yn rhaid i chi ofyn i'r llys gymryd camau pellach. Gelwir hyn yn 'gorfodi'r dyfarniad'. Ni fydd y llys yn gwneud unrhyw beth oni bai y byddwch yn gofyn iddo wneud rhywbeth.
Efallai y bydd angen i chi dalu ffi er mwyn gorfodi eich dyfarniad - fel arfer caiff y swm hwn ei ychwanegi at y swm sy'n ddyledus i chi gan y diffynnydd.