Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn penderfynu amddiffyn hawliad llys yn eich erbyn, dylech ymateb i'r hawliad o fewn 14 diwrnod. Bydd angen i chi ddweud pam eich bod yn anghytuno â'r hawliad. Mynnwch wybod sut i amddiffyn hawliad llys yn eich erbyn.
Gallwch ofyn am amser i baratoi eich amddiffyniad
Os bydd rhywun yn gwneud hawliad llys yn eich erbyn i gael arian, cewch ffurflen hawlio drwy'r post. Os ydych o'r farn nad yw'r arian yn ddyledus gennych a'ch bod am amddiffyn eich hun, defnyddiwch y ffurflen amddiffyn yn y pecyn gyda'r hawliad. Neu gallwch ymateb ar-lein os gwnaed yr hawliad drwy wefan Money Claim Online.
Bydd angen i chi anfon eich amddiffyniad i'r ganolfan llys yn gyflym - o fewn 14 diwrnod. Os byddwch yn amddiffyn yr hawliad neu'n gwneud gwrth-hawliad, gallwch gael 14 diwrnod ychwanegol i lunio eich ymateb. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y ffurflen amddiffyn yn ofalus ac atebwch bopeth yn eich erbyn.
Os byddwch yn amddiffyn yr hawliad, caiff ei drosglwyddo i'ch llys lleol.
Os cewch ffurflen hawlio a'ch bod wedi talu eisoes, dylech lenwi'r ffurflen amddiffyn o hyd a'i dychwelyd i'r ganolfan llys. Yna bydd yr hawlydd yn eich hysbysu chi a'r llys os bydd:
Efallai eich bod wedi talu'r arian ar ôl i'r hawlydd ddechrau'r hawliad, ond cyn i chi gael y ffurflen hawlio drwy'r post. Os felly, gall yr hawlydd ofyn i chi dalu ei ffioedd llys.
Os byddwch yn cytuno bod rhywfaint o arian yn ddyledus gennych, ond llai na'r swm a hawlir, gallwch wneud 'cyfaddefiad rhannol'. Ceir ffurflenni at y diben hwn yn y pecyn o ddogfennau a anfonwyd atoch gyda'r hawliad. Dylech eu dychwelyd i'r ganolfan llys gan egluro'r rhesymau pam bod swm llai yn ddyledus gennych.
Gallwch naill ai:
Bydd yr hawlydd yn eich hysbysu chi a'r llys os bydd:
Os cewch hawliad llys, ond bod arian yn ddyledus i chi gan yr hawlydd mewn gwirionedd, gallwch geisio cael eich arian yn ôl, sef 'gwneud gwrth-hawliad'. Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen amddiffyn a gwrth-hawliad yn eich pecyn a'i hanfon i'r ganolfan llys.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi am wneud y gwrth-hawliad.
Gelwir hawliadau lle na ellir pennu union ffigur yn 'hawliadau amhenodol' mewn llys. Os yw'r hawliad mewn perthynas ag iawndal am swm amhenodol, er enghraifft 'hyd at £10,000', bydd angen i chi dderbyn neu wrthod cyfrifoldeb. Os byddwch yn derbyn cyfrifoldeb, gelwir hyn yn 'cyfaddef atebolrwydd' am ei dalu. Gallwch gyfaddef atebolrwydd:
Neu gallwch anghytuno â'r hawliad a'i amddiffyn.
Os byddwch yn amddiffyn yr hawliad, neu os na allwch chi a'r haliwr gytuno ar swm, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys.
Gelwir y mwyafrif o hawliadau am £5,000 neu lai yn 'fân hawliadau' ac ymdrinnir â hwy mewn 'gwrandawiadau mân hawliadau'. Gweler y ddolen 'Gwrandawiadau mân hawliadau' isod.
Ymdrinnir â hawliadau am £5,000 neu fwy mewn gwrandawiadau 'llwybr carlam' neu 'aml-lwybr'. Gweler y ddolen 'Gwrandawiadau ar gyfer hawliadau sy'n werth mwy na £5,000' isod.
Ar y cam hwn, mae'n bosibl datrys pethau o hyd cyn mynd i'r llys gan ddefnyddio gwasanaeth fel cyfryngu.
Gallwch ddewis cynrychioli eich hun yn achos hawliadau (gwerth llai na £5,000) am symiau penodol.
Gallwch hefyd fynd â rhywun gyda chi i'r llys i siarad ar eich rhan. 'Cynrychiolydd lleyg' yw'r unigolyn hwn a gall fod yn berthynas, yn ffrind neu'n weithiwr cynghori. Bydd angen i chi gael caniatâd gan y llys i wneud hyn a dylech gysylltu â'r llys cyn y gwrandawiad i ofyn am ganiatâd.
Os yw'r hawliad am swm sy'n fwy na £5,000 neu'n cynnwys hawliad am iawndal am anaf i rywun arall, mae'n well gael cyngor cyfreithiol.