Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y byddwch yn cael hawliad llys drwy'r post sydd wedi'i ddechrau ar-lein gan ddefnyddio gwefan Money Claim Online. Gallwch ymateb ar-lein, neu anfon ffurflenni i'r llys. Mynnwch wybod sut i ymateb i hawliad ar-lein am arian.
Bydd y ffurflen hawlio a gewch drwy'r post yn dweud wrthych os cafodd ei wneud gan ddefnyddio gwefan Money Claim Online.
Os byddwch am ymateb ar-lein, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gyda Phorth y Llywodraeth yn gyntaf os nad oes gennych chi un eisoes.
Dewiswch 'register as an individual' neu 'register as ân organisation' ar hafan Money Claim Online. Er mwyn cofrestru, bydd angen nodi'r canlynol:
Bydd hefyd angen i chi ddewis cyfrinair.
Cadwch nodyn o'ch manylion mewngofnodi ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Ar ôl i chi fewngofnodi, dewiswch yr opsiwn ‘respond to a claim made against you’ ar waelod ochr dde'r dudalen. Gallwch fewngofnodi i'ch hawliad yma, gan ddefnyddio rhif yr hawliad a'r cyfrinair ar y ffurflen hawlio (N1) a gawsoch drwy'r post.
Ar wefan Money Claim Online, gallwch ddewis sut i ymateb i'r hawliad
Pan fyddwch yn mewngofnodi i wefan Money Claim Online, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
Bydd y wybodaeth a roddwch ar y system yn creu ffurflenni yn awtomatig, ac yn eu hanfon i'r llys. Os byddwch yn gwneud hyn, ni fydd angen anfon ffurflenni papur i'r llys.
Os nad ydych yn gallu defnyddio Money Claim Online gallwch ymateb drwy ddefnyddio'r ffurflenni a anfonwyd gyda'r ffurflen hawlio. Gweler 'Ymateb i hawliad am arian mewn llys: cyflwyniad' isod.
Sicrhewch eich bod yn ymateb o fewn 14 diwrnod
Ni allwch wneud y canlynol ar wefan Money Claim Online:
Os byddwch am gyfaddef yr hawliad a thalu ar unwaith, dylech anfon yr arian at yr hawliwr (yr unigolyn sy'n gwneud yr hawliad) neu fynd ag ef ato. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb. Wedyn bydd yn rhaid i'r hawliwr ddweud wrth Money Claim Online bod yr arian wedi cael ei dalu.
Os byddwch am gael mwy o amser i dalu, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen cyfaddefiad (N9A) a'i hanfon at yr hawliwr.
Os byddwch am gael mwy o amser i weithio allan sut i ymateb, gallwch gydnabod eich bod wedi cael yr hawliad o fewn 14 diwrnod. Mae hyn yn dangos eich bod yn ystyried yr hawliad yn hytrach na'i anwybyddu, ac fe'i gelwir yn 'gydnabyddiaeth o gyflwyno'r hawliad'.
Wedyn byddwch yn cael 14 diwrnod ychwanegol i lenwi eich ffurflen amddiffyn.
Os byddwch am gael mwy o amser i dalu'r swm sy'n ddyledus gennych, bydd yn rhaid i chi lenwi'r ffurflenni papur
Efallai y byddwch yn cyfaddef bod rhywfaint o'r arian yn ddyledus gennych ond nid y swm yn llawn.
Os byddwch am dalu rhywfaint o'r arian, dylech anfon y taliad at yr hawliwr.
Gallwch gyfaddef rhan o'r hawliad gan ddefnyddio Money Claim Online neu gallwch ddefnyddio'r ffurflenni papur. Os byddwch yn defnyddio'r ffurflenni papur bydd yn rhaid i chi eu hanfon yn uniongyrchol i'r llys.
Os byddwch am gael mwy o amser i dalu'r swm sy'n ddyledus gennych, bydd yn rhaid i chi lenwi'r ffurflenni papur. Llenwch y ffurflen cyfaddefiad (N9A) a'r ffurflen amddiffyn a gwrth-hawliad (N9B) a'u hanfon i'r llys. Bydd y llys yn anfon ffurflenni at yr hawliwr.
Os bydd yr hawliwr yn derbyn eich cynnig, efallai y bydd yn llenwi ffurflen sy'n nodi sut yr hoffai gael ei dalu.
Os bydd yn gwrthod eich cynnig, bydd yr hawliad yn mynd i'r llys ac efallai y bydd gwrandawiad i benderfynu'r achos.
Os byddwch eisoes wedi talu'r arian, gallwch nodi hynny ar Money Claim Online. Dylai hynny roi terfyn ar yr hawliad.
Os byddwch yn amddiffyn yr hawliad, bydd yn rhaid i chi roi manylion eich amddiffyniad yn y blwch 'manylion yr amddiffyniad' ar Money Claim Online.
Anfonir pob hawliad Money Claim Online i lys lleol pan fyddant yn cael eu hamddiffyn. Ar ôl iddynt gael eu hanfon i'r llys ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw beth arall ar-lein. Bydd y llys yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf.
Os byddwch yn credu bod arian yn ddyledus i chi gan yr unigolyn sy'n gwneud hawliad yn eich erbyn, gallwch wneud gwrth-hawliad.
Bydd angen i chi lenwi blychau ar gyfer y canlynol ar wefan Money Claim Online:
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i'r llys er mwyn gwneud gwrth-hawliad. Nodir y ffioedd yn y daflen 'ffioedd llysoedd sifil a theulu' isod.
Pan gyflwynir gwrth-hawliad drwy ddefnyddio Money Claim Online, bydd yn mynd i lys lleol. Bydd y llys yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf.
Bydd Money Claim Online yn cadw eich gwybodaeth wrth i chi gwblhau pob sgrin. Ar ôl i chi anfon eich ymateb, ni fyddwch yn gallu mynd yn ôl a newid yr hyn rydych wedi'i gofnodi.
Argraffu eich ymateb
Gallwch argraffu eich ymateb ar ffurf PDF neu mewn fformat testun plaen unwaith y byddwch wedi'i anfon.
Cadw llygad ar hynt hawliad yn eich erbyn
Gallwch edrych ar statws hawliad unrhyw bryd, ond efallai na fydd rhai pethau yn ymddangos tan y diwrnod nesaf. Mae'r system yn cymryd hyd at ddau ddiwrnod i brosesu newidiadau a 4.00pm yw'r terfyn amser.
Mae gan Money Claim Online sgriniau help y gallwch eu defnyddio. Dim ond gyda'r system y mae hyn yn eich helpu - ni fyddwch yn gallu cael cyngor cyfreithiol. Gallwch gysylltu â'r ddesg gymorth drwy e-bost neu alwad ffôn.
Ffôn: 0845 601 5935 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm)