Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud hawliad llys ar-lein am arian

Gallwch wneud rhai hawliadau llys ar-lein gan ddefnyddio gwefan Money Claim Online (MCOL). Mynnwch wybod pa hawliadau y gallwch eu gwneud a sut y gallwch ddefnyddio'r system i wneud hawliad llys am arian.

Cyn i chi wneud hawliad

Dim ond pan fetho popeth arall y dylech gymryd camau cyfreithiol, oherwydd gall fod yn gostus ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn cael yr arian sy'n ddyledus i chi.

Gweler y dolenni isod i gael gwybodaeth am ddewisiadau amgen fel 'cyfryngu', a all fod yn gyflymach ac yn rhatach na mynd i'r llys.

Pa fath o hawliadau y gallwch eu gwneud ar-lein

Desg gymorth Money Claim Online

Ffôn: 0845 601 5935 neu 01604 619 402

Os byddwch yn gwneud hawliad gan ddefnyddio Money Claim Online:

  • rhaid iddo fod am swm penodol sy'n llai na £100,000
  • rhaid iddo fod yn erbyn dau unigolyn neu sefydliad ar y mwyaf
  • rhaid iddo gael ei anfon i gyfeiriad yng Nghymru neu Loegr â chod post dilys

Beth sydd ei angen arnoch i wneud hawliad ar-lein

I wneud hawliad ar-lein, mae angen y canlynol arnoch:

  • cerdyn credyd neu ddebyd dilys i dalu ffioedd y llys
  • cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr
  • cyfeiriad e-bost

Ni allwch ddefnyddio Money Claim Online os ydych yn cael help i dalu eich ffioedd am eich bod yn cael budd-daliadau ar sail prawf modd, fel Cymhorthdal Incwm.

Beth y gallwch ei wneud gan ddefnyddio Money Claim Online

Gallwch ddefnyddio gwefan Money Claim Online i weld statws eich hawliad. Mewn rhai achosion, byddwch hefyd yn gallu gwneud y canlynol:

  • gofyn i'r llys wneud penderfyniad
  • trefnu bod y penderfyniad yn cael ei orfodi

Beth na allwch ei wneud gan ddefnyddio Money Claim Online

Ni allwch ddefnyddio Money Claim Online os ydych:

  • o dan 18 oed
  • yn cael cymorth cyfreithiol
  • yn erlyn rhywun am anaf personol neu ymosodiad
  • wedi'ch rhwystro gan y llys rhag gwneud hawliadau am eich bod yn 'ymgyfreithiwr blinderus' (rhywun sy'n defnyddio achosion llys i aflonyddu ar bobl eraill)

Ni allwch ddefnyddio Money Claim Online i wneud hawliad yn erbyn:

  • plentyn o dan 18 oed
  • rhywun â diffyg 'gallu meddyliol' (rhywun na all wneud ei benderfyniadau ei hun)
  • y llywodraeth
  • landlord o dan y cynllun blaendal tenantiaeth (mewn y rhan fwyaf o achosion – dilynwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth)

Sut i gofrestru i ddefnyddio Money Claim Online

Er mwyn defnyddio Money Claim Online, bydd angen i chi gofrestru â Phorth y Llywodraeth, sef gwefan ar gyfer gwasanaethau llywodraeth y DU ar-lein.

Dewiswch 'register as an individual' neu 'register as an organisation' ar hafan Money Claim Online. Er mwyn cofrestru, bydd angen i chi nodi'r canlynol:

  • eich enw cyntaf
  • eich cyfenw
  • eich cyfeiriad e-bost

Bydd angen i chi ddewis cyfrinair hefyd.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael rhif adnabod defnyddiwr ar gyfer Porth y Llywodraeth a rhif cwsmer ar gyfer Money Claim Online.

Gwybodaeth y mae angen i chi ei rhoi ar Money Claim Online

Sicrhewch fod unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi mor gywir â phosibl

Er mwyn gwneud hawliad gan ddefnyddio Money Claim Online, bydd yn rhaid i chi gynnwys:

  • teitl, enw llawn, cyfeiriad a chod post yr unigolyn y mae gennych anghydfod ag ef (rhaid i'r cyfeiriad fod yng Nghymru neu Loegr)
  • yr union swm rydych am ei hawlio (gan gynnwys llog)
  • manylion eich hawliad
  • manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd
  • eich cyfeiriad e-bost

Byddwch mor gywir â phosibl wrth nodi'r manylion. Efallai y bydd angen i chi dalu ffi ychwanegol os bydd angen cywiro unrhyw gamgymeriadau.

Gweithio allan y llog ar yr arian sy'n ddyledus i chi

Gallwch hawlio llog ar yr arian sy'n ddyledus i chi, sef 8 y cant y flwyddyn fel arfer.

Os bydd angen help arnoch i weithio hyn allan, defnyddiwch y ddolen isod.

Manylion yr hawliad

Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cynnwys cymaint o fanylion am eich hawliad â phosibl.

Os na fydd gennych ddigon o le ar gyfer yr holl fanylion, gallwch roi crynodeb o'ch hawliad a dweud y byddwch yn anfon y manylion ar wahân. Yna bydd yn rhaid i chi anfon y manylion i'r llys ac at y diffynnydd o fewn 14 diwrnod i gyflwyno'r hawliad. Bydd yn rhaid i chi anfon hefyd ffurflen 'tystysgrif cyflwyno' i'r llys.

Os trosglwyddir eich achos i lys lleol, bydd angen i chi anfon copi o'r manylion i'r llys o fewn saith diwrnod.

Llofnodi ffurflen hawlio ar-lein - 'datganiad o wirionedd'

Yn aml, bydd ffurflenni llys yn cynnwys datganiad o wirionedd ar waelod y dudalen i'w lofnodi gennych, i gadarnhau bod y wybodaeth yn gywir. Er mwyn llofnodi'r datganiad hwn ar Money Claim Online, gallwch deipio eich enw.

Pan fyddwch yn cwblhau'r manylion hyn, byddwch yn cael rhif hawliad. Gallwch ddefnyddio'r rhif hwn os bydd gennych unrhyw gwestiynau am eich hawliad.

Talu eich ffioedd llys am hawliadau am arian

Mae'n rhaid i chi dalu gan ddefnyddio cerdyn credyd neu gerdyn debyd, ac ni ellir ad-dalu ffioedd. Cewch fanylion y ffioedd drwy ddilyn y ddolen isod.


Bydd y taliad yn dangos ar eich cyfriflen fel: ‘MONEYCLAIMOL’.

Cael help i wneud eich cais ar-lein

Mae gan Money Claim Online sgriniau help y gallwch eu defnyddio. Dim ond gyda'r system y mae'r rhain yn eich helpu; nid ydynt yn rhoi cyngor cyfreithiol.

Gallwch hefyd gysylltu â desg gymorth Money Claim Online drwy ffonio 0845 601 5935 neu 01604 619 402 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm).

Gallwch hefyd gysylltu â'r ddesg gymorth drwy e-bost:

mcol@hmcts.gsi.gov.uk

Cadw ac anfon eich hawliad

Pan fyddwch yn cwblhau sgrin, bydd Money Claim Online yn cadw eich gwybodaeth. Gallwch glicio ar 'cadw' ('save') unrhyw bryd. Caiff hawliadau anghyflawn eu cadw am 28 diwrnod.

Gallwch newid eich meddwl a dileu eich hawliad os na fyddwch eisoes wedi'i gwblhau a'i gyflwyno. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich hawliad, ni fyddwch yn gallu mynd yn ôl a'i ddileu neu gael ad-daliad.

Anfonir eich hawliad at y diffynnydd un neu ddau ddiwrnod ar ôl i chi ei wneud ar-lein. Bydd y ffurflenni sydd eu hangen ar y diffynnydd i ymateb i'r hawliad yn cael eu hanfon ato.

Os bydd y cyfeiriad a roddwyd gennych ar gyfer y diffynnydd yn anghywir, caiff y pecyn hawlio ei ddychwelyd atoch. Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod yr unigolyn y mae gennych anghydfod ag ef yn cael y pecyn, neu ni fydd eich hawliad yn mynd yn ei flaen.

Gallwch gadw llygad ar hynt eich hawliad ar unrhyw adeg, unrhyw ddydd, ond dim ond yn ystod oriau gwaith y mae'r system yn cael ei diweddaru.

Ymateb y diffynnydd i'ch hawliad ar-lein

Efallai bydd y diffynnydd yn ymateb gan ddefnyddio Money Claim Online neu drwy anfon ffurflenni i'r llys.

Gweler y dolenni i gael gwybodaeth am beth i'w wneud pan fydd y diffynnydd yn ymateb i'r hawliad.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Cysylltiadau defnyddiol

Help a chyngor ynghylch materion arian a threth

Allweddumynediad llywodraeth y DU