Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Os gwneir dyfarniad llys sirol yn eich erbyn

Os bydd rhywun yn mynd â chi i'r llys am arian a bod y llys yn penderfynu y dylech dalu, byddwch yn cael dyfarniad llys sirol. Gallwch dalu'n llawn neu drwy randaliadau rheolaidd ac mae opsiynau ar gael os na allwch dalu. Mynnwch wybod sut i ymateb i ddyfarniad llys sirol.

Cael dyfarniad llys sirol

Caiff cofnodion am ddyfarniadau llysoedd sirol eu cadw am chwe blynedd

Bydd dyfarniad llys sirol yn dod drwy'r post a bydd yn esbonio:

  • faint o arian sy'n ddyledus gennych
  • sut y dylech dalu (yn llawn neu mewn rhandaliadau) a'r terfyn amser
  • manylion pwy y mae angen i chi ei dalu

Caiff cofnodion am ddyfarniadau llysoedd sirol eu cadw am chwe blynedd oni bai y byddwch yn talu'r swm llawn o fewn mis. Gall dyfarniad ei gwneud yn anodd i chi gael credyd, megis morgais neu gerdyn credyd.

Os byddwch yn cael dyfarniad, peidiwch â'i anwybyddu - mae'n debygol y byddwch yn gorfod talu mwy yn y dyfodol os gwnewch hynny ac mae'n bosibl y cewch statws credyd gwael.

Talu dyfarniad llys sirol

Bydd ffurflen y dyfarniad yn dweud wrthych sut i dalu. Fel arfer byddwch yn talu'r unigolyn y mae'r arian yn ddyledus iddo neu ei gyfreithiwr, ac nid y llys.

Gwnewch yn siŵr y gallwch brofi eich bod wedi talu - anfonwch sieciau neu wneud trosglwyddiad yn y banc a pheidiwch ag anfon arian parod drwy'r post. Cadwch gofnod o'ch taliadau a'u talu'n brydlon bob amser.

Os na allwch dalu dyfarniad llys sirol

Os na allwch dalu dyfarniad llys sirol, gallwch ofyn am:

  • gael gwneud taliadau rheolaidd
  • newid swm y taliadau rheolaidd
  • gael gohirio'r dyfarniad hyd nes y gallwch fforddio ei dalu

Bydd angen i chi ddweud wrth y llys faint rydych yn ei ennill a beth y mae angen i chi ei dalu, er enghraifft rhent a biliau nwy a thrydan. Byddwch yn dweud faint o'r dyfarniad y gallwch ei dalu bob wythnos neu bob mis. Efallai y bydd yr unigolyn y mae gennych arian yn ddyledus iddo yn cytuno. Os na fydd yn cytuno, bydd y llys yn penderfynu faint y byddwch yn ei dalu.

Os na allwch fforddio'r hyn mae'r llys yn ei benderfynu, cysylltwch â'r llys ar unwaith. Bydd y llys yn trefnu gwrandawiad gyda chi, yr unigolyn y mae gennych arian yn ddyledus iddo a'r barnwr, a byddwch yn cytuno ar daliad rheolaidd.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen er mwyn newid y dyfarniad, ac efallai y bydd angen i chi dalu ffi llys.

Os ydych yn cael trafferth â dyledion

Os ydych yn cael trafferth â dyledion, gallwch ofyn am gael peidio â thalu dim ar hyn o bryd. Gelwir hyn yn 'gohirio dyfarniad neu weithrediad' a bydd angen i chi fynd i wrandawiad llys i gael un.

Gallwch hefyd ofyn i'r llys am 'orchymyn gweinyddu' lle gallwch dalu eich holl ddyledion gydag un taliad rheolaidd i'r llys. Ni all eich credydwyr gymryd camau pellach yn eich erbyn heb ofyn i'r llys ac ni fyddwch yn talu llog. Bydd angen o leiaf un dyfarniad a chyfanswm dyledion o hyd at £5,000 arnoch i gael hwn.

Efallai y bydd angen i chi dalu costau llys i wneud unrhyw un o'r newidiadau hyn i'ch dyfarniad. Dilynwch y ddolen 'Costau Llys - a oes rhaid i chi eu talu?' isod am fwy o wybodaeth.

Anghytuno â gorchymyn llys sirol

Os oes rheswm da gennych, gallwch ofyn am i'r dyfarniad gael ei 'neilltuo' fel nad yw'n dod i rym ar unwaith. Bydd rhaid i chi dalu ffi. Yna bydd yr achos yn mynd yn ôl i ddechrau'r broses hawlio. Byddwch yn cael cyfle arall i egluro eich sefyllfa a bydd y dyfarniad yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr oni bai y gwneir un newydd.

Os nad yw'r taliad yn cyfateb i'r hyn y gwnaethoch ei gynnig

Os nad yw'r taliadau ar ffurflen y dyfarniad yn cyfateb i'r swm y gwnaethoch gynnig ei dalu, gallwch wneud cais i'r llys eu newid.

Dyfarniadau llysoedd sirol a'ch statws credyd

Bydd dyfarniadau yn aros ar y Gofrestr o Ddyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon am chwe blynedd. Mae banciau a chwmnïau benthyca yn defnyddio'r wybodaeth hon i helpu i benderfynu a ydynt am roi credyd neu fenthyciadau i chi. Dim ond os yw'r canlynol yn berthnasol y caiff eich dyfarniad ei dynnu oddi ar y gofrestr:

  • gwnaethoch dalu'r swm llawn o fewn mis
  • caiff ei neilltuo (tynnu'n ôl) gan y llys

Os byddwch yn talu'r swm llawn o fewn mis, gallwch dynnu eich dyfarniad oddi ar y gofrestr drwy anfon ffi a phrawf o'ch taliad i'r llys.

Os bydd yn cymryd mwy na mis i chi dalu dyfarniad, gallwch anfon ffi a phrawf o'ch taliad er mwyn i'r dyfarniad gael ei nodi'n ddyfarniad 'boddhaol' ar y gofrestr. Bydd yn aros am chwe blynedd ond bydd y bobl sy'n chwilio drwy'r gofrestr yn gweld eich bod wedi talu.

Gallwch chwilio drwy'r gofrestr eich hun am ffi. Os yw eich manylion yn anghywir, gallwch ofyn i'r llys wirio eich cofnod. Mae rhai cwmnïau'n cynnig gwiriadau 'adfer credyd', ond fel arfer gallwch ddatrys pethau eich hun gyda'r llys yn rhatach.

Additional links

Cyngor ar ddyled

Cael cyngor annibynnol am ddim i’ch helpu chi gyda’ch dyled

Allweddumynediad llywodraeth y DU