Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn cael hawliad llys, peidiwch â'i anwybyddu. Bydd gennych 14 diwrnod i ymateb. Os na fyddwch yn gwneud dim byd, neu os byddwch yn ymateb yn hwyr, gallech gael gorchymyn llys sirol. Mynnwch wybod beth y gallwch ei wneud os bydd rhywun yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.
Mae'n rhaid i chi ymateb i hawliad llys o fewn 14 diwrnod. Os byddwch yn anwybyddu'r hawliad, neu'n methu'r terfyn amser, efallai y byddwch yn cael gorchymyn llys sirol yn y pen draw. Efallai y byddwch yn cael gorchymyn i dalu'r arian (neu swm y penderfynwyd arno gan y llys) a chostau.
Os byddwch yn cael gorchymyn llys sirol, bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu rhoi ar gofrestr a ddefnyddir gan fanciau a chymdeithasau tai. Efallai y bydd hyn yn ei gwneud yn anodd i chi gael benthyciad neu forgais.
Gallwch gael cyngor cyfreithiol gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu ganolfan y gyfraith, os na fyddwch siŵr sut i ymateb.
Gallwch siarad â'r unigolyn arall neu ei gyfreithiwr o hyd a cheisio datrys yr hawliad heb fynd i'r llys.
Gallwch gynnig wneud taliad neu ddatrys yr anghydfod gan ddefnyddio cyfryngu.
Cyfryngu yw pan fo rhywun diduedd yn helpu'r partïon i ddatrys anghydfod, ac mae'n gallu bod yn rhatach, yn gyflymach ac yn llai o straen na mynd i'r llys.
Pan fyddwch yn cael yr hawliad llys, byddwch yn cael pecyn gyda'r holl ffurflenni sydd eu hangen arnoch i ymateb
Gallwch ymateb i'r hawliad llys gan ddefnyddio ffurflenni papur ac weithiau gallwch ymateb ar-lein.
Pan fyddwch yn cael yr hawliad llys byddwch yn cael pecyn gyda'r holl ffurflenni sydd eu hangen arnoch i ymateb, a nodiadau ar sut i'w llenwi.
Gallwch:
Darllenwch y nodiadau cyn llenwi'r ffurflenni.
Os cafodd eich hawliad ei wneud ar-lein, gallwch ymateb gan ddefnyddio gwefan Money Claim Online. Bydd y manylion mewngofnodi sydd eu hangen arnoch ar yr hawliad.
Os bydd eich amddiffyniad yn gymhleth a bod angen mwy o amser arnoch i ymateb i'r hawliad llys, gallwch lenwi'r ffurflen 'cydnabyddiaeth cyflwyno'.
Os byddwch yn cofnodi cydnabyddiaeth cyflwyno o fewn 14 diwrnod, byddwch yn cael 14 diwrnod ychwanegol i lenwi'r ffurflen amddiffyn.
Os byddwch yn cytuno bod arian yn ddyledus gennych a'ch bod am dalu, dylech anfon yr arian i'r cyfeiriad ar y ffurflen hawlio neu fynd ag ef yno. Os bydd angen i chi ychwanegu llog dyddiol, bydd y gyfradd ar y ffurflen.
Sicrhewch eich bod yn talu o fewn y terfyn amser ac yn cael derbynneb.
Os na fyddwch yn gallu fforddio talu'r arian ar unwaith, gallwch ofyn am amser i dalu. Bydd angen i chi wneud y canlynol:
Os bydd eich cynnig i dalu fesul cam yn cael ei dderbyn bydd yn rhaid i chi gadw at eich cynnig talu. Mae'n syniad da cadw eich copi eich hun o'ch cynnig talu.
Os bydd rhywfaint o arian yn ddyledus gennych, ond nad ydych yn cytuno â'r swm a hawlir, gelwir hyn yn 'gwneud cyfaddefiad rhannol'. Dylech wneud y canlynol:
Os na fyddwch yn cytuno bod y ddyled yn ddyledus gennych, neu os byddwch eisoes wedi talu'r arian, efallai y byddwch am amddiffyn yr hawliad.
Os felly, dylech wneud y canlynol:
Gallwch wneud gwrth-hawliad os byddwch yn credu bod arian yn ddyledus i chi gan yr unigolyn sy'n gwneud hawliad yn eich erbyn.
Bydd angen i chi nodi manylion eich gwrth-hawliad ar ffurflen N9B a'i hanfon i'r llys.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i'r llys er mwyn gwneud gwrth-hawliad. Nodir y ffioedd yn y daflen 'ffioedd llysoedd sifil a theulu' isod.
Nid yw staff eich llys sirol lleol yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol i chi ond efallai y byddant yn gallu ateb cwestiynau am lenwi'r ffurflenni ymateb.