Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawliadau am arian: os bydd diffynnydd yn cyfaddef bod swm penodol yn ddyledus ganddo

Os byddwch yn gwneud hawliad am swm sefydlog, a bod y diffynnydd yn cyfaddef bod arian yn ddyledus ganddo, bydd angen i chi benderfynu sut y caiff yr arian ei dalu. Mynnwch wybod beth i'w wneud os bydd y diffynnydd yn cytuno bod ganddo arian yn ddyledus i chi.

Derbyn cynnig y diffynnydd

Os byddwch yn gwneud hawliad llys yn erbyn rhywun am swm penodol, efallai y bydd yn cyfaddef bod yr arian yn ddyledus ganddo i chi ac yn cytuno i'w dalu. Bydd angen i chi gytuno ar sut y caiff yr arian ei dalu.

Byddwch yn cael ffurflen gan y diffynnydd, sef 'ffurflen cyfaddefiad'. Dylai'r diffynnydd fod wedi llenwi'r rhan o'r ffurflen sy'n egluro sut mae'n cynnig eich talu.

Mae angen i chi wneud yn siŵr bod y diffynnydd wedi cyfaddef bod y swm cyfan a hawliwyd gennych yn ddyledus ganddo.

Os bydd y diffynnydd yn eich talu:

  • dwedwch wrth y diffynnydd eich bod chi’n tynnu eich hawliad yn ôl
  • rhowch wybod i'r llys bod yr achos wedi cau

Cysylltwch â’r Ganolfan Hawliadau Llys Sirol Ariannol (County Court Money Claims Centre) yn uniongyrchol drwy e-bost, drwy lythyr neu dros y ffôn i gadarnhau eich bod chi wedi rhoi gwybod i’r diffynnydd.

Os nad yw’r diffynnydd wedi talu - gofyn i'r llys orchymyn taliad

Os nad yw'r diffynnydd wedi talu, gallwch ofyn i'r ganolfan llys orchymyn iddo wneud hynny. Gelwir hyn yn 'cofnodi dyfarniad ar gyfaddefiad'.

Os gwnaethoch hawlio drwy ddefnyddio ffurflen bapur

Os gwnaethoch hawlio drwy ddefnyddio ffurflen bapur, gallwch ddefnyddio’r ffurflen hysbysiad cychwyn (N205A). Llenwch yr adran ‘cais am ddyfarniad’ o’r ffurflen, ac anfonwch y ffurflen neu ewch â hi i’r ganolfan llys.

Os nad oes gennych y ffurflen hon am ba reswm bynnag, gallwch ei lawrlwytho gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Os gwnaethoch hawlio ar-lein

Gallwch ofyn i'r llys orchymyn i'r diffynnydd i dalu gan ddefnyddio Money Claim Online, os gwnaethoch yr hawliad ar-lein.

Gallwch wneud yr hawliad unrhyw adeg, ond dim ond ar ddiwedd pob dydd y mae'r system yn prosesu ceisiadau.

Penderfynu sut y caiff yr arian ei dalu

Os nad yw'r diffynnydd wedi gwneud cynnig i chi o ran sut y bydd yn talu, bydd angen i chi benderfynu sut yr hoffech gael eich talu. Ystyriwch sut y byddwch fwyaf tebygol o gael eich arian yn ôl.

Bydd yn rhaid i chi gytuno â'r diffynnydd os dylid talu'r arian:

  • yn llawn ar unwaith
  • erbyn dyddiad yn y dyfodol
  • drwy daliadau rheolaidd

Efallai y bydd gofyn am y swm cyfan yn llawn ar unwaith yn demtasiwn. Fodd bynnag, efallai bod y diffynnydd yn fwy tebygol o dalu os gall dalu'n rheolaidd gyda rhandaliadau bychain.

Gorchymyn y diffynnydd i dalu

Bydd y ganolfan llys yn anfon ffurflen y dyfarniad at y diffynnydd yn gorchymyn iddo dalu. Bydd y dyfarniad yn dweud wrth y diffynnydd:

  • faint i'w dalu
  • pryd i'w dalu
  • ble i anfon y taliadau

Byddwch chi'n cael copi hefyd.

Os nad ydych am dderbyn cynnig y diffynnydd

Os nad ydych yn fodlon ar pryd a sut y mae'r diffynnydd yn cynnig talu, llenwch eich rhan o'r ffurflen 'hysbysiad cychwyn'. Eglurwch ar y daflen pam nad ydych yn cytuno â'r cynnig. Os nad oes gennych y ffurflen hon, gallwch lenwi'r ffurflen 'cais am ddyfarniad ac ymateb i gyfaddefiad' (N225).

Bydd y ganolfan llys yn ystyried beth mae'r diffynnydd wedi'i gynnig a beth oedd eich ymateb. Bydd yn cyfrifo faint y gall y diffynnydd ei dalu, ac yn gwneud penderfyniad.

Gallwch chi a'r diffynnydd anghytuno'n swyddogol â’r penderfyniad o fewn 14 diwrnod. Bydd angen i chi ysgrifennu at y ganolfan llys a bydd barnwr yn penderfynu ar y canlyniad. Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i wrandawiad llys. Byddwch chi a'r diffynnydd yn clywed beth yw penderfyniad y barnwr.

Os nad yw'r diffynnydd yn talu – cael y penderfyniad ei orfodi

Ni fydd y llysoedd yn cysylltu'n awtomatig â'r diffynnydd os na fydd yn talu. Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd camau ychwanegol i drefnu bod y penderfyniad yn cael ei orfodi. Er enghraifft, gallai'r llys anfon beilïaid i gasglu'r taliad neu nwyddau i'w gwerthu mewn arwerthiant.

Mae pethau gwahanol y gallwch ofyn i'r llys eu gwneud, a bydd yn rhaid i chi dalu ffi. Fel arfer caiff y ffi hon ei hychwanegu at yr hyn sy'n ddyledus gennych. Gweler 'Sut y caiff dyfarniadau llysoedd sirol eu gorfodi', isod, am ragor o wybodaeth.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Cysylltiadau defnyddiol

Help a chyngor ynghylch materion arian a threth

Allweddumynediad llywodraeth y DU