Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwrandawiadau mân hawliadau

Os byddwch yn gwneud hawliad llys am £5,000 neu lai, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i wrandawiad mân hawliadau mewn llys sirol. Mynnwch wybod beth sy'n digwydd mewn gwrandawiadau mân hawliadau a beth i'w wneud er mwyn paratoi ar gyfer gwrandawiad.

Cyn bwrw ymlaen â hawliad

Gallech roi cynnig ar gyfryngu i ddatrys eich anghydfod

Cyn bwrw ymlaen â hawliad, dylech benderfynu a oes gwerth mynd i'r llys. Gall fod yn ddrud ac efallai na fyddwch yn ennill. Hyd yn oed os ydych chi'n ennill, efallai bydd yr ochr arall yn gwrthod talu a bydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r llys i orfodi eich hawliad.

Gallech hefyd roi cynnig ar gyfryngu i ddatrys eich anghydfod. Cyfryngu yw pan fo rhywun diduedd yn helpu dwy ochr i ddatrys problem. Gall fod yn gyflymach, yn haws i'w ddefnyddio ac yn fwy anffurfiol na gwrandawiad llys.

Sut yr ymdrinnir â hawliadau am lai na £5,000

Mynd i'r llys

Gwyliwch fideo am yr hyn sy'n digwydd mewn gwrandawiad mân hawliadau

‘Hawliadau am arian sy'n werth £5,000 neu lai yw 'mân hawliadau', a gaiff eu gwrando ar 'lwybr 'mân hawliadau' y llys sirol fel arfer. Gallwch fel arfer gynrychioli eich hun yn y llys.

Bydd y barnwr yn penderfynu beth sy'n digwydd i hawliad. Bydd yn edrych ar y canlynol:

  • beth mae'r ddwy ochr yn ei ddweud
  • y swm a'r math o hawliad
  • pa mor syml fydd y gwaith o baratoi'r gwrandawiad llys

Byddwch yn gallu cynrychioli eich hun heb gyfreithiwr os byddwch am wneud hynny.

Os bydd y swm yn fwy na £5,000 ond ei fod yn achos syml a bod y ddwy ochr am iddo gael ei glywed fel mân hawliad, efallai y bydd y barnwr yn cytuno. Yn yr achosion hyn gall y parti buddugol hawlio costau fel arfer.

Talu am eich gwrandawiad

Bydd angen i chi dalu am eich gwrandawiad Mae'r ffi'n dibynnu ar y swm rydych yn ei hawlio.

Os ydych ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu'r holl gostau neu rai ohonynt. Gweler y daflen 'Costau llys - a oes angen i mi eu talu?' isod, i weld a allwch gael help gyda chostau llys.

Os byddwch yn canslo'r gwrandawiad o leiaf saith diwrnod cyn y gwrandawiad, gallwch gael eich arian yn ôl.

Paratoi ar gyfer eich gwrandawiad

Byddwch yn cael dogfennau gan y llys sy'n egluro dyddiad ac amser eich gwrandawiad a'r hyn y disgwylir i chi ei wneud a dod ag ef gyda chi.

Gallwch ofyn i newid y dyddiad ond bydd yn rhaid i chi dalu ffi. Os na fyddwch am ddod, gallwch ysgrifennu at y barnwr a'r diffynnydd gan ofyn i'r llys benderfynu'r achos heb i chi fod yno.

Cyn y gwrandawiad:

  • sicrhewch eich bod wedi anfon copïau o'r dogfennau y maent wedi gofyn amdanynt i'r llys ac at y diffynnydd
  • gwnewch yn siŵr a ydych yn gallu dweud yr hyn rydych am ei ddweud yn yr amser a ganiateir
  • cadarnhewch y trefniadau gydag unrhyw dystion rydych wedi eu galw

Dim ond os bydd y barnwr yn caniatáu i chi ddefnyddio arbenigwr i roi tystiolaeth y byddwch yn gallu gwneud hynny. Dylech gysylltu â'r llys cyn y gwrandawiad i ofyn am ganiatâd.

Mynd i'r gwrandawiad

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cynrychioli eu hunain yn y llys mân hawliadau ond mae rhai yn dewis talu cyfreithiwr.

Gallwch gymryd 'cynrychiolydd lleyg' os nad oes gennych gyfreithiwr. Gallai fod yn rhywun rydych yn ei adnabod, megis eich partner. Gallech ofyn i weithiwr cynghori (megis rhywun o'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth). Bydd angen i chi gael caniatâd gan y llys i wneud hyn a dylech gysylltu â'r llys cyn y gwrandawiad i ofyn am ganiatâd.

Os oes gennych anabledd sy'n ei gwneud yn anodd i chi fynd i'r llys neu gyfathrebu, cysylltwch â'r llys.

Sut beth fydd y gwrandawiad

Cynhelir y gwrandawiad yn ystafell y llys neu ystafell y barnwr. Bydd y barnwr yn penderfynu a ddylid cynnal y gwrandawiad yn breifat (er enghraifft, os bydd gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei thafod).

Mae'r gwrandawiad yn anffurfiol felly ni fydd yn rhaid i chi dyngu llw ac mae'r rheolau ynghylch tystiolaeth a chroesholi yn fwy llac.

Bydd y barnwr yn penderfynu ar y canlyniad ar ddiwedd y gwrandawiad a byddwch yn cael hysbysiad ffurfiol yn y post. Os byddwch yn credu bod gennych resymau da dros wneud hynny, gallwch apelio yn erbyn y dyfarniad. Mae angen i chi gael caniatâd y barnwr ac mae'n rhaid gwneud cais o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad y cafodd y dyfarniad ei wneud.

Hawlio costau os byddwch yn ennill

Ynghyd â'r swm rydych yn gofyn amdano efallai y byddwch yn gallu hawlio'r canlynol:

  • unrhyw ffioedd llys rydych wedi'u talu
  • hyd at £260 am gyngor cyfreithiol ar gyfer rhai hawliadau
  • enillion a gollwyd ar eich cyfer chi ac unrhyw dyst (hyd at £50 y diwrnod)
  • costau teithio a threuliau dros nos

Gorfodi'r dyfarniad

Os byddwch yn ennill achos, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r llys er mwyn i'r llys orfodi'r dyfarniad.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Cysylltiadau defnyddiol

Help a chyngor ynghylch materion arian a threth

Allweddumynediad llywodraeth y DU