Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfryngu ar gyfer mân hawliadau

Mae'r llysoedd yn darparu gwasanaeth cyfryngu am ddim ar gyfer anghydfodau sy'n ymwneud â 'mân hawliadau’, sef hawliadau am arian sy'n werth £5,000 neu lai. Ffordd o ddod i gytundeb gyda help trydydd person diduedd yw cyfryngu. Mynnwch wybod sut i ddefnyddio cyfryngu ar gyfer mân hawliadau ac osgoi mynd i'r llys.

Pam fod gwerth rhoi cynnig ar gyfryngu ar gyfer mân hawliad

Apwyntiadau cyfryngu ar gyfer mân hawliadau

Gwyliwch fideo sy'n dangos sut mae apwyntiadau cyfryngu ar gyfer mân hawliadau'n gweithio

Mae'r llysoedd yn darparu gwasanaeth cyfryngu am ddim

er mwyn ceisio datrys anghydfodau sy'n ymwneud ag arian cyn iddynt fynd i wrandawiad llys. Telir y gost o ddefnyddio'r gwasanaeth gan y ffioedd llys a delir gan yr unigolyn sy'n gwneud yr hawliad.

Os ydych yn ymwneud â hawliad arian sy'n werth £5,000 neu lai, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth a elwir yn wasanaeth cyfryngu ar gyfer mân hawliadau.

Mae'n werth rhoi cynnig ar gyfryngu, yn hytrach na gwrandawiad llys, oherwydd gall fod:

  • yn gynt - gall sesiwn gymryd tua awr ac ni fydd yn rhaid i chi ddisgwyl misoedd am wrandawiad llys
  • yn haws i'w ddefnyddio - gellir ei wneud dros y ffôn
  • yn llai ffurfiol - nid oes barnwr na threial

Gall hefyd arbed arian i chi - gallwch gael ychydig o'r costau llys wedi'u talu'n ôl os bydd y cyfryngu'n llwyddiannus. Bydd angen i chi roi o leiaf saith diwrnod o rybudd ysgrifenedig i'r llys cyn dyddiad y gwrandawiad er mwyn cael ad-daliad llawn.

Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth cyfryngu?

Mae'n rhaid i werth yr hawliad fod yn llai na £5,000

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth cyfryngu mân hawliadau os:

  • ydych yn gwneud hawliad - er enghraifft os ydych yn ceisio cael arian sy'n ddyledus i chi
  • mae rhywun wedi cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn ac yn dweud bod gennych arian yn ddyledus iddynt

Mae'n rhaid i werth yr hawliad fod yn llai na £5,000.

Gall y naill ochr a'r llall awgrymu defnyddio gwasanaeth cyfryngu ar gyfer mân hawliad, ond mae'n rhaid i'r ddwy ochr gytuno er mwyn iddo ddigwydd.

Gellir defnyddio'r gwasanaeth mewn achosion a amddiffynnir - lle mae rhywun yn penderfynu amddiffyn achos sydd wedi'i wneud yn ei erbyn.

Sut mae cyfryngu ar gyfer mân hawliad yn gweithio

Os byddwch yn dewis defnyddio cyfryngu ar gyfer mân hawliad, bydd y cyfryngwr, sef aelod o staff y llys, yn cysylltu â chi a'r ochr arall i drefnu apwyntiad.

Fel arfer cynhelir y rhan fwyaf o apwyntiadau dros y ffôn. Bydd hyn yn arbed y gost a'r drafferth o deithio i'r llys i chi. Os byddai'n well gennych fod yn bresennol i drafod y broblem, gallwch gyfarfod â'r cyfryngwr a'r ochr arall mewn ystafell yn y llys lleol.

Fel arfer bydd cyfryngu'n cymryd tua awr, ond gall gymryd mwy o amser os bydd angen.

Bydd y cyfryngwr yn rhoi'r cyfle i'r ddwy ochr ddweud eu dweud. Ni fydd yn penderfynu beth y dylech ei wneud, fel y byddai barnwr, ond bydd yn helpu'r ddwy ochr ganfod tir cyffredin ac yn awgrymu ffyrdd o symud ymlaen.

Os bydd y cyfryngu'n digwydd dros y ffôn, gall y cyfryngwr ffonio'r ddwy ochr â chynigion a gwrthgynigion ar gyfer setlo hyd nes y dewch i gytundeb.

Pa fanteision a gewch wrth gyfryngu mân hawliadau

Bydd defnyddio gwasanaeth cyfryngu yn rhoi'r cyfle i chi drafod y mater yn anffurfiol a dod i gytundeb y mae'r ddwy ochr yn fodlon arno.

Bydd gennych ystod ehangach o opsiynau nag y gallai barnwr mewn llys eu cynnig. Er enghraifft, gallwch

  • gytuno i ad-dalu neu adennill rhan o'r swm
  • setlo ar gynllun ad-dalu
  • gofyn am iawndal neu ymddiheuriad

Mae'r rhan fwyaf o sesiynau'n gorffen â chytundeb, ac fel arfer bydd y rheini sy'n setlo'n glynu at eu cytundeb.

Sut i drefnu gwasanaeth cyfryngu

Cysylltwch â'ch llys lleol os ydych am roi cynnig ar gyfryngu

Os ydych am roi cynnig ar gyfryngu, dylech gysylltu â'ch llys sirol lleol. Cewch fanylion eich llys gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Os ydych eisoes wedi gwneud mân hawliad neu wedi ymateb i hawliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r llys cyn gynted â phosibl i drefnu gwasanaeth cyfryngu.

Gall staff y llys roi gwybodaeth i chi am sut mae'r gwasanaeth yn gweithio, ond ni fydd yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol i chi.

Os ydych yn rhan o hawliad llys, bydd ffurflen a elwir yn 'holiadur dyrannu' yn cael ei hanfon atoch. Bydd yr holiadur yn gofyn i chi a ydych am geisio setlo'r achos drwy 'drafodaeth anffurfiol neu gynllun datrys anghydfodau amgen'. Ticiwch y blwch 'ydw' os ydych am roi cynnig ar gyfryngu.

Fel arfer, bydd y llys yn gohirio'r gwrandawiad llys am tua mis er mwyn rhoi cyfle i gynnal proses gyfryngu.

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn dod i gytundeb

Os nad yw cyfryngu yn llwyddiant, gall yr achos fynd i wrandawiad mân hawliadau o hyd.

Ni fydd y barnwr yn cael gwybod am gynnwys unrhyw drafodaethau yn y broses gyfryngu gan y bydd yn cael ei gadw'n gyfrinachol. Fodd bynnag, fe'ch caniateir i ddweud wrth y llys eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu.

Os yw’ch achos yn werth mwy na £5,000

Os ydych yn ymwneud â hawliad sy’n werth swm fwy o arian, gallwch ddod o hyd i wasanaeth cyfryngu drwy ddefnyddio’r teclyn ‘dod o hyd i ddarparwr cyfryngu sifil’ gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Cysylltiadau defnyddiol

Help a chyngor ynghylch materion arian a threth

Allweddumynediad llywodraeth y DU